Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN

Pwy Yw Duw?

Pwy Yw Duw?

1, 2. Pa gwestiynau y mae pobl yn eu gofyn?

MAE plant yn gofyn cwestiynau o hyd. Efallai byddwch yn egluro rhywbeth, ond wedyn maen nhw’n gofyn, ‘Pam?’ Ac wrth geisio ateb hwnnw, byddan nhw’n dweud, ‘Ie, ond pam?’

2 Yn hen neu’n ifanc, mae gan bawb gwestiynau. Efallai byddan nhw’n gwestiynau am beth i’w fwyta neu ei wisgo. Neu efallai byddan nhw’n gwestiynau mawr am fywyd ac am y dyfodol. Ond os nad ydyn ni’n llwyddo i gael atebion i’r cwestiynau mawr, hawdd yw rhoi’r gorau i chwilio am yr atebion.

3. Pam mae llawer yn meddwl nad oes modd cael atebion i’w cwestiynau pwysig?

3 Ydy’r atebion i’n cwestiynau pwysig i’w cael yn y Beibl? Ydyn, meddai rhai, ond eto maen nhw’n teimlo bod y Beibl yn anodd ei ddeall. Maen nhw’n meddwl mai dim ond athrawon a gweinidogion sy’n gwybod yr atebion. Mae eraill yn rhy swil i gyfaddef nad ydyn nhw’n gwybod. Beth rydych chi’n ei feddwl?

4, 5. Pa gwestiynau pwysig sydd gennych chi? Pam dylech chi ddal ati i chwilio am atebion?

4 Mae’n debyg yr hoffech chi gael atebion i gwestiynau fel: Beth yw pwrpas bywyd? Beth sy’n digwydd ar ôl inni farw? Sut un yw Duw? Dywedodd Iesu: “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor.” (Mathew 7:7) Peidiwch â rhoi’r gorau iddi nes ichi lwyddo i gael hyd i’r atebion iawn.

5 Os “daliwch ati i ofyn,” cewch yr atebion yn y Beibl. (Diarhebion 2:1-5) Dydy’r atebion ddim yn rhy anodd. Byddan nhw’n rhoi bywyd hapusach ichi nawr, a gobaith hyfryd ar gyfer y dyfodol. Dewch inni drafod un cwestiwn sydd wedi poeni llawer o bobl.

YDY DUW YN EIN CARU NI?

6. Pam mae rhai yn meddwl nad yw Duw yn eu caru?

6 Mae llawer yn meddwl nad yw Duw yn eu caru. ‘Pe bai Duw yn ein caru ni fe fyddai’r byd yn wahanol,’ meddan nhw. Mae rhyfeloedd, casineb, a thristwch ym mhob man. Mae pobl yn mynd yn sâl, yn dioddef, ac yn marw. Bydd rhai yn dweud: ‘Os yw Duw yn ein caru, pam nad yw’n atal yr holl ddioddefaint yn y byd?’

7. (a) Sut mae arweinwyr crefyddol wedi awgrymu bod Duw yn greulon? (b) Sut gallwn ni fod yn sicr nad yw Duw ar fai am y pethau drwg sy’n digwydd?

7 Weithiau mae arweinwyr crefyddol yn gwneud i bobl gredu bod Duw yn greulon. Pan fydd rhywbeth ofnadwy’n digwydd, byddan nhw’n dweud mai ewyllys Duw oedd hyn, hynny yw bod Duw eisiau i hyn ddigwydd. Mewn gwirionedd, rhoi’r bai ar Dduw y maen nhw. Ond mae’r Beibl yn dysgu nad yw pethau drwg byth yn dod oddi wrth Dduw. Dywed Iago 1:13: “Ddylai neb ddweud pan mae’n cael ei brofi, ‘Duw sy’n fy nhemtio i.’ Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith.” Felly er nad yw Duw wedi atal pethau drwg rhag digwydd, nid Duw sy’n eu hachosi. (Darllenwch Job 34:10-12.) Ystyriwch yr esiampl ganlynol.

8, 9. Pam byddai’n annheg inni feio Duw am ein problemau? Rhowch esiampl.

