Ydy Tystion Jehofa yn Credu yn yr Hen Destament?
Ydyn. Mae Tystion Jehofa yn credu bod yr holl Beibl ‘wedi ei ysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol.’ (2 Timotheus 3:16) Mae hyn yn cynnwys yr Hen Destament a’r Testament Newydd, fel mae nifer yn eu galw. Yn gyffredinol, mae Tystion Jehofa yn cyfeirio at y rhannau hyn o’r Beibl fel yr Ysgrythurau Hebraeg a’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Fel hyn rydyn ni’n osgoi creu’r argraff bod rhannau o’r Beibl yn hen ffasiwn, neu’n ddibwys.
Pam bod angen yr Hen Destament a’r Testament Newydd ar Gristnogion?
O dan ysbrydoliaeth ddwyfol, ysgrifennodd yr apostol Paul: “Fe ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gynt er mwyn ein dysgu ni.” (Rhufeiniaid 15:4) Felly, mae yna wybodaeth werthfawr inni yn yr Ysgrythurau Hebraeg. Ymhlith nifer o bethau, maen nhw’n cynnig hanes perthnasol a chyngor ymarferol.
Hanes perthnasol. Mae’r Ysgrythurau Hebraeg yn cynnwys cofnod manwl o’r creu ac o gwymp dyn i’w gyflwr pechadurus. Heb wybodaeth o’r fath, fe fydden ni’n ddiffygiol o atebion boddhaus i gwestiynau fel: O le rydyn ni’n dod? Pam rydyn ni’n marw? (Genesis 2:7, 17) Yn ogystal, mae’r Ysgrythurau Hebraeg yn cofnodi ffordd Jehofa Dduw o ymdrin â phobl oedd yn debyg iawn i ni, yn eu llawenydd a’u heriau.—Iago 5:17.
Cyngor ymarferol. Llyfrau sy’n rhan o’r Ysgrythurau Hebraeg yw Diarhebion a Phregethwr. Maen nhw’n cynnwys cyngor ar gyfer bywyd, doethineb bythol sydd wastad yn ei dymor. Maen nhw’n cynnig cyfarwyddyd ar sut i fwynhau bywyd teuluol hapus (Diarhebion 15:17), sut i gadw cydbwysedd ynglŷn â gwaith (Diarhebion 10:4; Pregethwr 4:6), a sut gall pobl ifanc gael y gorau allan o’u hieuenctid (Pregethwr 11:9–12:1).
Hefyd, gallwn ni fanteisio ar astudio Cyfraith Moses fel y mae wedi ei chofnodi yn y Pumllyfr (sef pum llyfr cyntaf y Beibl). Nid yw Cristnogion dan y gyfraith honno, ond mae yn cynnwys egwyddorion gwerthfawr a all ein helpu a’n harwain at fywyd hapus.—Lefiticus 19:18; Deuteronomium 6:5-7.