Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 2

Sut Mae Cadw Cydwybod Lân?

Sut Mae Cadw Cydwybod Lân?

‘Cadwch eich cydwybod yn lân.’—1 PEDR 3:16.

1, 2. Pam mae cwmpawd yn declyn mor bwysig, a sut mae’n debyg i’r gydwybod?

MAE morwr yn llywio llong drwy donnau’r cefnfor mawr; mae teithiwr yn croesi unigedd y paith; mae peilot yn gosod cwrs uwchben môr o gymylau sy’n ymestyn i’r gorwel pell. Wyddost ti beth sydd gan y bobl yma yn gyffredin? Gallen nhw i gyd fynd i helynt mawr heb gwmpawd, yn enwedig os na fyddai unrhyw dechnoleg fodern arall ar gael.

2 Teclyn syml yw cwmpawd, fel arfer ar ffurf deial gyda nodwydd fagnetig sy’n cyfeirio tua’r gogledd. Pan fo’n gweithio’n iawn ac o’i ddefnyddio gyda map cywir, fe all achub bywydau. Mewn ffordd y mae’n debyg i rodd werthfawr y mae Jehofa wedi ei rhoi inni, sef ein cydwybod. (Iago 1:17) Heb gydwybod bydden ni ar goll yn llwyr. Ond o’i defnyddio’n iawn, fe all ein helpu ni i gael hyd i’r llwybr cywir yn ein bywydau ac aros arno. Felly gad inni ystyried beth yw’r gydwybod a sut mae’n gweithio. Wedyn gallwn drafod y pwyntiau canlynol: (1) Sut mae hyfforddi’r gydwybod, (2) pam dylen ni ystyried cydwybod pobl eraill, a (3) sut mae cadw cydwybod lân yn fendith.

BETH YW’R GYDWYBOD A SUT MAE’N GWEITHIO

3. Beth yw ystyr llythrennol y gair Groeg am “gydwybod,” a pha gallu dynol unigryw y mae’n ei ddisgrifio?

3 Yn y Beibl, mae’r gair Groeg am “gydwybod,” fel y gair Cymraeg, yn cyfuno’r ddwy elfen “cyd” a “gwybod.” Yn wahanol i’r anifeiliaid, mae Duw wedi rhoi inni’r gallu i adnabod ein hunain. Y mae fel petawn ni’n medru sefyll yn ôl gan edrych arnon ni’n hunain a rhoi barn foesol. Fel barnwr mewnol, gall ein cydwybod edrych yn fanwl ar ein gweithredoedd, ein hagweddau a’n dewisiadau. Fe all ein tywys ni tuag at benderfyniad da neu ein rhybuddio ni rhag un drwg. Wedyn fe fydd yn ein canmol ni am ddewis doeth neu ein cosbi ni’n boenus am ddewis drwg.

4, 5. (a) Sut rydyn ni’n gwybod bod gan Adda ac Efa gydwybod, a beth ddigwyddodd oherwydd iddyn nhw anwybyddu cyfraith Duw? (b) Pa enghreifftiau sy’n dangos y gydwybod ar waith mewn dynion ffyddlon cyn Crist?

4 Roedd gan fodau dynol y ddawn gynhenid hon o’r cychwyn cyntaf. Dangosodd Adda ac Efa ill dau fod ganddyn nhw gydwybod. Mae hyn yn amlwg yn y cywilydd ddaeth arnyn nhw ar ôl iddyn nhw bechu. (Genesis 3:7, 8) Ond erbyn hynny nid oedd cydwybod anesmwyth o unrhyw fudd iddyn nhw. Roedden nhw wedi anwybyddu cyfraith Duw a hynny yn fwriadol. Eu dewis nhw oedd gwrthryfela a throi’n elynion i Jehofa Dduw. Fel bodau dynol perffaith roedden nhw’n gwybod beth yr oedden nhw’n ei wneud a doedd dim troi’n ôl.

