Ynysoedd y Philipinau—Oriel Luniau 1 (Chwefror 2014 Hyd Fai 2015)
Mae Tystion Jehofa yn codi adeiladau newydd ac yn adnewyddu adeiladau presennol yn swyddfa gangen Ynysoedd y Philipinau yn Ninas Quezon. Gan fod llenyddiaeth ar gyfer y Philipinau bellach yn cael ei hargraffu yng nghangen Japan, mae’r argraffdy blaenorol wedi ei drawsffurfio’n gartref newydd ar gyfer yr Adran Gyfrifiaduron, yr Adran Dylunio ac Adeiladu’r Gangen (LDC), yr Adran Cynnal a Chadw, yr Adran Gludo, a’r Adran Gyfieithu. Mae’r oriel luniau yn dangos rhywfaint o’r gwaith a wnaed ar yr argraffdy blaenorol ac adeiladau eraill rhwng Chwefror 2014 a Mai 2015. Yn ôl y rhaglen disgwylir i’r prosiect cael ei gwblhau erbyn Hydref 2016.
28 Chwefror, 2014—Adeilad 7
Gweithwyr dros dro yn bagio gwydr ffibr ar gyfer inswleiddio, er mwyn ei amddiffyn rhag tamprwydd. Maen nhw’n gwisgo dillad gwarchod i atal y croen rhag cosi.
2 Ebrill, 2014—Adeilad 7
Mae gweithwyr yn cwblhau nenfwd y stiwdio recordio ar gyfer Iaith Arwyddion y Philipinau. Bydd y tyllau sgwâr yn y nenfwd yn cynnal y tryledwr HVAC, sy’n caniatáu i awyr sydd wedi’i thymheru gael ei dosbarthu i’r stiwdio gyfan.
21 Hydref, 2014—Safle Dinas Quezon
Tyllu er mwyn gosod system ganoledig o ddŵr wedi ei oeri. Bydd y system newydd yn gwasanaethu pob adeilad yn y gangen.
19 Rhagfyr, 2014—Rhodfa uwchddaearol yn cysylltu Adeiladau 1, 5, a 7
Bydd y rhodfa uwchddaearol newydd yn cysylltu pob prif adeilad gan gynnwys Adeilad 1, lle mae’r ystafell fwyta. Bydd y rhodfa yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y 300 a mwy o bersonél sy’n gweithio yn Adeilad 7.
15 Ionawr, 2015—Adeilad 5
Craen 50-tunnell yn codi llenni dur ar gyfer y to. Craeniau o amrywiol meintiau yn cael eu defnyddio gan gontractwyr lleol.
15 Ionawr, 2015—Adeilad 5A (Pod Cylchredeg)
Mae’r pod ar ddwy lefel, gyda 125-metr-sgwâr (1,345 tr sg) o le, dau doiled, twll grisiau, a lifft. Mae’r ffaith bod y toiledau a’r grisiau i gyd o fewn y pod yn rhyddhau mwy o le o fewn Adeilad 5 gerllaw. Hefyd mae rhoi’r lifft o fewn y pod, yn lle o fewn Adeilad 5, yn sicrhau nad yw sŵn y lifft yn amharu ar y recordiadau sain a fideo.
15 Ionawr, 2015—Adeilad 5A (Pod Cylchredeg)
Yn cysgodi rhag gwres yr haul, mae gweithwyr yn gosod barrau atgyfnerthu. Ar gyfartaledd, yn ystod y dydd mae’r tymheredd yn gallu codi i 29 gradd Celsius (84°F) yn Ionawr a 34 gradd Celsius (93°F) yn Ebrill.
5 Mawrth, 2015—Adeilad 5
Tîm yn atgyfnerthu trawstiau to gan ddefnyddio pren. Ar gyfer Adeilad 5, defnyddiwyd oddetu 800 darn o bren caled.
17 Mawrth, 2015—Adeilad 5
Cymysgu concrit â llaw ar gyfer prosiect bach. Ymhlith y rhai sy’n helpu ar y prosiect adeiladu yw 100 a mwy o weithwyr o Awstralia, Canada, Ffrainc, Japan, Seland Newydd, De Corea, Sbaen, yr Unol Daleithiau, a gwledydd eraill.
25 Mawrth, 2015—Adeilad 5
Gosod to dur ar Adeilad 5, lle oedd yr Adran Gyfieithu gynt. Mae’r adeilad yn cael ei adnewyddu ar gyfer yr adran Sain a Fideo a’r Adran Wasanaeth.
13 Mai, 2015—Adeilad 5
Gan ddefnyddio llif gron, mae gweithiwr metel yn torri stydiau a fydd yn cael eu defnyddio i fframio waliau’r swyddfa.