PENNOD TRI
Beth Yw Pwrpas Duw ar Gyfer y Ddaear?
-
Beth yw pwrpas Duw ar gyfer dynolryw?
-
Sut mae Duw wedi cael ei herio?
-
Sut bydd bywyd ar y ddaear yn y dyfodol?
1. Beth yw pwrpas Duw ar gyfer y ddaear?
MAE pwrpas Duw ar gyfer y ddaear yn fendigedig. Mae Jehofa am i’r ddaear gael ei llenwi gyda phobl iach a hapus. Mae’r Beibl yn dweud: “A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden” a “gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i’r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o’r tir.” Ar ôl i Dduw greu’r dyn cyntaf a’r ddynes gyntaf, Adda ac Efa, a’u rhoi yn y cartref hyfryd hwnnw, dywedodd wrthyn nhw: “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi.” (Genesis 1:28; 2:8, 9, 15) Felly, pwrpas Duw oedd i fodau dynol gael plant, ymestyn terfynau’r ardd oedd yn gartref iddyn nhw ledled y byd, a gofalu am yr anifeiliaid.
2. (a) Sut rydyn ni’n gwybod y caiff pwrpas Duw ar gyfer y ddaear ei gyflawni? (b) Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am fodau dynol yn byw am byth?
2 Ydych chi’n meddwl y caiff pwrpas Duw i bobl fyw mewn paradwys ar y ddaear ei wireddu? “Yn wir, lleferais,” meddai Duw, “ac fe’i gwnaf.” (Eseia 46:9-11; 55:11) Beth bynnag mae Duw yn ei fwriadu, y mae’n sicr o’i wneud! Mae ef yn dweud na “chreodd [y ddaear] yn ofer” ond “i’w phreswylio y lluniodd hi.” (Eseia 45:18, BC) Pa fath o bobl roedd Duw yn dymuno eu gweld yn byw ar y ddaear? Ac am ba hyd? Mae’r Beibl yn addo: “Y mae’r cyfiawn yn etifeddu’r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth.”—Salm 37:29; Datguddiad 21:3, 4.
3. Pa gyflwr truenus sydd nawr yn bodoli ar y ddaear, ac felly, pa gwestiynau sy’n codi?
3 Yn amlwg, nid yw hyn wedi digwydd eto. Mae pobl nawr yn mynd yn wael ac yn marw; maen nhw hyd yn oed yn ymladd ac yn lladd ei gilydd. Mae rhywbeth wedi mynd o’i le. Yn sicr, doedd Duw ddim yn bwriadu i’r ddaear fod fel y mae hi heddiw! Beth ddigwyddodd? Pam dydy pwrpas Duw ddim wedi cael ei gyflawni? Nid oes yr un llyfr hanes sydd wedi ei ysgrifennu gan ddyn yn medru esbonio’r rheswm, oherwydd yn y nef y dechreuodd yr helynt.
GELYN YN YMDDANGOS
4, 5. (a) Pwy mewn gwirionedd siaradodd ag Efa drwy gyfrwng sarff? (b) Sut gallai rhywun a oedd ar un adeg yn barchus ac yn onest droi’n lleidr?
4 Yn llyfr cyntaf y Beibl darllenwn am wrthwynebwr i Dduw a ymddangosodd yng ngardd Eden. Fe’i disgrifiwyd fel “y sarff,” ond nid anifail yn unig mohono. Mae llyfr olaf y Beibl yn ei adnabod fel “Diafol a Satan, yr un sy’n twyllo’r holl fyd.” Fe’i gelwir ef hefyd “yr hen sarff.” (Genesis 3:1; Datguddiad 12:9) Fe wnaeth yr angel grymus hwn a oedd yn ysbryd greadur anweledig, ddefnyddio sarff i siarad ag Efa, fel y mae rhywun medrus yn gallu gwneud iddi ymddangos bod dymi neu byped yn siarad. Yn sicr, roedd yr ysbryd berson hwnnw yn bresennol pan oedd Duw yn paratoi’r ddaear ar gyfer dynolryw.—Job 38:4, 7.
5 Felly, gan fod pob un o greadigaethau Jehofa yn berffaith, pwy wnaeth y “Diafol,” neu’r “Satan” hwn? Yn syml, fe wnaeth un o ysbryd feibion grymus Duw ei droi ei hun yn Ddiafol. Sut oedd hyn yn bosibl? Wel, gall rhywun Iago 1:13-15.
a oedd ar un adeg yn barchus ac yn onest droi’n lleidr. Sut mae hynny’n digwydd? Gall unigolyn ganiatáu i chwantau drwg ddatblygu yn ei galon. Os yw rhywun yn dal ati i feddwl am y chwantau drwg hynny gallan nhw dyfu’n gryf. Wedyn, os yw’r cyfle yn codi, gall rhywun weithredu ar y chwantau y mae wedi bod yn meddwl amdanyn nhw.—Darllenwch6. Sut trodd un o ysbryd feibion grymus Duw yn Satan y Diafol?
