GWERS 20
Sut Mae’r Gynulleidfa Wedi ei Threfnu?
Duw trefn yw Jehofa. (1 Corinthiaid 14:33) Felly, bydden ni’n disgwyl i’w bobl fod yn drefnus. Sut mae’r gynulleidfa Gristnogol wedi ei threfnu? Sut gallwn ni gyfrannu at ei llwyddiant?
1. Pwy sy’n arwain y gynulleidfa?
“Mae’r Crist yn ben ar y gynulleidfa.” (Effesiaid 5:23) O’r nef, mae’n arwain gweithredoedd pobl Jehofa ledled y byd. Mae Iesu wedi penodi’r “gwas ffyddlon a chall”—grŵp bach o henuriaid profiadol a elwir hefyd yn Gorff Llywodraethol. (Darllenwch Mathew 24:45-47.) Fel yr apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem yn y ganrif gyntaf, mae’r Corff Llywodraethol yn rhoi cyfarwyddyd i’r gynulleidfa fyd-eang. (Actau 15:2) Ond nid nhw yw arweinwyr y gyfundrefn. Maen nhw’n dibynnu ar Jehofa a’i Air am arweiniad ac yn ildio i awdurdod Iesu.
2. Beth yw rôl yr henuriaid?
Mae’r henuriaid yn ddynion sydd wedi bod yn Gristnogion ffyddlon ers blynyddoedd. Maen nhw’n defnyddio’r Beibl i ddysgu pobl Jehofa, ac yn eu bugeilio drwy eu helpu a’u calonogi. Nid ydyn nhw’n cael eu talu am eu gwaith. Maen nhw’n gwneud hyn ‘o’u gwirfodd o flaen Duw; nid oherwydd cariad tuag at elw anonest, ond oherwydd eu bod nhw’n awyddus i wasanaethu.’ (1 Pedr 5:1, 2) Mae’r henuriaid yn cael cymorth gweision y gynulleidfa sydd, ymhen amser, yn gallu bod yn gymwys i fod yn henuriaid eu hunain.
Mae’r Corff Llywodraethol yn penodi rhai henuriaid i fod yn arolygwyr cylchdaith. Maen nhw’n ymweld â chynulleidfaoedd er mwyn rhoi arweiniad ac anogaeth. Maen nhw’n penodi henuriaid a gweision y gynulleidfa sy’n cwrdd â’r gofynion Ysgrythurol.—1 Timotheus 3:1-10, 12; Titus 1:5-9.
3. Beth yw rôl pob Tyst?
Mae cyfle i bawb yn y gynulleidfa “foli enw” Jehofa drwy gymryd rhan yn y cyfarfodydd ac yn y weinidogaeth yn ôl eu hamgylchiadau.—Darllenwch Salm 148:12, 13.
CLODDIO’N DDYFNACH
Dysgwch ba fath o arweinydd yw Iesu, sut mae’r henuriaid yn ceisio dilyn ei esiampl, a sut gallwn ni gydweithio â Iesu a’r henuriaid.
4. Mae Iesu yn arweinydd caredig
Mae Iesu yn rhoi gwahoddiad apelgar inni. Darllenwch Mathew 11:28-30, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Sut mae Iesu am inni deimlo am ei arweiniad?
Sut mae’r henuriaid yn dilyn esiampl Iesu? Gwyliwch y FIDEO.
Mae’r Beibl yn dangos yn glir sut dylai henuriaid wneud eu gwaith.
Darllenwch Eseia 32:2 a 1 Pedr 5:1-3, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Sut mae gwybod bod yr henuriaid, fel Iesu, yn ceisio calonogi eraill yn gwneud ichi deimlo?
-
Ym mha ffyrdd eraill mae’r henuriaid yn efelychu Iesu?
5. Mae’r henuriaid yn dysgu drwy esiampl
Sut mae Iesu am i henuriaid weld eu rôl? Gwyliwch y FIDEO.
Iesu sydd wedi gosod y safon i’r rhai sy’n rhoi arweiniad yn y gynulleidfa. Darllenwch Mathew 23:8-12, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Beth sy’n eich taro chi am y gwahaniaeth rhwng safonau’r Beibl ar gyfer henuriaid a’r hyn rydych chi wedi gweld arweinwyr crefyddol yn ei wneud?
-
A. Mae’r henuriaid yn cryfhau eu ffydd eu hun ac yn helpu eu teuluoedd i wneud yr un fath
-
B. Mae’r henuriaid yn gofalu am bawb yn y gynulleidfa
-
C. Mae’r henuriaid yn pregethu’n rheolaidd
-
Ch. Mae’r henuriaid yn athrawon. Maen nhw hefyd yn helpu i lanhau Neuadd y Deyrnas ac yn gwneud tasgau eraill
6. Gallwn ni gydweithio â’r henuriaid
Mae’r Beibl yn rhoi rheswm pwysig inni gydweithio â’r henuriaid. Darllenwch Hebreaid 13:17, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Pam mae’r Beibl yn ein hannog ni i fod yn ufudd i’r rhai sy’n rhoi arweiniad yn y gynulleidfa? Sut rydych chi’n teimlo am hynny?
Darllenwch Luc 16:10, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Pam mae’n bwysig inni gydweithio â’r henuriaid hyd yn oed yn y pethau bach?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Does dim angen perthyn i grefydd gyfundrefnol.”
-
Yn eich barn chi, beth yw’r manteision o addoli Duw fel rhan o gynulleidfa?
CRYNODEB
Iesu yw pen y gynulleidfa. Rydyn ni’n hapus i gydweithio â’r henuriaid sy’n gwasanaethu o dan arweiniad Iesu gan eu bod nhw yn ein calonogi ac yn dysgu drwy esiampl.
Adolygu
-
Pwy sy’n arwain y gynulleidfa?
-
Sut mae’r henuriaid yn helpu’r gynulleidfa?
-
Beth yw rôl pob un sy’n addoli Jehofa?
DARGANFOD MWY
Gwelwch esiampl sy’n dangos cymaint mae’r Corff Llywodraethol a’r henuriaid eraill yn caru Cristnogion heddiw.
Dysgwch am waith yr arolygwyr cylchdaith.
Darllenwch am rôl bwysig menywod yn y gynulleidfa.
“Ydy Tystion Jehofa yn Caniatáu i Fenywod Fod yn Weinidogion?” (Y Tŵr Gwylio, Medi 1, 2012)
Dysgwch sut mae henuriaid yn gweithio’n galed i galonogi eu brodyr a chwiorydd.
“Henuriaid Cristnogol—Cyd-weithwyr er Ein Llawenydd” (Y Tŵr Gwylio, Ionawr 15, 2013)