Pwy Oedd Sylfaenydd Tystion Jehofa?
Dechreuodd gyfundrefn Tystion Jehofa’r oes hon ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ar yr adeg honno, roedd grŵp bach o Fyfyrwyr y Beibl a oedd yn byw yn ymyl Pittsburgh, Pensylfania yn yr Unol Daleithiau, yn dechrau astudio’r Beibl mewn modd manwl a threfnus. Roedden nhw’n cymharu dysgeidiaethau’r eglwysi â’r hyn y mae’r Beibl yn ei wir ddysgu. Dechreuon nhw gyhoeddi’r hyn a ddysgon nhw mewn llyfrau, papurau newydd, a’r cylchgrawn sydd heddiw yn cael ei alw Y Tŵr Gwylio—Yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa.
Roedd dyn o’r enw Charles Taze Russell ymysg y grŵp o fyfyrwyr diffuant y Beibl. Er bod Russell yn arwain y gwaith o addysgu pobl am y Beibl, ac mai ef oedd golygydd cyntaf Y Tŵr Gwylio, nid oedd yn sylfaenydd crefydd newydd. Bwriad Russell ac eraill a oedd yn Fyfyrwyr y Beibl, fel yr oedden nhw’n cael eu hadnabod ar y pryd, oedd hybu dysgeidiaethau Iesu Grist a dilyn ymarferion Cristnogol cynulleidfa’r ganrif gyntaf. Gan mai Iesu yw Sylfaenydd Cristnogaeth, rydyn ni’n ei ystyried ef fel sylfaenydd ein cyfundrefn.—Colosiaid 1:18-20.