Neidio i'r cynnwys

Teithiau Tywys Bethel

Dewch ar daith dywys o gwmpas ein swyddfeydd cangen, sy’n aml yn cael eu galw’n Bethel. Mewn llawer o swyddfeydd mae arddangosfeydd hunan-dywys i’w gweld.

Teithiau Tywys Wedi Ailgychwyn: Mewn llawer o wledydd, mae teithiau tywys yn ein swyddfeydd cangen wedi ailgychwyn ers Mehefin 1, 2023. Am fanylion, cysylltwch â’r swyddfa gangen hoffech chi ymweld â hi. Plîs peidiwch ag ymweld os ydych chi’n cael prawf positif am COVID-19, os oes gynnoch symptomau annwyd neu ffliw, neu os ydych chi’n ddiweddar wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd wedi cael prawf positif am COVID-19.

Unol Daleithiau America

Ar y dudalen hon

  • Gwybodaeth am Deithiau Tywys

  • Arddangosfeydd

  • Cyfeiriad a Rhif Ffôn

Gwybodaeth am Deithiau Tywys

Bwcio Taith Dywys—Llai nag 20 o Bobl

Bwcio Taith Dywys—20 neu Fwy o Bobl

Gweld neu Newid Taith Dywys

Lawrlwytho Taflen Daith—Warwick

Lawrlwytho Taflen Daith—Patterson

Lawrlwytho Taflen Daith—Wallkill

Arddangosfeydd

Arddangosfeydd Hunan-Dywys Warwick

Y Beibl a’r Enw Dwyfol. Yn yr arddangosfa hon cewch weld Beiblau prin sy’n dangos sut mae enw Duw wedi ei gadw yn yr Ysgrythurau er gwaethaf ymdrechion i’w ddileu. Mewn oriel sy’n troi, cewch weld Beiblau prin eraill ac arteffactau sy’n berthnasol i’r Beibl.

Pobl Sy’n Dwyn Enw Jehofa. Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno hanes gweledol etifeddiaeth ysbrydol Tystion Jehofa. Mae’n cynnwys arteffactau, lluniau, a hanesion hunangofiannol sy’n dangos sut mae Jehofa wedi arwain, dysgu, a threfnu ei bobl i wneud ei ewyllys fesul cam.

Pencadlys—Ffydd ar Waith. Mae’r arddangosfa ryngweithiol hon yn esbonio gwaith pwyllgorau’r Corff Llywodraethol a sut maen nhw’n helpu Tystion Jehofa i ddilyn y cyfarwyddiadau Ysgrythurol i gwrdd gyda’i gilydd, i wneud disgyblion, i dderbyn bwyd ysbrydol, ac i ddangos cariad tuag at ei gilydd.

Arddangosfeydd Hunan-Dywys Patterson

Pentref o’r Ganrif Gyntaf. Hoffech chi wybod sut roedd pobl yn byw pan oedd Iesu ar y ddaear? Yn y pentref Beiblaidd, cewch weld, a hyd yn oed cymryd rhan yn y pethau roedd pobl yn eu gwneud bob dydd mewn pentref yn y ganrif gyntaf. Bydd yr arddangosfa hon yn dod â’r Beibl yn fyw.

Arian Bath o’r Ganrif Gyntaf. Yn yr arddangosfa hon cewch weld rhai o’r darnau arian y mae sôn amdanyn nhw yn yr Ysgrythurau Groeg. Mae’r arddangosfa yn rhoi manylion diddorol am bob darn arian ac yn esbonio sut maen nhw wedi eu cysylltu gyda’r hanesion yn y Beibl.

‘Bydd Pob Un o Dy Blant Yn Cael Eu Dysgu Gan Jehofa.’ Mae’r arddangosfa hon yn olrhain hanes ysgolion a rhaglenni hyfforddi ein cyfundrefn. Gwelwch sut mae’r ysgolion hyn wedi hyfforddi gwirfoddolwyr i fod yn athrawon da ac yn henuriaid yn y cynulleidfaoedd.

“Amddiffyn a Sefydlu’r Newyddion Da yn Gyfreithiol.” Yn yr arddangosfa hon cewch ddarllen hanes Tystion Jehofa a arhosodd yn ffyddlon i’w daliadau hyd yn oed o dan bwysau mawr gan wrthwynebwyr. Gwelwch beth mae ein cyfundrefn wedi ei wneud i greu sail gyfreithiol ar gyfer ein gwaith pregethu mewn gwledydd o gwmpas y byd.

Cyfeiriad a Rhif Ffôn

Warwick

Sut i Gyrraedd

Patterson

Sut i Gyrraedd

Walkill

Sut i Gyrraedd