Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Doeddwn i Ddim Eisiau Marw!

Doeddwn i Ddim Eisiau Marw!
  • GANWYD: 1964

  • GWLAD ENEDIGOL: LLOEGR

  • HANES: MAM IFANC AFREOLUS

FY NGHEFNDIR

Ces i fy ngeni yn Paddington, ardal boblog yn Llundain, Lloegr. O’n i’n byw gyda fy mam a fy nhair chwaer hŷn. Roedd fy nhad yn mynd a dod o’n bywydau oherwydd ei broblemau ag alcohol.

Pan o’n i’n blentyn, gwnaeth Mam fy nysgu i weddïo bob nos. Oedd gen i Feibl bach oedd yn cynnwys dim ond y Salmau, ac o’n i’n gwneud alawon i fyny er mwyn imi allu eu canu. Dw i’n cofio darllen rhywbeth yn un o’n llyfrau eraill wnaeth aros yn fy meddwl: “Ryw ddydd fydd ’na ddim yfory.” Roedd y geiriau hynny’n cadw fi’n effro gyda’r nos yn meddwl am y dyfodol. O’n i’n meddwl i fi fy hun, ‘Mae’n rhaid fod ’na fwy i fywyd. Pam ydw i yma?’ Doeddwn i ddim eisiau marw!

Wnes i ddechrau cymryd diddordeb yn yr ocwlt. Wnes i drio siarad â’r meirw, es i i fynwentydd gyda ffrindiau ysgol, a gwylio ffilmiau arswyd gyda nhw. Oedden ni’n meddwl ei fod yn gyffrous ac yn codi ofn arnon ni, i gyd ar yr un pryd.

Wnes i ddechrau mynd ar gyfeiliorn pan o’n i ond yn ddeg oed. Wnes i ddechrau ysmygu tybaco, ac yn fuan des i’n gaeth iddo. Wedyn, es i ymlaen i ysmygu mariwana. Erbyn imi droi’n 11, o’n i’n arbrofi ag alcohol. Er nad o’n i’n hoffi’r blas, o’n i’n hoffi’r teimlad o fod yn chwil. O’n i hefyd wrth fy modd â cherddoriaeth a dawnsio. O’n i’n mynd i bartïon a chlybiau nos pryd bynnag o’n i’n gallu. O’n i’n arfer sleifio allan gyda’r nos a sleifio’n ôl i mewn jest cyn iddi wawrio. Wedi blino y diwrnod wedyn, o’n i’n aml yn chwarae triwant o’r ysgol. A phan o’n i’n bresennol, o’n i’n aml yn yfed alcohol rhwng gwersi.

Ges i raddau sâl iawn yn fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol. Heb wybod yn iawn pa mor afreolus o’n i, roedd Mam yn flin ac wedi siomi’n llwyr. Wnaethon ni ffraeo, a rhedais i ffwrdd o gartref. Am gyfnod, wnes i aros gyda nghariad, Tony, a oedd yn Rastaffariad. Roedd ei fywyd yn llawn mân droseddau a gwerthu cyffuriau, ac roedd ganddo enw am fod yn dreisgar ofnadwy. Doedd hi ddim yn hir cyn imi feichiogi, a finnau dim ond yn 16 mlwydd oed, rhoddais enedigaeth i’n mab.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

Y tro cyntaf imi gyfarfod Tystion Jehofa, roeddwn i’n byw mewn hostel ar gyfer mamau di-briod a’u babis. Roedd yr awdurdodau lleol wedi rhoi ystafell imi yno. Byddai dwy ddynes, a oedd yn Dystion, yn dod i ymweld â rhai o’r mamau ifanc eraill yn aml. Un diwrnod, ymunais â’u sgwrs. Wnes i fwriadu profi’r Tystion yn anghywir. Ond, wnaethon nhw ateb bob un o nghwestiynau mewn ffordd gyfeillgar ac eglur gan ddefnyddio’r Beibl. Roedden nhw mor garedig ac addfwyn, ac oedd hyn yn apelio’n fawr ata i. Felly wnes i gytuno i astudio’r Beibl gyda nhw fy hun.

Yn fuan, wnes i ddysgu rhywbeth o’r Beibl a newidiodd fy mywyd. Ers imi fod yn blentyn, o’n i wedi poeni am farw. Ond rŵan o’n i wedi darganfod dysgeidiaeth Iesu am yr atgyfodiad! (Ioan 5:28, 29) Hefyd, dysgais fod Duw yn gofalu amdana i’n bersonol. (1 Pedr 5:7) Ges i nghyffwrdd yn enwedig gan eiriau Jeremeia 29:11, sy’n dweud: “‘Fi sy’n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Dw i’n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.’” Wnes i ddechrau credu y gallwn i gael y gobaith o fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear.—Salm 37:29.