6 Dyna beth ddigwyddodd yn achos Satan y Diafol. Yn ôl pob tebyg, fe glywodd ef Dduw yn dweud wrth Adda ac Efa am gael plant a llenwi’r ddaear â’u disgynyddion. (Genesis 1:27, 28) ‘Byddai’r bobl hyn i gyd yn gallu f’addoli i yn hytrach na Duw!’ meddyliai Satan yn ôl pob golwg. Felly, tyfodd chwant amhriodol yn ei galon. Yn y pen draw, aeth ati i dwyllo Efa drwy ddweud celwyddau am Dduw. (Darllenwch Genesis 3:1-5.) Gan hynny, fe ddaeth yn “Ddiafol,” sy’n golygu “Enllibiwr.” Ar yr un pryd, fe ddaeth yn “Satan,” sy’n golygu “Gwrthwynebwr.”
7. (a) Pam bu farw Adda ac Efa? (b) Pam mae holl ddisgynyddion Adda yn heneiddio a marw?
7 Trwy ddefnyddio celwyddau a thwyll, achosodd Satan y Diafol i Adda ac Efa anufuddhau i Dduw. (Genesis 2:17; 3:6) Oherwydd hyn, ymhen hir a hwyr fe wnaethon nhw farw, yn union fel y dywedodd Duw y byddai’n digwydd pe bydden nhw’n anufudd. (Genesis 3:17-19) Wrth bechu daeth Adda yn amherffaith, ac felly, fe wnaeth ei holl ddisgynyddion etifeddu pechod. (Darllenwch Rhufeiniaid 5:12.) Gallwn ddeall y sefyllfa drwy feddwl am ddefnyddio tun i bobi bara. Os oes tolc yn y tun, beth fydd yn digwydd i bob torth sy’n cael ei bobi ynddo? Bydd gan bob torth dolc ynddi ac felly’n amherffaith. Yn yr un modd, mae pob unigolyn wedi etifeddu “tolc” o amherffeithrwydd gan Adda. Dyna pam mae bodau dynol yn heneiddio a marw.—Rhufeiniaid 3:23.
8, 9. (a) I bob pwrpas, beth oedd her Satan? (b) Pam na wnaeth Duw ddinistrio’r gwrthryfelwyr yn y fan a’r lle?
8 Pan arweiniodd Satan Adda ac Efa i bechu yn erbyn Duw, arwain gwrthryfel yr oedd mewn gwirionedd. Herio ffordd Duw o reoli yr oedd. I bob pwrpas, roedd Satan yn dweud: ‘Rheolwr drwg yw Duw. Mae’n dweud celwydd ac mae’n cadw pethau da oddi wrth ei ddeiliaid. Does dim angen Duw ar fodau dynol i reoli drostyn nhw. Fe fedran nhw benderfynu beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg drostyn nhw eu hunain. A byddan nhw yn well eu byd o dan fy rheolaeth i.’ Beth byddai Duw yn ei wneud yn wyneb y fath sarhad? Mae rhai yn meddwl y dylai Duw fod wedi lladd y gwrthryfelwyr yn y fan a’r lle. Ond, a fyddai hynny wedi ateb her Satan? A fyddai hynny wedi profi bod ffordd Duw o reoli yn iawn?
9 Nid oedd cyfiawnder Jehofa yn caniatáu iddo ddienyddio’r gwrthryfelwyr yn syth. Penderfynodd fod angen amser er mwyn ateb her Satan yn llwyr a phrofi mai un celwyddog yw’r Diafol. Felly, penderfynodd Duw y byddai’n caniatáu i ddynolryw ei rheoli ei hun am gyfnod o dan ddylanwad Satan. Bydd y rhesymau i Jehofa wneud hynny a chaniatáu i gymaint o amser fynd heibio cyn torri’r ddadl, yn cael eu trafod ym Mhennod 11 yn y llyfr hwn. Ond nawr, mae’n werth ystyried hyn: A oedd Adda ac Efa yn iawn i gredu Satan, un nad oedd erioed wedi gwneud unrhyw beth da drostyn nhw? A oedd yn iawn iddyn nhw gredu bod Jehofa, a oedd wedi rhoi popeth iddyn nhw, yn un celwyddog a chreulon? Beth byddech chi wedi ei wneud?
