Hyrwyddo JW.ORG yn Ffair Lyfrau Toronto
O 13 hyd 16 Tachwedd 2014, roedd Canolfan Gynhadledd Metro Toronto yn gartref i Ffair Lyfrau Ryngwladol Toronto ac yn arddangosfa ar gyfer llyfrau printiedig a digidol. Daeth mwy na 20,000 o bobl i’r ffair dros bedwar diwrnod.
Ymhlith arddangoswyr y ffair oedd Tystion Jehofa, a oedd yno gyda stondin ryngweithiol. Roedd hwn wedi ei gosod gyda sawl ciosg ar gyfer tabledi electronig lle roedd pobl yn gallu dysgu sut i lywio jw.org.
Dywedodd un o reolwyr y ffair: “Mae’ch gwefan yn eitha’ modern. Dw i’n meddwl dylai’r arddangoswyr eraill cymryd sylw o’r ffordd rydych chi’n cyflwyno pethau.” Yn ôl ymwelwyr roedd y wefan yn broffesiynol iawn, hawdd ei llywio ac yn ateb cwestiynau pwysig. Yr hyn oedd yn plesio pobl am y wefan oedd ei bod yn eu helpu gyda gwahanol broblemau a phryderon.
Wrth i wirfoddolwyr y Tystion sgwrsio â’u hymwelwyr, daeth yn eglur nad oedd y rhan fwyaf wedi clywed am jw.org cyn y ffair lyfrau. Roedd bron pawb yn hapus i dderbyn cerdyn cyswllt neu’r daflen Ble Cawn Ni Atebion i’r Cwestiynau Mawr? “Wnawn ni edrych ar y wefan eto,” meddai sawl un, a gofynnodd eraill i Dystion Jehofa gysylltu â nhw gartref.
“Diwrnod y Plant” oedd dydd Gwener yn y ffair lyfrau, felly dangosodd y gwirfoddolwyr animeiddiadau bwrdd gwyn oddi ar jw.org. Byddai grwpiau o blant ysgol gyda’u hathrawon yn stopio i wylio.
Roedd dyn o Chicago, a oedd yn gweithio i gwmni sy’n argraffu Beiblau, yn gwerthfawrogi safon y New World Translation of the Holy Scriptures yn yr arddangosfa. Roedd yn awyddus i gysylltu â’r argraffwyr a chafodd gerdyn cyswllt.
O’r mwy na 700 o ieithoedd ar gael ar y wefan, edrychodd yr ymwelwyr ar 16 ohonyn nhw—Amhareg, Bengaleg, Coreeg, Fietnameg, Ffrangeg, Groeg, Gwjarati, Hindi, Portiwgaleg, Saesneg, Sbaeneg, Swedeg, Tamil, Tigrinia, Tsieineeg, ac Wrdw.
Sylwodd un o’r Tystion a oedd yn croesawu ymwelwyr i’r stondin fod yna wahaniaeth mawr rhwng sôn am y wefan wrth bobl a’i dangos. “Cawson ni gyfle gwych i ddangos y wefan,” meddai.