Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 03

Allwch Chi Ymddiried yn y Beibl?

Allwch Chi Ymddiried yn y Beibl?

Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o addewidion ac yn cynnig llawer o gyngor. Efallai hoffech chi wybod mwy amdano, ond ar yr un pryd dydych chi ddim yn siŵr. A allwch chi ddibynnu ar yr addewidion a’r cyngor mewn llyfr mor hen â’r Beibl? Allwch chi gredu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am fwynhau bywyd heddiw ac yn y dyfodol? Mae miliynau yn ei gredu. Beth am edrych i weld a allwch chi ei gredu hefyd?

1. Ai llyfr ffeithiol neu lyfr llawn chwedlau yw’r Beibl?

Mae’r Beibl yn honni ei fod yn “dweud y gwir.” (Pregethwr 12:10) Mae’n sôn am ddigwyddiadau a phobl go iawn. (Darllenwch Luc 1:3; 3:1, 2.) Mae llawer o haneswyr ac archaeolegwyr wedi cadarnhau bod dyddiadau, pobl, lleoedd, a digwyddiadau pwysig sy’n cael eu disgrifio yn y Beibl yn hollol wir.

2. Pam gallwn ni ddweud bod y Beibl yn dal yn berthnasol heddiw?

Mewn sawl ffordd, llyfr o flaen ei amser ydy’r Beibl. Er enghraifft, mae’n crybwyll materion gwyddonol. Pan gafodd y Beibl ei ysgrifennu, ni fyddai pawb wedi cytuno â’i sylwadau ar y pynciau hyn, ond mae gwyddoniaeth fodern wedi cadarnhau bod y Beibl yn gywir. Mae’n “gwbl ddibynadwy ac yn sefyll am byth.”Salm 111:7, 8.

3. Pam gallwn ni ddibynnu ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyfodol?

Mae’r Beibl yn cynnwys proffwydoliaethau a sy’n “dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.” (Eseia 46:10) Y mae wedi rhagweld nifer fawr o ddigwyddiadau hanesyddol ymhell cyn iddyn nhw ddigwydd. Trawiadol hefyd yw’r proffwydoliaethau manwl am gyflwr y byd heddiw. Yn y wers hon, byddwn ni’n edrych ar rai o’r proffwydoliaethau yn y Beibl. Bydd eu cywirdeb yn eich synnu!

CLODDIO’N DDYFNACH

Gwelwch sut mae gwyddoniaeth fodern yn cytuno â’r Beibl, ac ystyriwch nifer o’r proffwydoliaethau trawiadol yn y Beibl.

4. Mae gwyddoniaeth yn cytuno â’r Beibl

Yn yr oes a fu, roedd y rhan fwyaf o bobl yn credu bod y ddaear yn sefyll ar ben rhywbeth arall. Gwyliwch y FIDEO.

Sylwch ar y sylwad yn llyfr Job, tua 3,500 o flynyddoedd yn ôl. Darllenwch Job 26:7, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae’r datganiad bod y ddaear wedi ei gosod “ar ddim” yn synnu rhywun?

Dim ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pobl yn deall y gylchred ddŵr yn iawn. Ond sylwch ar beth ddywedodd y Beibl filoedd o flynyddoedd yn ôl. Darllenwch Job 36:27, 28, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pam mae’r disgrifiad syml hwn o’r gylchred ddŵr yn drawiadol?

  • Ydy’r adnodau rydych chi newydd eu darllen yn cryfhau eich ffydd yn y Beibl?

5. Mae’r Beibl wedi rhagweld digwyddiadau pwysig

Darllenwch Eseia 44:27–45:2, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pa fanylion am y ffordd cafodd Babilon ei chipio roedd y Beibl yn eu rhagweld tua 200 mlynedd cyn iddo ddigwydd?

Mae hanes yn cadarnhau bod y Brenin Cyrus, o Persia, a’i fyddin wedi gorchfygu dinas Babilon yn y flwyddyn 539 COG. b Ailgyfeiriodd y milwyr yr afon a oedd yn amgylchynu’r ddinas. Aethon nhw i mewn i’r ddinas trwy’r giatiau agored, a’i chipio heb frwydr. Heddiw, ar ôl 2,500 o flynyddoedd, mae Babilon yn dal yn adfail. Sylwch ar beth a ragfynegodd y Beibl.

Darllenwch Eseia 13:19, 20, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut mae hanes Babilon yn cadarnhau bod y broffwydoliaeth hon wedi cael ei chyflawni?

Adfeilion Babilon yn Irac heddiw

6. Mae’r Beibl wedi rhagweld pethau sy’n digwydd heddiw

Mae’r Beibl yn cyfeirio at ein hamser ni fel “y dyddiau olaf.” (2 Timotheus 3:1) Sylwch ar beth ragwelodd y Beibl am y cyfnod hwn.

Darllenwch Mathew 24:6, 7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth ddywedodd y Beibl am gyflwr y byd yn ystod y dyddiau olaf?

Darllenwch 2 Timotheus 3:1-5, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut mae’r Beibl yn disgrifio agweddau pobl yn y dyddiau olaf?

  • Pa rai o’r agweddau hyn rydych chi wedi eu gweld?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae’r Beibl yn llawn chwedlau.”

  • Yn eich barn chi, beth ydy’r dystiolaeth amlycaf bod y Beibl yn ddibynadwy?

CRYNODEB

Mae hanes, gwyddoniaeth, a phroffwydoliaeth i gyd yn dangos y gallwch chi ymddiried yn y Beibl.

Adolygu

  • Ai llyfr ffeithiol neu lyfr llawn chwedlau yw’r Beibl?

  • Beth yw rhai esiamplau lle mae gwyddoniaeth yn cytuno â’r Beibl?

  • Ydych chi’n meddwl bod y Beibl yn rhagweld y dyfodol? Pam, neu pam ddim?

Nod

DARGANFOD MWY

A oes camgymeriadau gwyddonol yn y Beibl?

“Ydy’r Beibl yn Cytuno â Gwyddoniaeth?” (Erthygl ar jw.org)

Dysgwch sut cafodd proffwydoliaethau’r Beibl am Ymerodraeth Groeg eu cyflawni.

“Neges y Proffwydi” yn Cryfhau Ein Ffydd (5:22)

Dysgwch sut newidiodd un dyn ei farn am y Beibl ar ôl edrych ar rai o’i broffwydoliaethau.

“I Mi, Doedd Duw Ddim yn Bodoli” (Y Tŵr Gwylio Rhif 5 2017)

a Mae proffwydoliaethau yn cynnwys negeseuon oddi wrth Dduw am bethau a fydd yn digwydd yn y dyfodol.

b Ystyr COG ydy “Cyn yr Oes Gyffredin,” ac ystyr OG ydy “Oes Gyffredin.”