GWERS 6
Beth Yw Gobaith y Meirw?
1. Beth yw’r newyddion da ynglŷn â’r meirw?
Roedd Lasarus wedi marw ers pedwar diwrnod pan gyrhaeddodd Iesu bentref Bethania ger Jerwsalem. Aeth Iesu at y bedd gyda Martha a Mair, chwiorydd Lasarus. Cyn bo hir, roedd tyrfa wedi casglu o’u cwmpas. Allwch chi ddychmygu pa mor hapus oedd Martha a Mair o weld eu brawd yn cael ei atgyfodi gan Iesu?—Darllenwch Ioan 11:21-24, 38-44.
Roedd Martha eisoes yn gwybod am y newyddion da ynglŷn â gobaith y meirw. Roedd hi’n gwybod bod Jehofah yn mynd i atgyfodi’r meirw i fywyd ar y ddaear.—Darllenwch Job 14:14, 15.
2. Beth yw cyflwr y meirw?
Mae bodau dynol wedi eu gwneud o lwch. (Genesis 2:7; 3:19) Nid ysbrydion sy’n byw mewn cyrff o gnawd mohonon ni. Creaduriaid o gig a gwaed ydyn ni, felly does dim un rhan ohonon ni yn dal i fyw ar ôl inni farw. Pan fyddwn ni’n marw, mae ein hymennydd yn marw a’n cynlluniau a’n deall yn darfod. Nid yw’r meirw yn gwybod dim, a dyna pam na ddywedodd Lasarus yr un gair am ei brofiad o farwolaeth.—Darllenwch Salm 146:4; Pregethwr 9:5, 6, 10.
A yw Duw yn poenydio pobl mewn tân ar ôl iddyn nhw farw? Mae’r Beibl yn dangos nad yw’r meirw yn gwybod dim, ac felly mae’n amlwg fod y ddysgeidiaeth am uffern yn gelwyddog ac yn pardduo enw Duw. Mae hyd yn oed y syniad o arteithio pobl mewn tân yn wrthun i Dduw.—Darllenwch Jeremeia 7:31.
Gwyliwch y fideo Beth Yw Cyflwr y Meirw?
3. Ydy’r meirw yn gallu siarad â ni?
Dydy’r meirw ddim yn gallu siarad na chlywed. (Salm 115:17) Ond weithiau, mae angylion drwg yn siarad â phobl, gan honni mai ysbrydion y meirw ydyn nhw. (2 Pedr 2:4) Mae Jehofah yn ein gwahardd ni rhag ceisio siarad â’r meirw.—Darllenwch Deuteronomium 18:10, 11.
4. Pwy fydd yn cael ei atgyfodi?
Bydd miliynau o bobl yn cael eu hatgyfodi i fyw ar y ddaear. Bydd hyd yn oed y rhai nad oedden nhw’n adnabod Duw nac yn byw bywydau da yn cael eu hatgyfodi.—Darllenwch Actau 24:15.
Bydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi yn cael y cyfle i ddysgu’r gwir am Dduw, i roi eu ffydd yn Iesu, ac i ufuddhau iddo. (Datguddiad 20:11-13) Bydd y rhai sy’n dod yn ôl yn fyw ac sy’n gwneud pethau da yn gallu byw am byth ar y ddaear.—Darllenwch Ioan 5:28, 29.
5. Beth mae’r atgyfodiad yn ei ddweud am Jehofah?
Duw yw’r un sydd wedi gwneud yr atgyfodiad yn bosibl drwy anfon ei Fab i farw droston ni. Felly, mae’r atgyfodiad yn dystiolaeth o gariad a charedigrwydd Jehofah. Pan ddaw’r meirw yn ôl yn fyw, pwy fyddwch chi’n awyddus i’w weld?—Darllenwch Ioan 3:16; Rhufeiniaid 6:23.