10. Sut gallwch chi ochri gyda Jehofa ac ateb her Satan?
10 Peth da yw meddwl am hyn oherwydd rydyn ni i gyd yn wynebu cwestiynau tebyg heddiw. Yn wir, mae’r cyfle gennych i ochri gyda Jehofa ac ateb her Satan. Fe fedrwch chi dderbyn Duw yn rheolwr arnoch a helpu i brofi mai un celwyddog yw Satan. (Salm 73:28; darllenwch Diarhebion 27:11.) Trist nodi mai dim ond ychydig o blith y biliynau o bobl yn y byd hwn sydd yn dewis gwneud felly. Mae hyn yn codi cwestiwn pwysig: Ydy’r Beibl o ddifrif yn dysgu mai Satan sy’n rheoli’r byd hwn?
PWY SY’N RHEOLI’R BYD HWN?
11, 12. (a) Sut mae un o demtasiynau Iesu yn datgelu mai Satan yw rheolwr y byd hwn? (b) Beth arall sy’n profi mai Satan yw rheolwr y byd hwn?
Mathew 4:8, 9; Luc 4:5, 6) Meddyliwch am hyn. A fyddai’r cynnig hwnnw wedi bod yn demtasiwn i Iesu oni bai fod Satan yn rheolwr ar y teyrnasoedd hyn? Wnaeth Iesu ddim gwadu mai Satan oedd piau llywodraethau’r byd hwn. Yn sicr, dyna fyddai Iesu wedi ei wneud pe na bai Satan yn ben ar y llywodraethau hynny.
11 Wnaeth Iesu erioed amau nad Satan oedd rheolwr y byd hwn. Mewn rhyw ffordd wyrthiol, dangosodd Satan i Iesu unwaith “holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant.” Yna addawodd Satan i Iesu: “Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i.” (12 Wrth gwrs, Jehofa yw’r Duw hollalluog, a Chreawdwr y bydysawd rhyfeddol. (Datguddiad 4:11) Ond eto, nid oes yr un adnod yn y Beibl yn dweud mai Jehofa Dduw neu Iesu Grist sy’n rheoli’r byd hwn. Yn wir, cyfeiriodd Iesu yn benodol at Satan fel “tywysog y byd hwn.” (Ioan 12:31; 14:30; 16:11) Mae’r Beibl hyd yn oed yn cyfeirio at Satan y Diafol fel “duw’r oes bresennol.” (2 Corinthiaid 4:3, 4) Ynglŷn â Satan, ysgrifennodd yr apostol Ioan fod “yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg.”—1 Ioan 5:19.
DIDDYMU BYD SATAN
13. Pam fod angen byd newydd?
13 Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae’r byd yn mynd yn fwyfwy peryglus. Mae byddinoedd rhyfelgar, gwleidyddion anonest, arweinwyr crefyddol rhagrithiol a throseddwyr diedifar yn ymledu i bob cwr ohono. At ei gilydd, nid oes gobaith diwygio’r byd fel y mae. Mae’r Beibl yn dangos bydd Duw cyn bo hir yn cael gwared ar y byd drygionus hwn yn ystod rhyfel Armagedon. Bydd hyn yn agor y ffordd i fyd newydd cyfiawn.—Datguddiad 16:14-16.
14. Pwy mae Duw wedi ei ddewis fel Rheolwr Ei Deyrnas a sut cafodd hyn ei broffwydo?
Eseia 9:6, 7, BC) Am y llywodraeth hon, dysgodd Iesu i’w ddilynwyr weddïo: “Deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.” (Mathew 6:10) Fel y gwelwn nes ymlaen yn y llyfr hwn, bydd Teyrnas Dduw yn rhoi terfyn ar lywodraethau’r byd i gyd, a hithau’n sefyll yn eu lle. (Darllenwch Daniel 2:44.) Yna bydd Teyrnas Dduw yn troi’r ddaear yn baradwys.
14 Fe wnaeth Jehofa Dduw ddewis Iesu Grist yn Rheolwr ar Ei Deyrnas, neu lywodraeth nefol. Amser maith yn ôl, rhagfynegodd y Beibl: “Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef . . . Tywysog tangnefedd. Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i dangnefedd ni bydd diwedd.” (BYD NEWYDD YN AGOS!
15. Beth yw’r “ddaear newydd”?
15 Mae’r Beibl yn ein sicrhau: “Ond disgwyl yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef [Duw], am nefoedd newydd a daear newydd, lle bydd cyfiawnder yn cartrefu.” (2 Pedr 3:13; Eseia 65:17) Weithiau, wrth sôn am “y ddaear,” mae’r Beibl yn golygu’r bobl sy’n byw ar y ddaear. (Genesis 11:1, BC) Felly, cymdeithas o bobl wedi eu cymeradwyo gan Dduw yw’r “ddaear newydd.”
16. Beth yw’r rhodd amhrisiadwy y mae Duw yn ei rhoi i’r rhai sy’n gymeradwy ganddo, a beth sy’n rhaid inni ei wneud i’w derbyn?