8 Dychmygwch fod dyn ifanc yn byw gyda’i rieni. Mae ei dad yn ei garu’n fawr, ac wedi ei ddysgu i wneud penderfyniadau da. Ond mae’r mab yn troi’n rebel ac yn gadael y cartref. Mae’n gwneud pethau drwg ac yn mynd i helynt. A fyddech chi’n rhoi’r bai ar y tad am beidio ag atal ei fab rhag gadael? Dim o gwbl! (Luc 15:11-13) Yn debyg i’r tad hwnnw, ni wnaeth Duw atal bodau dynol rhag dewis gwrthryfela a gwneud pethau drwg. Felly pan fydd rhywbeth drwg yn digwydd, dylen ni gofio nad Duw sy’n gyfrifol. Byddai’n annheg i roi’r bai ar Dduw.

9 Mae ’na reswm da nad yw Duw wedi ymyrryd hyd yn hyn i roi terfyn ar bethau drwg. Ym Mhennod 11, byddwch yn dysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am hynny. Ond gallwch fod yn hollol sicr fod Duw yn ein caru ni. Nid arno ef mae’r bai am ein problemau. I’r gwrthwyneb, ef yw’r unig Un sy’n gallu eu datrys.—Eseia 33:2.

10. Pam gallwn ni fod yn hyderus y bydd Duw yn dad-wneud holl effeithiau drygioni?

10 Mae Duw yn sanctaidd. (Eseia 6:3) Mae popeth mae’n ei wneud yn bur, yn lân, ac yn dda. Gallwn ymddiried ynddo. Nid felly y mae bodau dynol, sydd weithiau’n gwneud pethau drwg. Ac nid yw hyd yn oed y llywodraethwyr mwyaf gonest yn ddigon pwerus i gael gwared ar ddrygioni. Nid oes neb mor bwerus â Duw. Mae’r gallu ganddo i ddad-wneud holl effeithiau drygioni, a dyna a wna. Bydd yn rhoi terfyn ar ddrygioni am byth.—Darllenwch Salm 37:9-11.

SUT MAE DUW YN TEIMLO?

11. Sut mae Duw yn teimlo pan fyddwch chi’n dioddef?

11 Sut mae Duw yn teimlo wrth weld beth sy’n digwydd yn y byd a’r pethau rydych chi’n eu dioddef? Mae’r Beibl yn dysgu bod Duw “yn caru beth sy’n gyfiawn.” (Salm 37:28) Felly, mae da a drwg o bwys mawr iddo. Mae’n casáu gweld pobl yn dioddef. Yn y gorffennol, pan welodd Duw’r holl ddrygioni yn y byd, mae’r Beibl yn dweud ei fod “wedi ei frifo.” (Genesis 6:5, 6) Nid yw Duw wedi newid. (Malachi 3:6) Mae’r Beibl yn dweud bod Duw yn gofalu amdanoch chi.—Darllenwch 1 Pedr 5:7.

Mae’r Beibl yn dysgu mai Jehofa yw Creawdwr cariadus y bydysawd

12, 13. (a) Pam rydyn ni’n caru eraill, a sut rydyn ni’n teimlo am y dioddefaint yn y byd? (b) Pam gallwn ni fod yn sicr y bydd Duw yn cael gwared ar yr holl ddioddefaint ac anghyfiawnder?

12 Mae’r Beibl hefyd yn dweud inni gael ein creu ar ddelw Duw. (Genesis 1:26) Mae hyn yn golygu bod Duw wedi rhoi inni’r un priodoleddau sydd ganddo ef ei hun. Felly os ydych chi’n teimlo’n ddrwg wrth weld pobl yn dioddef, mae’n rhaid bod Duw yn teimlo’n gryfach fyth amdani. Sut rydyn ni’n gwybod hynny?

