Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Galla i Gael Ffrindiau Da?

Sut Galla i Gael Ffrindiau Da?

PENNOD 8

Sut Galla i Gael Ffrindiau Da?

“Pan fydda i’n grac, bydda i angen rhannu fy nheimladau. Pan fydda i’n drist, bydda i angen cysur gan rywun. Pan fydda i’n hapus, bydda i’n moyn bod gyda rhywun sy’n hapus gyda mi. I mi, mae ffrindiau’n bwysig iawn.”—Brittany.

O RAN ffrindiau, mae plant bach yn wahanol i bobl ifanc. Ym mha ffordd?

Mae plant bach angen ffrindiau fydd yn chwarae gyda nhw

Mae pobl ifanc angen ffrindiau fydd yn eu helpu a’u cefnogi.

Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.” (Diarhebion 17:17) Mae’n debyg bod hynny yn wahanol i’r math o ffrindiau oedd gen ti pan oeddet ti’n fach.

Ffaith: Wrth iti dyfu, mae angen ffrindiau arnat ti

1. sydd â rhinweddau da

2. sydd â safonau uchel

3. sydd yn ddylanwad da arnat ti

Cwestiwn: Sut gelli di ddod o hyd i ffrindiau o’r fath? Gad inni ystyried y ffactorau hyn fesul un.

Ffactor #1—Rhinweddau Da

Beth ddylet ti ei wybod? Nid yw pawb sy’n honni bod yn ffrind yn ffrind da. Mae’r Beibl yn dweud bod “rhai ffrindiau’n gallu brifo rhywun.” (Diarhebion 18:24) Ydy hynny yn wir? Ystyria: Wyt ti erioed wedi cael “ffrind” a wnaeth gymryd mantais ohonot ti? Neu un sydd wedi siarad tu ôl i dy gefn neu wedi cario clecs amdanat ti? Gall profiad o’r fath wneud iti golli ffydd yn y person hwnnw. a Cofia, mae cael ffrindiau da yn bwysicach na chael llawer o ffrindiau.

Beth elli di ei wneud? Dewisa ffrindiau sydd â rhinweddau y mae’n werth eu hefelychu.

“Mae pawb yn meddwl yn uchel am fy ffrind Fiona. Dw i eisiau i bobl feddwl amdana i yn yr un ffordd. Dw i’n ei pharchu hi ac eisiau bod yn debyg iddi.”Yvette, 17.

Rho gynnig ar hyn.

1. Darllen Galatiaid 5:22, 23.

2. Gofynna i ti dy hun, ‘Ydy fy ffrindiau yn dangos rhinweddau sydd yn rhan o “ffrwyth yr ysbryd”?’

3. Ysgrifenna enwau dy ffrindiau gorau isod. Ar bwys pob enw, ysgrifenna’r rhinwedd sy’n disgrifio’r person orau.

Enw

․․․․․

Rhinwedd

․․․․․

Awgrym: Os wyt ti’n cael trafferth meddwl am unrhyw rinweddau, efallai ei bod yn bryd iti chwilio am ffrindiau gwell!

Ffactor #2—Safonau Uchel

Beth ddylet ti ei wybod? Os wyt ti’n rhy awyddus i gael ffrindiau, mae peryg y byddi di’n dewis y ffrindiau anghywir. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.” (Diarhebion 13:20) Dydy’r gair “ffyliaid” ddim yn cyfeirio at bobl sy’n cael marciau drwg yn yr ysgol neu sydd ddim yn ddeallus iawn. Yn hytrach, mae’n disgrifio pobl sy’n troi eu cefnau ar gyngor da ac yn dewis gwneud pethau drwg. Peth da yw osgoi ffrindiau o’r fath!

Beth elli di ei wneud? Yn lle dewis ffrindiau cyn ystyried eu cymeriad, dylet ti ddewis yn ofalus. (Salm 26:4) Mae’n bwysig dy fod ti’n gallu “gweld y gwahaniaeth rhwng yr un sydd wedi byw’n iawn a’r rhai drwg, rhwng y sawl sy’n gwasanaethu Duw a’r rhai sydd ddim.”—Malachi 3:18.

