Neidio i'r cynnwys

Llyfryn Sydd ar Gael Mewn Nifer Mawr o Ieithoedd

Llyfryn Sydd ar Gael Mewn Nifer Mawr o Ieithoedd

Mae Odval yn byw ym Mongolia. Dydy hi ddim yn sicr o’i hoed, ond mae hi’n meddwl y cafodd hi ei geni ym 1921. O’r amser pan oedd hi’n ifanc, roedd hi’n gofalu am anifeiliaid ei rhieni, ac aeth hi i’r ysgol am flwyddyn yn unig. Dydy hi ddim yn gallu darllen. Ond, er hynny, yn ddiweddar roedd llyfryn lliwgar yn ei helpu hi i ddod i adnabod Duw ac i ddysgu am y dyfodol hapus sydd o flaen y rhai sy’n gwrando arno. Mae’r wybodaeth hon wedi cyffwrdd â’i chalon.

Mae’r llyfryn, a gyhoeddwyd yn 2011 gan Dystion Jehofa, ar gael mewn dau fersiwn. Mae’r ddau yn cynnwys lluniau hardd, ond mae yna lai o destun yn un ohonyn nhw.

Ym mis Ionawr 2014, roedd Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, y fersiwn sydd gyda mwy o destun, ar gael mewn 583 o ieithoedd; a’r llall, Gwrando ar Dduw, mewn 483. Cymharwch y ffigyrau hyn â Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Erbyn mis Hydref 2013, roedd y ddogfen wedi cael ei chyfieithu i mewn i 413 o ieithoedd. Hyd yn hyn, mae bron i 80 miliwn o gopïau o’r ddau lyfryn wedi cael eu dosbarthu.

Ym Mrasil, roedd gwraig mewn oed yn hapus i dderbyn y llyfryn Gwrando ar Dduw, ac fe ddywedodd: “Mae’n galonogol gwybod bod yna rai sy’n meddwl am bobl fel y fi. Dydw i erioed wedi derbyn eich cylchgronau oherwydd dydw i ddim yn gallu darllen. Ond dw i eisiau’r llyfryn hwn.”

Dywedodd Brigitte, dynes yn Ffrainc nad yw’n gallu darllen nac ysgrifennu: “Bob dydd dw i’n edrych ar y lluniau yn y llyfryn.”

Ysgrifennodd un o’r Tystion yn Ne Affrica: “Dydw i ddim wedi darganfod llyfryn gwell er mwyn cyflwyno’r Beibl i bobl yn y maes Tsieinead. Rwyf wedi dysgu pobl o wahanol gefndiroedd addysgol, gan gynnwys pobl sydd wedi graddio o’r brifysgol, pobl glyfar iawn, a hefyd pobl nad yw’n gallu darllen yn dda iawn o gwbl. Mae’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth yn fy ngalluogi i i ddysgu gwirioneddau sylfaenol i bobl yn gyflym. O fewn hanner awr, mae sylfaen wedi ei gosod.”

Mae dau Dyst yn yr Almaen yn dysgu cwpl addysgedig. Roedd y llyfryn wedi creu argraff fawr ar y gŵr, ac fe ddywedodd: “Pam wnest ti ddim rhoi’r llyfryn i fi yn gynharach? Y mae’n fy helpu i ddeall digwyddiadau a dysgeidiaethau’r Beibl.”

Dywedodd dynes fyddar yn Awstralia: “Am flynyddoedd maeth o’n i’n byw gyda lleianod mewn lleiandy. Doedd neb yn gallu bod yn agosach at yr arweinwyr crefyddol nag yr oeddwn i. Ond, nid oedd yr un ohonyn nhw yn gallu egluro beth yw Teyrnas Dduw. Mae’r lluniau yn y llyfryn hwn wedi fy helpu i i ddeall gwir ystyr Mathew 6:​10.”

Ysgrifennodd swyddfa gangen Tystion Jehofa yng Nghanada: “Ar ôl gweld y llyfryn Gwrando ar Dduw yn yr iaith Crio, dywedodd llawer yng nghymuned Sierra Leonaidd fod Tystion Jehofa yn gweithio’n galed iawn i rannu neges y Beibl â phobl. Mae rhai wedi dweud, ‘Rydych chi’n caru pobl, ond dydy nifer o eraill ddim.’”