Gobaith Sicr ar gyfer y Meirw
FE YSGRIFENNODD gwraig 25 mlwydd oed: “Yn 1981 bu farw fy llysfam o’r cancr. ’Roedd ei marw hi’n ergyd drom i mi a’m brawd mab-wysiedig. ’Roeddwn i’n 17, ac ’roedd fy mrawd yn 11. ’Roeddwn i’n gweld ei heisiau hi gymaint. Wedi cael fy nysgu ei bod hi yn y nefoedd, wel, ’roeddwn am wneud i ffwrdd â mi fy hun er mwyn bod gyda hi. Hi oedd fy ffrind gorau i.”
Mae’n ymddangos mor annheg fod gan angau’r grym i ddwyn ymaith rhywun ’rydych yn ei garu. A phan mae’n digwydd, fe all fod yn anodd y tu hwnt goddef meddwl na fedrir byth eto siarad â’ch anwylyn, na chwerthin gydag e, na’i ddal yn agos. ’Dyw dweud fod eich anwylyn i fyny yn y nefoedd ddim o angenrheidrwydd yn dileu’r boen honno.
Mae’r Beibl, fodd bynnag, yn cynnig gobaith gwahanol iawn. Fel ’rydyn ni eisoes wedi nodi, mae’r Ysgrythurau yn dangos ei bod yn bosib’ ailuno â’ch anwylyn marw yn y dyfodol agos, nid mewn nef anadnabyddus ond yma ar y ddaear dan amodau heddychlon, cyfiawn. A’r adeg honno fe fedr bodau dynol ddisgwyl cael mwynhau iechyd perffaith, ac ni fydd yn rhaid iddyn’ nhw farw byth eto. ‘Ond dymuniad ofer ydi hynny’n sicr!’ medd rhai efallai.
Be’ fyddai’n rhaid ei wneud i’ch argyhoeddi chi fod hwn yn obaith sicr? Er mwyn credu addewid, fe fyddai’n rhaid i chi fod yn sicr y byddai’r sawl sy’n gwneud yr addewid yn awyddus i’w gyflawni ac yn medru ei gyflawni. Pwy, felly, ydi’r un sy’n addo y bydd y meirw’n byw eto?
Yng Ngwanwyn 31 O.C., fe addawodd Iesu Grist yn hyderus: “Fel y mae’r Tad yn codi’r meirw ac yn rhoi bywyd iddynt, felly hefyd y mae’r Mab yntau yn rhoi bywyd i’r sawl a fyn. Peidiwch â rhyfeddu at hyn, oherwydd y mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef [Iesu] ac yn dod allan.” (Ioan 5:21, 28, 29) Do, fe addawodd Iesu Grist y byddai miliynau sy’ ’nawr yn farw yn byw eto ar y ddaear hon gyda’r hyder o gael aros arni am byth dan amodau heddychlon, paradwysaidd. (Luc 23:43; Ioan 3:16; 17:3; cymharer Salm 37:29 a Mathew 5:5.) Gan mai Iesu wnaeth yr addewid, mae hi’n ddiogel tybio ei fod yn awyddus i’w gyflawni e. Ond ’ydi’r grym ganddo i wneud hynny?
Lai na dwy flynedd wedi gwneud yr addewid hwnnw, fe brofodd Iesu mewn ffordd nerthol ei fod yn awyddus i weithredu’r atgyfodiad a bod ganddo’r gallu i wneud hynny.
“Lasarus, Tyrd Allan”
’Roedd hi’n olygfa dyner. ’Roedd Lasarus yn ddifrifol wael. Fe yrrodd ei ddwy chwaer, Mair a Martha, air at Iesu, oedd yr ochr arall i Afon Iorddonen: “Y mae dy gyfaill, syr, yma’n wael.” (Ioan 11:3) Fe wydden’ nhw fod Iesu’n caru Lasarus. Oni fyddai Iesu am weld ei gyfaill claf? Yn rhyfedd, yn hytrach na mynd i Bethania ar unwaith, fe arhosodd Iesu fan lle’r oedd am y deuddydd canlynol.—John 11:5, 6.
Fe fu Lasarus farw beth amser wedi gyrru’r neges am ei waeledd. Fe wyddai Iesu pryd y bu farw Lasarus, ac fe fwriadai wneud rhywbeth ynglŷn â’r peth. Erbyn i Iesu gyrraedd Bethania o’r diwedd, ’roedd ei ffrind annwyl wedi bod yn farw bedwar diwrnod. (Ioan 11:17, 39) ’Fedrai Iesu adfer bywyd rhywun fuasai’n farw cyhyd?
O glywed fod Iesu’n dod, fe redodd Martha, wraig a sicrhâi weithredu ag ydoedd hi, i’w gyfarfod e. (Cymharer Luc 10:38-42.) Cyffyrddwyd Iesu gan ei thristwch, a’i sicrhau hi: “Fe atgyfoda dy frawd.” Wedi iddi hi fynegi’i ffydd mewn atgyfodiad i ddod, fe ddywedodd Iesu yn amlwg wrthi: “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw.”—Ioan 11:20-25.
