RHAN 8
Pan Ddaw Trychineb
“Yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod . . . yn awr yn profi blinder dros dro dan amrywiol brofedigaethau.”—1 Pedr 1:6
Er eich bod chi’n gwneud eich gorau i gael priodas a theulu hapus, gall pethau annisgwyl ei gwneud hi’n anodd ichi gadw eich llawenydd. (Pregethwr 9:11) Mae Duw yn rhoi cymorth cariadus inni pan fyddwn yn wynebu anawsterau. Os rhowch ar waith yr egwyddorion canlynol o’r Beibl, gallwch chi a’ch teulu ymdopi, hyd yn oed yn y sefyllfaoedd gwaethaf.
1 DIBYNNWCH AR JEHOFA
MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.” (1 Pedr 5:7) Cofiwch, nid Duw sydd ar fai am eich treialon. (Iago 1:13) Wrth ichi agosáu ato, fe fydd ef yn eich helpu yn y ffordd orau bosibl. (Eseia 41:10) “Tywalltwch allan eich calon iddo.”—Salm 62:8.
Hefyd, fe gewch chi gysur o ddarllen ac astudio eich Beibl bob dydd. Yna, byddwch yn gweld sut mae Jehofa yn “cysuro ei bobl.” (Eseia 49:13; Rhufeiniaid 15:4) Mae’n addo rhoi ei dangnefedd ichi, “sydd goruwch pob deall.”—Philipiaid 4:6, 7, 13.
BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
-
Gweddïwch am help gan Jehofa i aros yn ddistaw ac i feddwl yn glir
-
Adolygwch eich opsiynau a dewiswch y ffordd orau sydd ar gael i chi
2 GOFALWCH AM EICH HUNAN A’CH TEULU
MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth, a chlust y doeth yn chwilio am ddeall.” (Diarhebion 18:15) Casglwch y ffeithiau i gyd. Ceisiwch wybod anghenion pob aelod o’ch teulu. Siaradwch â nhw. Gwrandewch arnyn nhw.—Diarhebion 20:5.
Beth petai rhywun annwyl ichi yn marw? Peidiwch ag ofni mynegi eich emosiynau. Cofiwch fe wnaeth hyd yn oed Iesu ‘dorri i wylo.’ (Ioan 11:35; Pregethwr 3:4) Hefyd, mae’n bwysig i gael digon o orffwys a chwsg. (Pregethwr 4:6) Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws ichi ymdopi ag unrhyw sefyllfa sy’n codi pryder.
BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
-
Cyn i drychineb daro, dewch i’r arfer o gyfathrebu â’ch teulu. Pan fydd problemau’n codi, bydden nhw’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â chi
-
Siaradwch ag eraill sydd wedi wynebu sefyllfa debyg
3 GOFYNNWCH AM Y CYMORTH SYDD EI ANGEN
MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser; ar gyfer adfyd y genir brawd.” (Diarhebion 17:17) Bydd eich ffrindiau eisiau eich helpu, ond efallai bydden nhw’n ansicr o beth i’w wneud. Peidiwch â dal yn ôl rhag dweud beth rydych chi’n ei wir angen. (Diarhebion 12:25) Hefyd, ceisiwch anogaeth ysbrydol gan bobl sy’n deall y Beibl. Bydd yr arweiniad y maen nhw yn ei roi o’r Beibl yn eich helpu.—Iago 5:14.
Byddwch yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnoch wrth ichi dreulio amser gyda phobl sydd gan ffydd yn Nuw ac sy’n ymddiried yn ei addewidion. Hefyd, cewch gysur o helpu eraill sydd angen anogaeth. Siaradwch am eich ffydd yn Jehofa a’i addewidion. Cadwch yn brysur gan helpu pobl eraill mewn angen, a pheidiwch â chadw ar wahân i’r rhai sy’n eich caru ac yn gofalu amdanoch.—Diarhebion 18:1; 1 Corinthiaid 15:58.
BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
-
Siaradwch â ffrind agos a gadael iddo eich helpu
-
Byddwch yn benodol ac yn onest am eich anghenion