Dangosodd Tystion Jehofa gariad go iawn tuag ata i. Pan es i i un o’u cyfarfodydd am y tro cyntaf, roedd yr awyrgylch yn gynnes ac yn groesawus—roedd pawb mor gyfeillgar! (Ioan 13:34, 35) Oedd hynny’n wahanol iawn i’r ffordd ges i fy nhrin mewn eglwys leol. Ges i groeso mawr gan y Tystion er gwaethaf fy amgylchiadau. Wnaethon nhw roi eu hamser, eu gofal, a’u sylw imi, yn ogystal â llawer o help ymarferol. Teimlais fy mod i’n rhan o deulu mawr cariadus.

Wnes i sylweddoli o fy astudiaeth Feiblaidd y byddai rhaid imi wneud newidiadau yn fy mywyd er mwyn cyrraedd safonau moesol uchel Duw. Doedd hi ddim yn hawdd imi stopio ysmygu tybaco. Ar yr un pryd, o’n i’n sylweddoli fod cerddoriaeth benodol yn cynyddu fy awydd i ysmygu mariwana, felly wnes i newid y gerddoriaeth o’n i’n gwrando arni. Am fy mod i eisiau aros yn sobr, wnes i stopio mynd i bartïon a chlybiau nos lle byddwn i’n cael fy nhemtio i feddwi. A wnes i edrych am ffrindiau newydd a fyddai’n dylanwadu’n dda ar fy ffordd newydd o fyw.—Diarhebion 13:20.

Yn y cyfamser, roedd Tony wedi bod yn astudio’r Beibl â Thystion Jehofa hefyd. Wrth i’r Tystion ateb ei gwestiynau o’r Beibl, daeth yn amlwg iddo yntau fod yr hyn roedd ef yn ei ddysgu yn wir. Fe wnaeth newidiadau mawr yn ei fywyd: stopiodd gymdeithasu â’i ffrindiau treisgar, yn ogystal â’i fân droseddu, a rhoddodd y gorau i ysmygu mariwana. Er mwyn plesio Jehofa yn llawn, gwelodd y ddau ohonon ni yr angen i addasu ein ffordd anfoesol o fyw, a chreu awyrgylch sefydlog ar gyfer ein mab. Priodon ni ym 1982.

“Dw i ddim bellach yn gorwedd yn effro gyda’r nos yn poeni am y dyfodol nac am farwolaeth”

Dw i’n cofio chwilio am erthyglau mewn cylchgronau Tŵr Gwylio a Deffrwch! * oedd yn cynnwys straeon pobl eraill oedd wedi llwyddo i wneud yr un newidiadau ag o’n i eisiau eu gwneud. Ges i fy nghalonogi gymaint gan eu hesiamplau! Ces i fy atgyfnerthu i ddal ati a pheidio â rhoi’r gorau iddi. Wnes i barhau i weddïo ar Jehofa iddo beidio â chefnu arna i. Cafodd Tony a minnau ein bedyddio’n Dystion Jehofa ym mis Gorffennaf 1982.

FY MENDITHION

Mae meithrin cyfeillgarwch â Jehofa Dduw wedi achub fy mywyd. Mae Tony a minnau hefyd wedi profi cefnogaeth Jehofa drwy adegau anodd. ’Dyn ni wedi dysgu dibynnu ar Dduw drwy dreialon, a ’dyn ni’n teimlo ei fod wastad wedi helpu ein teulu a’i gynnal.—Salm 55:22.

Dw i wedi cael pleser mawr o helpu ein mab a merch i ddod i nabod Jehofa fel ydw i. Rŵan, dw i’n teimlo’r un un llawenydd wrth weld eu plant nhwthau yn dod i nabod Duw.

Dw i ddim bellach yn gorwedd yn effro gyda’r nos yn poeni am y dyfodol nac am farwolaeth. Mae Tony a minnau yn brysur yn teithio i wahanol gynulleidfaoedd Tystion Jehofa bob wythnos i’w calonogi nhw. ’Dyn ni’n gweithio gyda nhw i ddysgu pobl y gallan nhwthau fyw am byth os ydyn nhw’n dangos ffydd yn Iesu.

^ Par. 19 Cyhoeddir hefyd gan Dystion Jehofa.