Wrth gyrraedd y bedd, fe orchmynnodd Iesu symud ymaith y garreg a gaeai ei fynedfa. Yna, wedi iddo weddïo’n uchel, fe orchmynnodd: “Lasarus, tyrd allan.”—Ioan 11:38-43.
’Roedd pob llygad yn syllu ar y bedd. Yna, allan o’r tywyllwch, fe ymddangosodd ffurf. ’Roedd ei draed a’i ddwylo wedi’u rhwymo â llieiniau, a chadach am ei wyneb. “Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd,” gorchmynnodd Iesu. Disgynnodd yr ola’ o’r llieiniau oedd wedi datod i’r llawr. Ie, Lasarus ydoedd, y dyn a fuasai farw am bedwar diwrnod!—’Ddigwyddodd E Mewn Gwirioneddd?
Fe gyflwynir hanes cyfodi Lasarus yn Efengyl Ioan fel ffaith hanesyddol. Mae’r manylion yn rhy fyw i’r cofnod fod yn ddim ond alegori. Mae amau ei hanesyddiaeth yn golygu amau holl wyrthiau’r Beibl, gan gynnwys atgyfodiad Iesu Grist ei hun. Ac mae gwadu atgyfodiad Iesu yn golygu gwadu’r ffydd Gristnogol yn ei chyfanrwydd.—1 Corinthiaid 15:13-15.
Yn wir, os ydych chi’n derbyn bodolaeth Duw, ’ddylech chi ddim cael problem credu’r atgyfodiad. Dyma ddarlunio’r peth: Fe all person nodi ei ewyllys a’i ddymuniad ola’ ar dâp fideo, ac wedi iddo farw, fe all ei berthnasau a’i ffrindiau ei weld a’i glywed e, mewn ffordd, wrth iddo egluro beth y mae am ei wneud gyda’i eiddo. Gan mlynedd yn ôl, ’fedrid ddim meddwl am y fath beth. Ac i rai pobl sy’n byw ’nawr yn rhannau anghysbell y byd, mae technoleg cofnodi fideo gymaint y tu hwnt i amgyffrediad fel yr ymddengys yn wyrthiol. Os gall dynion ddefnyddio egwyddorion gwyddonol a sefydlwyd gan y Creawdwr i adlunio golygfa mor weladwy a chlywadwy, oni ddylai’r Creawdwr fod yn gallu gwneud llawer rhagor? On’d ydi hi’n rhesymol, felly, fod yr Un a greodd fywyd yn wreiddiol yn gallu ei ail-greu e?
Fe barodd gwyrth adfer bywyd Lasarus gynnydd mewn ffydd yn Iesu a’r atgyfodiad. (Ioan 11:41, 42; 12:9-11, 17-19) Mewn ffordd dyner iawn, mae hi hefyd yn amlygu parodrwydd a dyhead Jehofah a’i Fab i weithredu’r atgyfodiad.
‘Bydd Hiraeth Ar Dduw’
Mae ymateb Iesu i farwolaeth Lasarus yn amlygu natur dyner iawn Mab Duw. Mae ei deimladau dwys ar yr achlysur hwn yn dangos yn eglur ei ddymuniad angerddol i atgyfodi’r meirw. ’Rydyn ni’n darllen: “A phan ddaeth Mair i’r fan lle’r oedd Iesu, a’i weld, syrthiodd wrth ei draed ac meddai wrtho, ‘Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw.’ Wrth ei gweld hi’n wylo, a’r Iddewon oedd wedi dod gyda hi hwythau’n wylo, cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys. ‘Ble’r ydych wedi ei roi i orwedd?’ gofynnodd. ‘Tyrd i weld, syr,’ meddant wrtho. Torrodd Iesu i wylo. Yna dywedodd yr Iddewon, ‘Gwelwch gymaint yr oedd yn ei garu ef.’”—Ioan 11:32-36.
Yma fe welir fod tosturi Iesu yn dod o waelod ei galon yn y tri ymadrodd hyn: “cynhyrfwyd . . . Iesu,” “deimlad dwys,” “torrodd Iesu i wylo.” Mae geiriau’r iaith wreiddiol a ddefnyddir i gofnodi’r olygfa dyner hon yn awgrymu i Iesu gael ei gyffroi gymaint gan farwolaeth ei gyfaill annwyl Lasarus a gweld chwaer Lasarus yn wylo nes i’w lygaid E orlifo gan ddagrau. *
Yr hyn sy’ mor hynod ydi fod Iesu wedi dod â dau arall yn ôl yn fyw cyn hyn. A’i fwriad pendant Ioan 11:11, 23, 25) Er hynny, fe “dorrodd Iesu i wylo.” Felly, mae adfer bodau dynol i fywyd yn llawer mwy na dim ond trefn gweithredu i Iesu. Mae ei deimladau tyner a dwys fel y’u mynegwyd nhw ar yr achlysur hwn yn dangos yn eglur ei ddymuniad angerddol i ddadwneud anrhaith angau.
