MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU
O’n I’n Caru Pêl-fas yn Fwy na Dim Byd Arall!
GANWYD: 1928
GWLAD ENEDIGOL: COSTA RICA
HANES: ROEDD CHWARAEON PROFFESIYNOL A GAMBLO WEDI CYMRYD FY MYWYD DROSODD
FY NGHEFNDIR
Wnes i dyfu lan yn ardal Puerto Limón, porthladd ar arfordir dwyreiniol Costa Rica. Roedd wyth o blant yn y teulu, a minnau oedd y seithfed. Bu farw fy nhad pan o’n i’n wyth mlwydd oed. O hynny ymlaen, gwnaeth fy mam ein magu ni fel rhiant sengl.
Roedd pêl-fas wastad yn rhan o fy mywyd. Roeddwn i’n ei fwynhau ers fy mhlentyndod. Yn fy arddegau hwyr, ymunais â thîm yn y gynghrair amatur. Tra oeddwn i’n chwarae yn y gynghrair amatur yn fy nauddegau, gwnaeth sgowt ofyn imi chwarae i dîm proffesiynol yn Nicaragwa. Ond, ar y pryd, gan fod iechyd gwael gan fy mam ac o’n i’n edrych ar ei hôl hi, do’n i ddim eisiau byw yn Nicaragwa. Felly wnes i wrthod y cynnig. Yn hwyrach ymlaen, ges i wahoddiad gan sgowt arall i chwarae i dîm pêl-fas cenedlaethol Costa Rica, a oedd yn cynnwys chwaraewyr o’r gynghrair amatur. Y tro hwn wnes i dderbyn y cynnig. O’n i ar y tîm cenedlaethol o 1949 tan 1952, a wnes i chwarae mewn cyfres o gemau yng Nghiwba, Mecsico, a Nicaragwa. O’n i’n faswr da, ac mewn un cyfnod o 17 gêm, wnes i chwarae heb wneud yr un gwall. O’n i wrth fy modd yn clywed y dorf yn bloeddio fy enw!
Yn anffodus, o’n i hefyd yn byw bywyd anfoesol. Er mai dim ond un cariad oedd gen i, o’n i’n gweld merched eraill ar yr un pryd. O’n i’n yfed yn drwm hefyd. Un diwrnod oeddwn i wedi meddwi gymaint, pan wnes i ddihuno yn fy ngwely’r diwrnod wedyn, o’n i’n methu cofio sut des i gartref! Roeddwn i’n gamblo hefyd ar gemau domino ac yn chwarae’r loteri.
Tra o’n i’n byw fel ’na daeth fy mam yn un o Dystion Jehofa. Roedd hi’n ceisio fy niddori yn ei ffydd, ond heb lwyddiant ar y cychwyn, oherwydd roedd pêl-fas yn bopeth imi ar y pryd. Os o’n i ar y maes hyfforddi ar amser bwyta, fyddai ’na ddim awydd bwyd arna i! O’n i’n canolbwyntio ar y gêm yn unig. O’n i’n byw a bod ar y cae pêl-fas, ac yn caru’r gêm yn fwy na dim byd arall!
Ond, pan o’n i’n 29, ges i anaf difrifol wrth geisio dal pêl yn ystod gêm. Ar ôl gwella, wnes i roi’r gorau i chwarae’n broffesiynol. Er hynny, roedd pêl-fas yn dal yn rhan bwysig o mywyd, a bues i’n hyfforddi chwaraewyr mewn tîm amatur yn agos i nghartref.
SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD
Ym 1957, wnes i dderbyn gwahoddiad i fynd i gynhadledd Tystion Jehofa mewn stadiwm lle o’n i wedi chwarae pêl-fas. Wrth imi eistedd yn y gynulleidfa, roedd y gwahaniaeth rhwng ymddygiad parchus y Tystion a’r ymddygiad afreolus o’n i wedi gweld ymhlith y tyrfaoedd mewn gemau pêl-fas, yn amlwg iawn imi. Gwnaeth yr hyn welais i yn y gynhadledd honno fy nghymell i ddechrau astudio’r Beibl gyda’r Tystion a mynd i’w cyfarfodydd.