13 Mae’r Beibl yn dweud mai “cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) Cariad sydd y tu ôl i bopeth mae Duw yn ei wneud. Felly rydyn ni’n caru oherwydd bod Duw yn caru. Meddyliwch am hyn: Petai’r pŵer gennych chi, a fyddech chi’n cael gwared ar yr holl ddioddefaint ac anghyfiawnder sydd yn y byd? Rydych chi’n caru pobl, ac felly wrth gwrs y byddech. Beth am Dduw? Mae’r pŵer a’r cariad ganddo, ac felly mae’n sicr o gael gwared ar yr holl ddioddefaint ac anghyfiawnder. Bydd pob un o’r addewidion y mae sôn amdanyn nhw ar ddechrau’r llyfr hwn yn cael eu gwireddu! Ond cyn i chi fedru dibynnu ar yr addewidion hyn, bydd rhaid ichi wybod mwy am Dduw.

MAE DUW EISIAU ICHI EI ADNABOD

Os ydych chi eisiau bod yn ffrind i rywun, byddwch yn dweud eich enw. Mae Duw yn datgelu ei enw yn y Beibl

14. Beth yw enw Duw, a pham dylen ni ei ddefnyddio?

14 Os ydych chi eisiau bod yn ffrind i rywun, fel arfer y peth cyntaf y byddwch yn ei ddweud wrtho yw eich enw. A oes gan Dduw enw? Mae llawer o grefyddau’n dweud mai Duw neu Arglwydd yw ei enw, ond nid enwau yw’r rhain. Teitlau ydyn nhw, fel “brenin” neu “brif weinidog.” Mae Duw wedi dweud wrthon ni mai Jehofa yw ei enw. Yn Salm 83:18, mae’r Beibl Cysegr-lân yn dweud: “Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.” Mae ysgrifenwyr y Beibl wedi defnyddio enw Duw filoedd o weithiau. Mae Jehofa am ichi wybod ei enw a’i ddefnyddio. Y mae’n dweud ei enw wrthych chi er mwyn ichi ddod yn ffrind iddo.

15. Beth yw ystyr enw Jehofa?

15 Enw llawn ystyr yw Jehofa. Mae’n golygu bod Duw yn gallu cadw pob addewid a chyflawni unrhyw fwriad. Nid oes dim a all ei rwystro. Jehofa yn unig sy’n deilwng o’r enw hwn. *

16, 17. Beth yw ystyr y teitlau (a) “Hollalluog”? (b) “Brenin pob oes”? (c) “Creawdwr”?

16 Fel rydyn ni newydd ddarllen, mae Salm 83:18 yn dweud am Jehofa: “Tydi, yr hwn yn unig . . . wyt Oruchaf.” Hefyd, dywed Datguddiad 15:3: “Mae popeth rwyt yn ei wneud mor anhygoel a rhyfeddol Arglwydd Dduw Hollalluog. Mae beth rwyt yn ei wneud yn gyfiawn a theg, Frenin pob oes.” Beth yw ystyr y teitl “Hollalluog”? Mae’n golygu bod Jehofa yn fwy pwerus na neb arall yn y bydysawd. Ac mae’r teitl “Brenin pob oes” yn golygu bod Jehofa wedi bodoli erioed. Mae Salm 90:2 yn dweud ei fod yno o dragwyddoldeb pell. Onid yw hynny’n rhyfeddol!

17 Jehofa yn unig yw’r Creawdwr. Dywed Datguddiad 4:11: “Ein Harglwydd a’n Duw! Rwyt ti’n deilwng o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth. Ti greodd bob peth, ac mae popeth wedi eu creu yn bodoli am mai dyna oeddet ti eisiau.” O’r angylion yn y nef i’r sêr yn y nos, o’r ffrwythau ar y coed i’r pysgod yn y môr, Jehofa a wnaeth y cwbl.

ALLWCH CHI FOD YN FFRIND I JEHOFA?

18. Pam mae rhai pobl yn meddwl na allan nhw fod yn ffrind i Dduw? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am hynny?