5 Yn wahanol i Adda ac Efa, y mae llawer o bobl amherffaith wedi gwrando ar eu cydwybod. Er enghraifft, fe ddywedodd y dyn ffyddlon, Job: “Daliaf yn ddiysgog at fy nghyfiawnder, ac nid yw fy nghalon yn fy ngheryddu am fy muchedd.” * (Job 27:6) Roedd Job bob amser yn gwrando ar ei gydwybod, gan adael iddi lywio ei weithredoedd a’i benderfyniadau. Felly, roedd yn gallu dweud nad oedd ei gydwybod yn ei geryddu gyda theimladau o gywilydd ac euogrwydd. Ond roedd Dafydd yn wahanol. “Pigodd cydwybod Dafydd ef,” ond roedd hyn ar ôl iddo amharchu Saul, brenin eneiniog Jehofa. (1 Samuel 24:5) Mae’n amlwg bod dwysbigiadau ei gydwybod wedi gwneud lles i Dafydd, a’i ddysgu i osgoi fod yn amharchus o hynny ymlaen.

6. Beth sy’n dangos bod y gydwybod yn rhodd i’r ddynolryw i gyd?

6 Ai gweision Jehofa yw’r unig rai sy’n meddu ar gydwybod? Ystyria eiriau ysbrydoledig yr apostol Paul: “Pan yw Cenhedloedd sydd heb y Gyfraith yn cadw gofynion y Gyfraith wrth reddf, y maent, gan eu bod heb y Gyfraith, yn gyfraith iddynt eu hunain. Y maent yn dangos bod yr hyn a ofynnir gan y Gyfraith wedi ei ysgrifennu yn eu calonnau, gan fod eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu â’r Gyfraith, ac felly y mae eu meddyliau weithiau’n eu cyhuddo, ac weithiau hefyd yn eu hamddiffyn.” (Rhufeiniaid 2:14, 15) Ar adegau, caiff hyd yn oed pobl sy’n gwybod dim am gyfreithiau Jehofa eu hysgogi gan lais y gydwybod i ymddwyn yn unol ag egwyddorion Duw.

7. Pam gall y gydwybod ein camarwain weithiau?

7 Sut bynnag, mae’n bosibl i’r gydwybod ein camarwain ar brydiau. Pam? Wel, os yw cwmpawd yn rhy agos at ddarn o fetel, gall hynny wneud iddo gyfeirio i rywle heblaw’r gogledd. A heb fap cywir gall cwmpawd fod bron yn ddiwerth. Yn yr un modd, os yw dymuniadau hunanol y galon yn dylanwadu’n ormodol ar ein cydwybod, fe all ein pwyntio ni i’r cyfeiriad anghywir. Ac o’i defnyddio heb arweiniad sicr Gair Duw, efallai na fyddwn ni’n medru gwahaniaethu rhwng da a drwg mewn materion pwysig. Mewn gwirionedd, er mwyn i’n cydwybod weithio’n iawn, mae angen arweiniad ysbryd glân Jehofa arnon ni. Ysgrifennodd Paul: “Y mae fy nghydwybod, dan arweiniad yr Ysbryd Glân, yn fy ategu.” (Rhufeiniaid 9:1) Ond sut gallwn ni sicrhau bod ein cydwybod yn gweithio yn unol ag ysbryd glân Jehofa? Cwestiwn o hyfforddi ydyw.

SUT MAE HYFFORDDI EIN CYDWYBOD

8. (a) Sut mae’r galon yn gallu dylanwadu ar y gydwybod, a beth yw’r peth pwysicaf wrth benderfynu? (b) Pam nad yw cydwybod dawel bob amser yn ddigonol i Gristion? (Gweler y troednodyn.)

