RHAGFYR 23, 2021
YR ALMAEN
Rhyddhau Llyfrau Mathew ac Ioan yn Iaith Arwyddion yr Almaen
Ar Ragfyr 18, 2021, gwnaeth y Brawd Dirk Grundmann, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth Ewrop, ryddhau rhannau cyntaf Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn Iaith Arwyddion yr Almaen. Gwyliodd cynulleidfa o tua 800 y llyfrau Beibl Mathew ac Ioan yn cael eu rhyddhau drwy fideo-gynadledda.
Dim ond ers 2002 mae llywodraeth yr Almaen wedi cydnabod Iaith Arwyddion yr Almaen fel iaith. Ond, mae Tystion Jehofa wedi darparu cyfieithu ar y pryd mewn iaith arwyddion yn yr Almaen ers dechrau’r 1960au. Heddiw, mae 571 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 11 cynulleidfa a 21 grŵp Iaith Arwyddion yr Almaen.
Dyma’r tro cyntaf i lyfrau cyfan o’r Beibl gael eu cyfieithu i Iaith Arwyddion yr Almaen. O’r blaen, dim ond ambell adnod oedd ar gael i’r cyhoeddwyr ar gyfer astudiaeth bersonol a’r weinidogaeth.
“Gan mai dim ond adnodau unigol oedd yn bodoli ac nid y Beibl cyfan, roedd hi’n aml yn anodd cael hyd i egwyddor Feiblaidd neu esbonio un o’n daliadau,” meddai un cyhoeddwr. “Roedd annog myfyriwr i ystyried rhywbeth o’r Beibl bob dydd hefyd yn anodd am ei bod yn her i wylio’r adnodau unigol.”
Dywedodd un cyfieithydd: “Mae gweithio ar y Beibl a chyfieithu gair Jehofa er mwyn i’r byddar cael perthynas ag ef yn rhywbeth rhyfeddol. Mae’r fraint o weithio ar y prosiect wedi cyffwrdd â’n calonnau.”
Gweddïwn y bydd Cyfieithiad y Byd Newydd yn Iaith Arwyddion yr Almaen yn helpu llawer o bobl ostyngedig i ddod i wybod ffordd Jehofa.—Salm 25:9, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.