Dysgodd Oddi Wrth y Carcharorion
Yn 2011, fe wnaeth ffoadur o Eritrea gyrraedd Norwy. Pan siaradodd Tystion Jehofa ag ef, dywedodd wrthyn nhw ei fod wedi cyfarfod y Tystion yn ei famwlad. Fel milwr, roedd wedi gweld y Tystion a oedd yn y carchar oherwydd eu ffydd yn gwrthod pwysau i ymuno â’r fyddin, hyd yn oed pan gawson nhw eu trin yn ofnadwy.
Yna, yn sydyn, cafodd y dyn ei hun ei garcharu. Yn yr un carchar roedd tri o Dystion Jehofa—Paulos Eyasu, Negede Teklemariam, ac Isaac Mogos—a oedd wedi bod yn y carchar oherwydd eu ffydd er 1994.
Tra ei fod yn y carchar, gwelodd y dyn â’i lygaid ei hun fod Tystion Jehofa yn byw eu pregeth. Sylwodd ar eu gonestrwydd a’r ffordd roedden nhw hyd yn oed yn rhannu eu bwyd â’r carcharorion eraill. Gwelodd fod y Tystion yn y carchar yn astudio’r Beibl gyda’i gilydd bob dydd, ac yn gwahodd eraill i ymuno â nhw. Bydden nhw wedi cael eu rhyddhau o’r carchar petasen nhw wedi arwyddo i ddweud eu bod nhw’n troi cefn ar eu ffydd, ond roedden nhw’n gwrthod bob tro.
Fe wnaeth y profiad hwn argraff fawr ar y dyn hwn, ac ar ôl iddo symud i Norwy roedd eisiau gwybod pam bod ffydd Tystion Jehofa mor gadarn. Felly pan aeth y Tystion i’w weld, dechreuodd astudio’r Beibl gyda nhw a mynd i’r cyfarfodydd.
Ym mis Medi 2018, cafodd ei fedyddio’n un o Dystion Jehofa. Heddiw mae’n manteisio ar bob cyfle i siarad â phobl o Eritrea a’r Swdan, a’u hannog i astudio’r Beibl a magu ffydd gadarn.