8 Sut mae rhywun yn gwneud penderfyniad ar sail cydwybod? Byddai rhai yn dweud, “Wel dw i jest yn meddwl am y peth ac yn mynd yn ôl fy nheimladau.” Wedyn bydd rhai’n dweud, “Dydy hynny ddim yn poeni fy nghydwybod i.” Gall dymuniadau cryf y galon ddwyn perswâd ar y gydwybod. Mae’r Beibl yn dweud: “Y mae’r galon yn fwy ei thwyll na dim, a thu hwnt i iachâd; pwy sy’n ei deall hi?” (Jeremeia 17:9) Felly ni ddylai’r galon gael y gair olaf. Yn hytrach, plesio Jehofa Dduw fydd y peth cyntaf y byddwn ni eisiau ei ystyried. *

9. Beth yw ofn duwiol, a sut y mae’n effeithio ar ein cydwybod?

9 Os ydyn ni wedi hyfforddi ein cydwybod, bydd ein penderfyniadau’n adlewyrchu ofn duwiol yn hytrach na dymuniadau personol. Ystyria enghraifft. Roedd hawl gan y llywodraethwr ffyddlon Nehemeia i ofyn am daliadau a threthi gan bobl Jerwsalem. Ond eto fe ddaliodd yn ôl rhag gwneud hynny. Pam? Roedd yn gas ganddo hyd yn oed y syniad o ennyn llid Jehofa drwy ormesu pobl Dduw. Dywedodd: “Ond ni wneuthum i ymddwyn fel hyn am fy mod yn ofni Duw.” (Nehemeia 5:15) Mae ofn duwiol diffuant, sef ofni digio ein Tad nefol, yn hanfodol. Bydd parchedig ofn fel hyn yn gwneud inni chwilio am gyfarwyddyd yng Ngair Duw pan fo angen gwneud penderfyniadau.

10, 11. Pa egwyddorion yn y Beibl sy’n berthnasol i yfed diodydd meddwol, a sut cawn ni arweiniad Duw wrth roi’r egwyddorion hyn ar waith?

10 Er enghraifft, ystyria’r cwestiwn o ddiodydd meddwol. Dyma benderfyniad sy’n wynebu llawer wrth gymdeithasu, ‘Ydw i’n mynd i yfed neu beidio?’ Yn gyntaf, bydd rhaid gwneud ymchwil. Pa egwyddorion Beiblaidd sy’n ymwneud â’r mater? Wel, nid yw’r Beibl yn dweud bod yfed alcohol yn gymedrol yn anghywir. Yn wir, mae’r Beibl yn dweud bod gwin yn rhodd oddi wrth Jehofa. (Salm 104:14, 15) Sut bynnag, mae’r Beibl yn condemnio goryfed a phartïon gwyllt. (Luc 21:34; Rhufeiniaid 13:13) Ar ben hynny, mae’n cynnwys meddwi ar restr o bechodau difrifol, fel anfoesoldeb rhywiol. *1 Corinthiaid 6:9, 10.

11 Mae egwyddorion o’r fath yn hyfforddi cydwybod y Cristion a’i gwneud yn fwy sensitif. Felly, pan fyddwn ni’n gorfod penderfynu ynglŷn ag yfed yn gymdeithasol, dylen ni ofyn cwestiynau fel: ‘Pa fath o achlysur sy’n cael ei drefnu? Ydy pethau’n debygol o fynd dros ben llestri a throi’n gyfeddach? Beth yw fy ngwendidau i yn hyn o beth? Ydw i’n awchu am alcohol, yn dibynnu arno, ac yn ei ddefnyddio i deimlo’n well ac i ddianc rhag fy mhroblemau? Ydw i’n medru rheoli faint rydw i’n ei yfed?’ Wrth inni feddwl yn ddwys am egwyddorion y Beibl a’r cwestiynau sy’n deillio ohonyn nhw, peth da fyddai inni weddïo am arweiniad Jehofa. (Darllen Salm 139:23, 24.) Trwy wneud hyn rydyn ni’n gofyn i Jehofa ein harwain ni drwy ei ysbryd glân. Ar yr un pryd rydyn ni’n hyfforddi ein cydwybod i ddilyn egwyddorion dwyfol. Ond wrth bwyso a mesur, mae yna ffactor arall y dylen ni ei ystyried.

PAM YSTYRIED CYDWYBOD POBL ERAILL?

