Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 67

Ymddiried yn Jehofa

Ymddiried yn Jehofa

A WYT ti’n gwybod pwy yw’r dynion yn y llun a beth maen nhw’n ei wneud? Maen nhw ar eu ffordd i faes y gad ac y mae’r dynion ar y blaen yn canu. Fel y gweli di, does gan y cantorion ddim arfau ar gyfer y frwydr. Pam, tybed? Gad inni weld.

Tra oedd y Brenin Ahab a Jesebel yn rheoli dros y deg llwyth yng ngogledd Israel, roedd Jehosaffat yn frenin ar y ddau lwyth yn y de. Brenin da oedd Jehosaffat, fel ei dad Asa. Felly, i bobl yn y de, roedd bywyd yn dda am lawer o flynyddoedd.

Ond, wedyn, digwyddodd rhywbeth a gododd ofn ar y bobl. Daeth negeseuwyr at Jehosaffat a dweud: ‘Mae byddin enfawr yn dod o gyfeiriad Moab, Ammon, a Mynydd Seir i ymosod arnoch chi.’ Fe wnaeth llawer o’r Israeliaid hel at ei gilydd yn y deml yn Jerwsalem er mwyn gweddïo ar Jehofa. Gweddïodd Jehosaffat: ‘O Jehofa ein Duw, dydyn ni ddim yn gwybod beth i’w wneud. Rydyn ni’n rhy wan i wynebu’r fyddin fawr sy’n dod. Rydyn ni’n troi atat ti am help.’

Gwrandawodd Jehofa ac anfonodd un o’i weision i ddweud wrth y bobl: ‘Nid eich brwydr chi yw hon, ond brwydr Duw. Ni fydd rhaid i chi ymladd. Sefwch yn llonydd, ac fe welwch sut y bydd Jehofa yn eich achub.’

Drannoeth, dywedodd Jehosaffat wrth y bobl: ‘Ymddiriedwch yn Jehofa!’ Yna, gosododd y cantorion i gerdded o flaen y milwyr ac i ganu mawl i Jehofa. Wyt ti’n gwybod beth ddigwyddodd wrth iddyn nhw agosáu at faes y gad? Achosodd Jehofa i filwyr y gelyn ymosod ar ei gilydd. Pan gyrhaeddodd yr Israeliaid, roedd pob un o filwyr y gelyn wedi marw!

Onid oedd Jehosaffat yn ddoeth i ymddiried yn Jehofa? Peth doeth fyddai i ninnau ymddiried yn Jehofa hefyd.