18 Pan fydd rhai pobl yn darllen am briodoleddau godidog Jehofa, maen nhw’n ofnus ac yn meddwl, ‘Mae Duw mor bwerus, mor bwysig, ac mor bell, pam byddai’n poeni amdana i?’ Ond ai dyna’r ffordd mae Duw am inni deimlo? Nage, mae Jehofa eisiau bod yn agos aton ni. Mae’r Beibl yn dweud: “Dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni.” (Actau 17:27) Mae Duw eisiau i chi glosio ato, ac y mae’n addo y “bydd e’n closio atoch chi.”—Iago 4:8.

19. (a) Sut gallwch chi ddod yn ffrind i Dduw? (b) Pa un o briodoleddau Jehofa sy’n apelio fwyaf atoch chi?

19 Sut gallwch chi ddod yn ffrind i Dduw? Dywedodd Iesu: “Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi ei anfon.” (Ioan 17:3) Daliwch ati i ddysgu, a byddwch yn dod i adnabod Jehofa a Iesu. Er enghraifft, rydyn ni eisoes wedi dysgu mai “cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:16) Ond mae ganddo lu o briodoleddau hyfryd eraill. Mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn Dduw “caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel.” (Exodus 34:6) Mae Jehofa “yn dda ac yn maddau.” (Salm 86:5) Mae Jehofa yn amyneddgar ac yn ffyddlon. (2 Pedr 3:9; Salm 18:25) Byddwch yn dysgu mwy am ei briodoleddau apelgar wrth ichi ddarllen amdano yn y Beibl.

20-22. (a) Sut gallwn ni fod yn agos at Dduw os na allwn ei weld? (b) Beth ddylech chi ei wneud os bydd pobl eisiau ichi roi’r gorau i astudio’r Beibl?

20 Sut gallwch chi fod yn agos at Dduw os na allwch chi ei weld? (Ioan 1:18; 4:24; 1 Timotheus 1:17) Wrth ichi ddarllen am Jehofa yn y Beibl, byddwch yn dod i’w adnabod yn iawn a gweld ei natur hawddgar. (Salm 27:4; Rhufeiniaid 1:20) Byddwch yn dod i’w garu fwyfwy a theimlo’n nes ato.

Mae tad yn caru ei blant, ond mae ein Tad nefol yn ein caru ni yn fwy byth

21 Fe welwch fod Jehofa yn Dad inni. (Mathew 6:9) Ef a roddodd fywyd inni, ac mae’n awyddus inni gael y bywyd gorau posib. Dyna beth mae pob tad cariadus yn ei ddymuno ar gyfer ei blant. (Salm 36:9) Heb os, mae’r Beibl yn dysgu y gallwch chi fod yn ffrind i Jehofa. (Iago 2:23) Meddyliwch am hynny. Mae Jehofa, Creawdwr y bydysawd, eisiau bod yn ffrind ichi!

22 Efallai bydd rhai pobl eisiau ichi roi’r gorau i astudio’r Beibl, gan boeni y byddwch yn newid eich crefydd. Ond peidiwch â gadael i neb eich rhwystro chi rhag dod yn ffrind i Jehofa. Ef yw’r ffrind gorau y gallwch chi ei gael.

23, 24. (a) Pam dylech chi barhau i ofyn cwestiynau? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn y bennod nesaf?

23 Wrth ichi astudio’r Beibl, fe fydd rhai pethau na fyddwch yn eu deall. Peidiwch â bod yn rhy swil i ofyn cwestiynau neu i ofyn am help. Dywedodd Iesu y dylen ni fod yn ostyngedig, yn debyg i blant bach. Ac mae plant yn gofyn llawer o gwestiynau. (Mathew 18:2-4) Mae Duw eisiau ichi ddod o hyd i’r atebion. Felly astudiwch y Beibl yn ofalus i sicrhau eich bod chi’n dysgu’r gwirionedd.—Darllenwch Actau 17:11.

24 Astudio’r Beibl yw’r ffordd orau i ddysgu am Jehofa. Yn y bennod nesaf, gwelwn sut mae’r Beibl yn wahanol i bob un llyfr arall.

^ Par. 15 Os nad yw’r enw Jehofa i’w weld yn eich Beibl chi, neu os hoffech fwy o wybodaeth am ystyr ac ynganiad enw Duw, trowch at Ôl-nodyn 1.