Gall cydwybod wedi ei hyfforddi gan y Beibl dy helpu di i benderfynu a fyddi di’n yfed alcohol neu beidio

12, 13. Pam mae amrywiaeth ymhlith Cristnogion o ran cydwybod, a sut dylen ni ymateb i’r gwahaniaethau hyn?

12 Efallai byddi di’n synnu o weld i ba raddau mae cydwybod Cristnogion yn amrywio. Bydd un yn gweld rhyw arferiad yn annerbyniol tra bo un arall yn ei fwynhau a gweld dim rheswm dros ei gondemnio. Pan ddaw at yfed yn gymdeithasol er enghraifft, fe fydd un yn mwynhau cael diod wrth ymlacio yng nghwmni ffrindiau, tra bo rhywun arall yn teimlo’n anghyfforddus am y peth. Pam eu bod nhw mor wahanol eu barn, a sut dylai hyn effeithio ar ein penderfyniadau ni?

13 Y mae nifer o resymau pam bod cymaint o wahaniaeth barn. Mae cefndir pobl yn wahanol. Y mae rhai’n ymwybodol iawn fod ganddyn nhw wendid sydd efallai wedi achosi problemau yn y gorffennol. (1 Brenhinoedd 8:38, 39) Mae’n debyg y bydd rhai felly yn sensitif iawn ynglŷn ag alcohol. Petasai rhywun sy’n teimlo fel hyn yn ymweld â thi, efallai bydd ei gydwybod yn gwneud iddo wrthod dy gynnig o ddiod. A fydd hyn yn dy bechu? A fyddi di’n mynnu ei fod yn cymryd un? Na fyddi. P’un a wyddost ei resymau ai peidio—ac efallai na fydd ef yn dymuno esbonio o flaen pawb—bydd cariad brawdol yn gwneud i ti barchu ei ddymuniad.

14, 15. Ar ba gwestiwn roedd cydwybod aelodau’r gynulleidfa yn y ganrif gyntaf yn amrywio, a beth oedd Paul yn ei argymell?

14 Fe welodd yr apostol Paul fod amrywiaeth mawr o ran cydwybod ymhlith Cristnogion yn y ganrif gyntaf. Amser hynny roedd rhai Cristnogion yn poeni am fwydydd a oedd wedi eu haberthu i eilunod. (1 Corinthiaid 10:25) Roedd cydwybod Paul yn caniatáu iddo fwyta’r bwydydd hyn a oedd yn cael eu gwerthu yn y farchnad. Iddo ef, pethau di-werth oedd eilunod. Fel ffynhonnell pob peth, Jehofa oedd biau’r bwyd beth bynnag, nid rhyw eilun. Ond fe wyddai Paul nad oedd pawb o’r un farn. Efallai roedd rhai’n addoli eilunod cyn troi’n Gristnogion. Iddyn nhw, roedd unrhyw beth a oedd wedi ei gysylltu ag addoli eilunod yn wrthun. Beth oedd yr ateb felly?

15 Dywedodd Paul: “Y mae’n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau’r rhai sy’n eiddil eu cydwybod, a pheidio â’n plesio ein hunain. Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist.” (Rhufeiniaid 15:1, 3) Rhesymodd Paul y dylen ni roi anghenion ein brodyr yn gyntaf, fel y gwnaeth Crist. Wrth drafod pwnc tebyg, fe ddywedodd Paul y byddai’n well ganddo beidio â bwyta cig o gwbl pe bai hynny yn peri tramgwydd i’r defaid annwyl yr oedd Crist wedi rhoi ei fywyd drostyn nhw.—Darllen 1 Corinthiaid 8:13; 10:23, 24, 31-33.