Creodd llawer o’r dysgeidiaethau a ddysgais i o’r Beibl gryn argraff arna i. Er enghraifft, dywedodd Iesu am y dyddiau olaf, y byddai ei ddisgyblion yn pregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw yn fyd-eang. (Mathew 24:14) Dysgais i hefyd nad yw gwir Gristnogion yn cael eu talu am wneud eu gweinidogaeth. Dywedodd Iesu: “Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim.”—Mathew 10:8.
Wrth imi astudio’r Beibl, wnes i gymharu beth mae’n ei ddweud gyda’r hyn o’n i’n ei weld ymhlith Tystion Jehofa. Roeddwn i’n edmygu eu hymdrechion diflino i daenu’r Newyddion Da i bob cornel o’r byd. Gwelais ynddyn nhw’r ysbryd hael a orchmynnodd Iesu iddyn nhw ei ddangos. Felly pan ddarllenais i Marc 10:21 a gweld gwahoddiad Iesu, “Tyrd, dilyn fi,” o’n i eisiau bod yn Dyst.
Ond, mi gymerodd peth amser imi weithredu ar hynny. Er enghraifft, ers blynyddoedd o’n i wedi chwarae fy rhif “lwcus” bob wythnos yn y loteri genedlaethol. Ond, mi ddysgais o’r Beibl fod Duw yn condemnio addolwyr y “duw ‘Ffawd,’” yn ogystal â phobl farus neu drachwantus. (Eseia 65:11; Colosiaid 3:5, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Felly penderfynais roi’r gorau i gamblo. Y Sul cyntaf ar ôl imi stopio chwarae’r loteri, enillodd fy rhif “lwcus”! Gwnaeth pobl hwyl ar fy mhen am fethu chwarae’r wythnos honno, a rhoddon nhw bwysau mawr arna i i chwarae eto, ond wnes i ddim. Es i erioed yn ôl at gamblo.
Wynebais brawf arall ar fy mhersonoliaeth newydd ar yr union ddiwrnod y ces i fy medyddio mewn cynhadledd Tystion Jehofa. (Effesiaid 4:24) Y noson honno, pan es i’n ôl at y gwesty lle o’n i’n aros, pwy oedd yn disgwyl tu allan i fy ystafell ond fy hen gariad. “Dere mlaen, Sammy,” meddai. “Beth am gael hwyl!” Ond atebais yn syth, “Na!” Wnes i ei hatgoffa mod i bellach yn byw yn ôl safonau moesol y Beibl. (1 Corinthiaid 6:18) “Beth?” meddai hi’n syn. Yna, aeth hi ymlaen i fychanu safbwynt y Beibl ar anfoesoldeb rhywiol, a mynnodd ein bod ni’n ailgychwyn ein perthynas. Ond, es i mewn i fy ystafell a chloi’r drws ar fy ôl. Heddiw, dw i’n hapus i ddweud fy mod i wedi glynu’n ffyddlon at y newidiadau a wnes i ers dod yn un o Dystion Jehofa ym 1958.
FY MENDITHION
Dw i’n siŵr y gallwn i ysgrifennu llyfr am yr holl fendithion dw i wedi cael o ddilyn cyngor y Beibl! Mae’r bendithion hynny yn cynnwys llawer o ffrindiau da, bywyd llawn pwrpas, a gwir hapusrwydd.
Dw i’n dal i fwynhau pêl-fas, ond dw i wedi addasu fy agwedd tuag at fywyd. Yn fy ngyrfa pêl-fas wnes i ennill arian a chlod, ond wnaeth y pethau hyn ddim para. Ond, mae fy mherthynas â Duw a’r frawdoliaeth dw i’n rhan ohono yn mynd i bara am byth. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r byd hwn a’i chwantau yn dod i ben, ond mae’r sawl sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth.” (1 Ioan 2:17) Nawr dw i’n caru Jehofa Dduw a’i bobl yn fwy nac unrhyw beth arall!