oedd gwneud yr un peth â Lasarus. (’Roedd teimladau tyner Iesu wrth iddo atgyfodi Lasarus yn adlewyrchu ei ddymuniad angerddol i ddadwneud anrhaith angau
Gan fod ‘stamp sylwedd Jehofah Dduw’ ar Iesu, ’rydyn ni’n iawn i ddisgwyl dim llai gan ein Tad nefol. (Hebreaid 1:3) Fe ddywedodd y gŵr ffyddlon Job am barodrwydd Jehofah ei hun i weithredu’r atgyfodiad: “Os bydd dyn nerthol yn marw a fedr ef fyw eto? . . . Gelwi, ac atebaf innau di. Bydd hiraeth arnat am waith dy ddwylo.” (Job 14:14, 15, NW) Yma mae’r gair yn yr iaith wreiddiol a gyfieithir “bydd hiraeth arnat” yn dynodi dyhead a dymuniad angerddol Duw. (Genesis 31:30; Salm 84:2) Mae’n amlwg fod Jehofah yn awyddus ragweld yr atgyfodiad.
’Fedrwn ni mewn difri gredu addewid yr atgyfodiad? Medrwn,’ does dim amheuaeth ynglŷn â pharodrwydd a gallu Jehofah a’i Fab i’w gyflawni e. Be’ mae hyn yn ei olygu i chi? Mi fedrwch chi ddisgwyl cael eich ailuno ag anwyliaid marw yma ar y ddaear ond o dan amodau pur wahanol!
Mae Jehofah Dduw, a roddodd gychwyn i’r ddynoliaeth mewn gardd hyfryd, wedi addo adfer Paradwys ar y ddaear hon dan frenhiniaeth Ei Deyrnas nefol yn nwylo Iesu Grist sy’ ’nawr wedi’i ogoneddu. (Genesis 2:7-9; Mathew 6:10; Luc 23:42, 43) Gydag adfer y Baradwys honno, fe fydd gan y teulu dynol hyder medru mwynhau bywyd diddiwedd ynddi, yn rhydd rhag pob afiechyd a gwaeledd. (Datguddiad 21:1-4; cymharer Job 33:25; Eseia 35:5-7.) Hefyd, fe fydd pob casineb, pob rhagfarn hiliol, pob trais ethnig, a phob gorthrwm economaidd, wedi mynd. I fyd fel hyn wedi’i lanhau y bydd Jehofah Dduw drwy Iesu Grist yn atgyfodi’r meirw.
Fe fydd yr atgyfodiad, sy’n seiliedig ar aberth pridwerthol Iesu Grist, yn dod â llawenydd i’r holl genhedloedd
Dyna ’nawr ydi gobaith y wraig Gristnogol y soniwyd amdani ar ddechrau’r adran hon. Rai blynyddoedd wedi marw ei mam, fe helpodd Tystion Jehofah hi i wneud astudiaeth ofalus o’r Beibl. Mae hi’n dwyn i gof: “Wedi i mi ddysgu am obaith yr atgyfodiad, fe griais i. ’Roedd hi mor hyfryd gwybod y byddaf yn gweld mam eto.”
Os ydi’ch calon chithau yn yr un modd yn hiraethu am weld anwylyn eto, fe fydd Tystion Jehofah yn falch o gael eich helpu chi i ddysgu sut y gall y gobaith sicr hwn fod yn wir eiddo i chithau hefyd. Pam na chysylltwch chi â nhw yn Neuadd y Deyrnas gyfagos, neu gallwch ysgrifennu i’r cyfeiriad agosa’ ymhlith y rhestr ar dudalen 32.
^ Par. 20 Mae’r gair Groeg a gyfieithir “teimlad dwys” yn dod o ferf (em·bri·maʹo·mai) sy’n dynodi gwewyr emosiynol dwfn ac angerddol. Mae un ysgolhaig Beiblaidd yn nodi: “Yma ni all ond golygu i’r fath emosiwn dwfn gael gafael yn Iesu nes gwasgu ochenaid annirfoddol o’i galon.” Mae’r ymadrodd a gyfieithir “cynhyrfwyd” yn dod o air Groeg (ta·rasʹso) sy’n awgrymu cyffro. Yn ôl geiriadurwr, ei ystyr ydi “achosi terfysg mewnol i berson, . . . effeithio ar berson â phoen neu dristwch mawr.” Mae’r ymadrodd “torrodd . . . i wylo” yn dod o ferf Groeg (da·kryʹo) sy’n golygu “gollwng dagrau, wylo’n ddistaw.”