16. Pam dylai’r rhai sydd â chydwybod fwy cul beidio â barnu’r rhai sydd â chydwybod wahanol?

16 Ar y llaw arall, ni ddylai’r rhai sydd â chydwybod fwy cul feirniadu eraill a mynnu bod pawb yn cytuno â’u cydwybod nhw. (Darllen Rhufeiniaid 14:10.) Mewn gwirionedd, defnyddio’r gydwybod i farnu ein hunain sydd orau, yn hytrach na’i defnyddio i farnu eraill. Cofia eiriau Iesu: “Peidiwch â barnu, rhag ichwi gael eich barnu.” (Mathew 7:1) Dylai pawb yn y gynulleidfa osgoi gwneud môr a mynydd o faterion sy’n ymwneud â’r gydwybod bersonol. Yn lle hynny, rydyn ni’n edrych am ffyrdd i hyrwyddo cariad ac undeb, i fod yn adeiladol a dim i dynnu i lawr.—Rhufeiniaid 14:19.

SUT MAE CYDWYBOD LÂN YN FENDITH

Gall cydwybod lân ein cyfeirio ni ar daith ein bywyd, gan ddod â llawenydd a thawelwch meddwl

17. Beth sydd wedi digwydd i gydwybod llawer o bobl heddiw?

17 Ysgrifennodd yr apostol Pedr y dylen ni gadw ein “cydwybod yn lân.” (1 Pedr 3:16) Y mae cydwybod lân yng ngolwg Jehofa Dduw yn fendith fawr. Mae’n wahanol i gydwybod llawer o bobl heddiw. Dywedodd Paul fod rhai pobl “â’u cydwybod wedi ei serio.” (1 Timotheus 4:2) Mae haearn serio yn llosgi’r cnawd, gan ei greithio a’i adael yn ddideimlad. Mae gan lawer gydwybod sydd i bob pwrpas yn farw. Mae’r creithiau mor ddwfn a dideimlad nad yw’r gydwybod bellach yn rhybuddio, na phrotestio na theimlo unrhyw gywilydd dros ddrygioni. Ac mae llawer wedi hen ffarwelio ar deimladau fel euogrwydd.

18, 19. (a) Pa werth sydd i deimladau o euogrwydd neu gywilydd? (b) Beth y gallwn ni ei wneud os yw ein cydwybod yn dal i’n cosbi ni am hen bechodau rydyn ni eisoes wedi edifarhau drostyn nhw?

18 Mewn gwirionedd, gall euogrwydd fod yn neges o’r gydwybod i ddweud ein bod ni ar fai. Pan fydd teimladau o’r fath yn peri i bechadur edifarhau, gall hyd yn oed y pechodau gwaethaf gael maddeuant. Er enghraifft, fe wnaeth y Brenin Dafydd bechu’n ddifrifol ond maddeuwyd iddo yn bennaf oherwydd iddo edifarhau o’i galon. Oherwydd iddo gasáu’r drwg yr oedd wedi ei wneud a phenderfynu o hyn ymlaen bod yn ufudd i gyfraith Jehofa, fe welodd drosto’i hun fod Jehofa “yn dda a maddeugar.” (Salm 51:1-19; 86:5) Ond beth petai cywilydd yn parhau i bwyso’n drwm ar ein meddwl, hyd yn oed ar ôl inni edifarhau a chael maddeuant?

19 Weithiau mae’r gydwybod yn gallu cosbi’n rhy lym, gan ddyrnu pechadur ag euogrwydd nad yw bellach o unrhyw fudd. Os bydd ein calonnau ni yn ein condemnio fel hyn, efallai bod angen inni ein hatgoffa ni’n hunain fod Jehofa yn fwy nag unrhyw deimladau dynol. Mae’n rhaid inni gredu yn ei gariad a derbyn ei faddeuant, fel rydyn ni’n annog eraill i’w wneud. (Darllen 1 Ioan 3:19, 20.) Ar y llaw arall, mae cydwybod lân yn dod â thawelwch meddwl a llawenydd, pethau prin yn y byd sydd ohoni. Mae llawer oedd ar un adeg yn pechu’n ddifrifol wedi profi rhyddhad rhyfeddol a heddiw mae ganddyn nhw gydwybod lân wrth wasanaethu Jehofa Dduw.—1 Corinthiaid 6:11.

