GWERS 02
Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Inni
Mae pobl ym mhob rhan o’r byd yn wynebu problemau sy’n achosi tristwch, pryder, a hyd yn oed poen iddyn nhw. Ydych chi erioed wedi teimlo fel hyn? Efallai eich bod chi’n dioddef oherwydd salwch, neu oherwydd bod rhywun annwyl ichi wedi marw. Efallai eich bod chi’n gofyn, ‘A fydd bywyd yn gwella?’ Mae’r Beibl yn rhoi ateb calonogol i’r cwestiwn hwnnw.
1. Pa obaith mae’r Beibl yn ei roi inni?
Mae’r Beibl yn esbonio pam mae ’na gymaint o broblemau yn y byd. Ond mae hefyd yn cynnwys y newyddion da bod Duw yn mynd i ddatrys y problemau hyn cyn bo hir. Gall yr addewidion yn y Beibl “roi dyfodol llawn gobaith i chi.” (Darllenwch Jeremeia 29:11, 12.) Mae’r addewidion hyn yn ein helpu ni i ymdopi â’n problemau, i gadw agwedd gadarnhaol, ac i fod yn hapus heddiw ac am byth.
2. Pa fath o ddyfodol mae’r Beibl yn ei ddisgrifio?
Mae’r Beibl yn disgrifio amser yn y dyfodol pan “ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach.” (Darllenwch Datguddiad 21:4.) Bydd y problemau sy’n ein digalonni ni heddiw—pethau fel tlodi, anghyfiawnder, salwch, a marwolaeth—wedi diflannu. Mae’r Beibl yn addo y bydd pobl yn gallu mwynhau bywyd am byth mewn paradwys ar y ddaear.
3. Sut gallwch chi fod yn sicr y bydd yr addewidion hyn yn dod yn wir?
Mae llawer o bobl yn byw mewn gobaith, ond eto ddim yn sicr y bydd eu gobeithion yn cael eu gwireddu. Ond mae addewidion y Beibl yn wahanol. Gallwn ni gryfhau ein ffydd drwy “chwilio’r Ysgrythurau yn ofalus.” (Actau 17:11) Wrth ichi astudio’r Beibl, fe welwch chi beth mae’n ei ddweud am y dyfodol a gallwch benderfynu drostoch chi’ch hun a allwch chi ei gredu neu beidio.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch rai o’r pethau mae’r Beibl yn ei addo ar gyfer y dyfodol. Gwelwch sut mae’r gobaith yn y Beibl yn helpu pobl heddiw.
4. Mae’r Beibl yn addo y gallwn ni fyw am byth mewn byd perffaith.
Edrychwch ar y rhestr ganlynol o’r addewidion sydd i’w cael yn y Beibl. Pa rai sy’n apelio fwyaf atoch chi? Pam?
Darllenwch yr adnodau sydd wrth ymyl pob addewid, ac yna ystyriwch y cwestiynau hyn:
-
Ydy’r adnodau hyn yn rhoi gobaith i chi? A fydden nhw’n rhoi gobaith i’ch teulu a’ch ffrindiau?
Dychmygwch fywyd mewn byd:
LLE FYDD NEB YN . . . |
LLE BYDD PAWB YN . . . |
---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
5. Mae addewidion y Beibl yn gallu gwneud gwahaniaeth
Mae llawer o bobl yn digalonni neu hyd yn oed yn teimlo’n flin oherwydd y problemau o’u cwmpas. Mae rhai yn mynd ati i geisio newid pethau er gwell. Gwelwch sut mae addewidion y Beibl am ddyfodol gwell yn helpu pobl heddiw. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:
-
Yn y fideo, pa anghyfiawnder oedd yn poeni Rafika?
-
Er nad oedd yr anghyfiawnder yn diflannu, sut roedd y Beibl yn ei helpu hi?
Mae’r gobaith sydd yn y Beibl ar gyfer y dyfodol yn gallu ein helpu ni i beidio â digalonni, ac i ymdopi’n llwyddiannus â’n problemau. Darllenwch Diarhebion 17:22 a Rhufeiniaid 12:12, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Ydych chi’n meddwl bod yr addewidion am y dyfodol yn y Beibl yn gallu gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi heddiw? Ym mha ffordd?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae addewidion y Beibl ar gyfer y dyfodol yn rhy dda i fod yn wir.”
-
Pam rydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i edrych ar y dystiolaeth?
CRYNODEB
Mae’r addewidion yn y Beibl am ddyfodol hapus yn rhoi gobaith inni ac yn ein helpu ni i ymdopi â’n problemau.
Adolygu
-
Pam mae angen gobaith?
-
Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyfodol?
-
Sut gall gobaith am y dyfodol eich helpu chi heddiw?
DARGANFOD MWY
Dysgwch fwy am sut gall gobaith eich helpu chi.
“Lle Mae Gwir Obaith i’w Gael?” (Deffrwch!, Ebrill 22, 2004)
Gwelwch sut mae gobaith yn helpu pobl sy’n byw â salwch hir dymor.
“Byw â Salwch Hirdymor—All y Beibl Helpu?” (Erthygl ar jw.org)
Wrth ichi wylio’r fideo cerddoriaeth hwn, ceisiwch weld eich hun a’ch teulu yn mwynhau bywyd yn y Baradwys mae’r Beibl yn ei haddo.
Darllenwch am sut mae dysgu beth mae’r Beibl yn ei addo am y dyfodol wedi newid bywyd dyn a oedd yn arfer ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol.
“Dw i Ddim Bellach yn Teimlo Mod i’n Gorfod Newid y Byd” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 2013)