16 Fe wnaeth Iesu addo y byddai’r rhai sydd wedi eu cymeradwyo gan Dduw yn derbyn y rhodd o “fywyd tragwyddol” yn y byd newydd sydd ar ddod. (Marc 10:30) Agorwch eich Beibl a darllenwch Ioan 3:16 ac 17:3 i weld beth y mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn derbyn bywyd tragwyddol. Ystyriwch nesaf addewidion y Beibl am y bendithion fydd yn dod i’r rhai sy’n gymwys i dderbyn rhodd Duw yn y baradwys ddaearol.
17, 18. Sut gallwn ni fod yn sicr y bydd heddwch a diogelwch ym mhob cwr o’r ddaear?
Salm 37:10, 11) Bydd heddwch oherwydd ‘fe wna Duw i ryfeloedd beidio trwy’r holl ddaear.’ (Salm 46:9; Eseia 2:4) Yna, “blodeua y cyfiawn ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad”—ac mae hynny’n golygu am byth!—Salm 72:7, BC.
17 Bydd drygioni, rhyfel, trosedd a thrais wedi diflannu. “Ni fydd y drygionus . . . Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu’r tir.” (18 Bydd addolwyr Jehofa yn byw’n gwbl ddiogel. Cyn belled ag yr oedd yr Israeliaid adeg y Beibl yn ufuddhau i Dduw, roedden nhw’n byw’n gwbl ddiogel. (Lefiticus 25:18, 19) Braf iawn fydd mwynhau diogelwch tebyg ym Mharadwys!—Darllenwch Eseia 32:18; Micha 4:4.
19. Sut rydyn ni’n gwybod y bydd digonedd o fwyd ym myd newydd Duw?
19 Bydd bwyd byth yn brin. “Bydded digonedd o ŷd yn y wlad,” canodd y Salmydd, “yn tyfu hyd at bennau’r mynyddoedd.” (Salm 72:16) Bydd Jehofa Dduw yn bendithio ei rai cyfiawn a dywed y Beibl: “Rhoes y ddaear ei chnwd.”—Salm 67:6.
20. Sut gallwn ni fod yn sicr y bydd yr holl ddaear yn troi’n baradwys?
20 Bydd yr holl ddaear yn dod yn baradwys. Bydd cartrefi newydd a gerddi hyfryd yn llenwi tir a oedd ar un adeg wedi ei ddifetha gan bobl bechadurus. (Darllenwch Eseia 65:21-24; Datguddiad 11:18) Wrth i amser fynd heibio, bydd rhannau’r ddaear sydd eisoes o dan reolaeth yn ymestyn nes bod y ddaear gron mor brydferth a ffrwythlon â gardd Eden. Bydd Duw bob amser yn ‘agor ei law ac yn diwallu popeth byw.’—Salm 145:16.
21. Beth sy’n dangos y bydd heddwch yn bodoli rhwng pobl ac anifeiliaid?
21 Bydd heddwch rhwng pobl ac anifeiliaid. Bydd anifeiliaid gwyllt a dof yn bwyta gyda’i gilydd. Ni fydd plentyn Eseia 11:6-9; 65:25.
bach hyd yn oed yn ofni anifeiliaid sydd nawr yn beryglus.—Darllenwch22. Beth fydd yn digwydd i salwch?
22 Bydd salwch yn diflannu. Fel Rheolwr Teyrnas nefol Duw, bydd Iesu yn iacháu pobl ar raddfa fwy nag unrhyw beth a wnaeth tra bu ar y ddaear. (Mathew 9:35; Marc 1:40-42; Ioan 5:5-9) Yna, “ni ddywed neb o’r preswylwyr, ‘Rwy’n glaf.’”—Eseia 33:24; 35:5, 6.
23. Pam fydd yr atgyfodiad yn dod â llawenydd mawr inni?
23 Bydd ein hanwyliaid marw yn dod yn fyw eto gyda’r gobaith na fyddan nhw byth yn marw. Bydd pob un sydd wedi huno ac sydd yng nghof Duw yn cael ei atgyfodi. Yn wir, “bydd atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.”—Actau 24:15; darllenwch Ioan 5:28, 29.
24. Sut rydych chi’n teimlo ynglŷn â byw mewn Paradwys ar y ddaear?
24 Mae dyfodol bendigedig yn disgwyl y rhai sy’n dewis dysgu am ein Creawdwr Mawr, Jehofa Dduw, ac sydd yn ei wasanaethu! Sôn am y Baradwys sydd i ddod i’r ddaear roedd Iesu pan addawodd i’r troseddwr a fu farw wrth ei ymyl: “Byddi gyda mi ym Mharadwys.” (Luc 23:43) Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n dysgu mwy am Iesu Grist, gan mai drwyddo ef y caiff yr holl fendithion hyn eu gwireddu.