A Ydw i’n Barod?
A Ydw i’n Barod i Bregethu Gyda’r Gynulleidfa?
Efallai y byddwch chi’n barod i fod yn gyhoeddwr difedydd os ydych chi . . .
Yn astudio’r Beibl yn rheolaidd, yn gweddïo, ac yn mynychu cyfarfodydd y gynulleidfa.
Yn gwerthfawrogi ac yn credu’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ac eisiau sôn wrth eraill amdano.
Yn caru Jehofa ac yn dewis eich ffrindiau agos o blith y rhai sydd yn ei garu hefyd.
Wedi tynnu eich enw oddi ar restrau aelodaeth unrhyw gau grefydd neu gyfundrefn wleidyddol.
Yn byw yn ôl safonau Jehofa ac eisiau bod yn un o Dystion Jehofa.
Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n barod i bregethu gyda’r gynulleidfa, bydd yr un sy’n astudio’r Beibl gyda chi yn trefnu ichi gyfarfod â’r henuriaid i drafod sut gallwch chi fod yn gymwys.
A Ydw i’n Barod i Gael Fy Medyddio?
Efallai y byddwch chi’n barod i gael eich bedyddio os ydych chi . . .
Eisoes yn gyhoeddwr difedydd.
Yn gwneud yr hyn a allwch i gael rhan reolaidd yn y gwaith pregethu.
Yn cefnogi ac yn dilyn arweiniad y “gwas ffyddlon a chall.”—Mathew 24:45-47.
Wedi ymgysegru i Jehofa mewn gweddi ac eisiau ei wasanaethu am byth.
Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n barod i gael eich bedyddio, bydd yr un sy’n astudio’r Beibl gyda chi yn trefnu ichi gyfarfod â’r henuriaid i drafod sut gallwch chi fod yn gymwys.