20, 21. (a) Sut bydd y llyfr hwn yn dy helpu? (b) Fel Cristnogion, pa ryddid sydd gennyn ni, ond sut dylen ni ei ddefnyddio?

20 Pwrpas y llyfr hwn yw dy helpu di i gael y llawenydd hwnnw ac i gadw cydwybod lân trwy weddill y dyddiau diwethaf yn nhrefn ddrwg Satan. Wrth gwrs, mae’r Beibl yn cynnwys llawer o gyfreithiau ac egwyddorion sy’n berthnasol i’th fywyd pob dydd, ac ni all llyfr fel hwn esbonio pob un yn fanwl. Heblaw hyn, paid â disgwyl rheolau syml, du a gwyn, ar faterion sy’n ymwneud â’r gydwybod. Bwriad y llyfr hwn yw dy helpu di i hyfforddi dy gydwybod a’i gwneud yn fwy sensitif drwy ddysgu sut i roi Gair Duw ar waith yn dy fywyd pob dydd. Yn wahanol i Gyfraith Moses, mae ‘Cyfraith Crist’ yn ein gwahodd ni i fyw yn ôl cydwybod ac egwyddor yn hytrach nag yn ôl rheolau ysgrifenedig. (Galatiaid 6:2) Mae Jehofa felly yn rhoi rhyddid aruthrol i Gristnogion. Eto mae ei Air yn ein hatgoffa ni i beidio byth ag arfer y rhyddid hwnnw “i gelu drygioni.” (1 Pedr 2:16) Yn hytrach, mae’r fath ryddid yn rhoi inni gyfle arbennig i ddangos ein cariad tuag at Jehofa.

21 Trwy feddwl yn ofalus a gweddïo am y ffordd orau i fyw yn ôl egwyddorion y Beibl ac wedyn drwy roi dy benderfyniadau ar waith, byddi di’n cynnal proses hanfodol a ddechreuodd pan ddaethost ti i adnabod Jehofa gyntaf. Bydd dy “synhwyrau” yn cael eu hyfforddi “trwy ymarfer.” (Hebreaid 5:14) Wedi ei hyfforddi gan y Beibl, bydd dy gydwybod yn fendith i ti bob dydd o’th fywyd. Fel y cwmpawd sy’n cyfeirio’r teithiwr, bydd dy gydwybod yn dy helpu di i wneud penderfyniadau sy’n plesio dy Dad nefol. Dyma ffordd sicr o aros yng nghariad Duw.

^ Par. 5 Mae’n glir mai’r gydwybod sydd ar waith yma ac mewn esiamplau tebyg. Yn gyffredinol, mae’r gair “calon” yn cyfeirio at y person oddi mewn. Ond mewn enghreifftiau fel hyn, mae’n amlwg ei fod yn cyfeirio at ran benodol y person oddi mewn—y gydwybod. Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, y mae’r gair Groeg sy’n cael ei drosi fel “cydwybod” yn digwydd ryw 30 o weithiau.

^ Par. 8 Mae’r Beibl yn dangos nad yw cydwybod dawel bob amser yn ddigonol. Er enghraifft, dywedodd Paul: “Nid oes gennyf ddim ar fy nghydwybod, ond nid wyf drwy hynny wedi fy nghael yn ddieuog. Yr Arglwydd yw fy marnwr i.” (1 Corinthiaid 4:4) Gall hyd yn oed pobl sy’n erlid Cristnogion, fel y gwnaeth Paul ar un adeg, wneud hynny gyda chydwybod dawel, gan feddwl bod Duw o blaid yr hyn maen nhw’n ei wneud. Hanfodol, felly, yw cydwybod sy’n glir o’n safbwynt ni ac sy’n lân yng ngolwg Duw.—Actau 23:1; 2 Timotheus 1:3.

^ Par. 10 Dylid nodi bod llawer o feddygon yn dweud nad yw’n bosibl i alcoholigion reoli eu hyfed, ac felly, iddyn nhw, mae “cymedroldeb” yn golygu peidio ag yfed alcohol o gwbl.