“Dw i mor falch bod Mam a Dad wedi fy helpu i ddod o hyd i ffrindiau—pobl yr un oedran â mi sy’n byw yn ôl safonau Duw.”Christopher, 13.

Ateba’r cwestiynau canlynol:

Pan fydda i gyda fy ffrindiau, ydw i’n poeni y byddan nhw’n rhoi pwysau arna i i wneud rhywbeth anghywir?

□ Ydw

□ Nac ydw

Ydw i’n dal yn ôl rhag cyflwyno fy ffrindiau i fy rhieni oherwydd mod i’n poeni na fydd fy rhieni yn eu hoffi?

□ Ydw

Nac ydw

Awgrym: Os wyt ti wedi dweud ‘Ydw’ i’r cwestiynau uchod, peth da fyddai edrych am ffrindiau sy’n gwneud eu gorau i blesio Duw.

Ffactor #3​—Yn Ddylanwad Da

Beth ddylet ti ei wybod? Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cwmni drwg yn difetha arferion da.” (1 Corinthiaid 15:33) Mae merch o’r enw Lauren yn dweud: “Roedd fy ffrindiau ysgol yn fy nerbyn, cyn belled â fy mod i’n gwneud yn union beth roedden nhw’n ei ddweud. Roeddwn i’n unig, felly penderfynais ymddwyn fel nhw er mwyn cael fy nerbyn.” Fel dysgodd Lauren, pan wyt ti’n dilyn safonau pobl eraill, rwyt ti’n gadael iddyn nhw dy reoli fel pyped. Rwyt ti’n haeddu mwy na hynny!

Beth elli di ei wneud? Torra gysylltiad gyda’r rhai sy’n ceisio dy orfodi i fyw yn ôl eu safonau nhw. Os wyt ti’n gwneud hyn, efallai byddi di’n colli rhai ffrindiau, ond byddi di’n teimlo’n well amdanat ti dy hun, ac yn cael y cyfle i wneud ffrindiau gwell yn y pen draw, gyda rhai a fydd yn ddylanwad da arnat ti.—Rhufeiniaid 12:2.

“Mae fy ffrind Clint yn gall, ac yn deall sut mae pobl eraill yn teimlo. O ganlyniad, mae wedi bod yn ddylanwad da arna i.”—Jason, 21.

Gofynna’r cwestiynau canlynol i ti dy hun:

Ydw i’n newid y ffordd dw i’n gwisgo a siarad, neu ydw i’n ymddwyn mewn ffordd ddrwg er mwyn plesio fy ffrindiau?

□ Ydw

□ Nac ydw

Ydw i’n mynd i lefydd na ddylwn i fynd iddyn nhw er mwyn plesio fy ffrindiau?

□ Ydw

□ Nac ydw

Awgrym: Os wyt ti wedi dweud ‘Ydw’ i’r cwestiynau uchod, gofynna i dy rieni neu i oedolyn aeddfed arall am gyngor. Os wyt ti’n un o Dystion Jehofa, gelli di hefyd fynd at un o’r henuriaid a gofyn am help i ddewis ffrindiau a fydd yn ddylanwad gwell arnat ti.

[Troednodyn]

a Wrth gwrs, mae pawb yn gwneud camgymeriadau. (Rhufeiniaid 3:23) Felly pan fydd ffrind yn dy frifo ond wedyn yn dangos ei fod yn wirioneddol sori, cofia fod “cariad yn gorchuddio nifer mawr o bechodau.”—1 Pedr 4:8.

ADNOD ALLWEDDOL

“Mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.”​—Diarhebion 18:24.

AWGRYM

Os oes gen ti safonau uchel, byddet ti’n fwy tebygol o ddod ar draws eraill sydd â safonau tebyg. Dyna’r ffrindiau gorau y gelli di eu cael!

OEDDET TI’N GWYBOD . . . ?

Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth, ond mae’n ofalus iawn wrth ddewis y rhai a fydd yn cael ‘aros yn ei babell.’—Salm 15:1-5.

FY NGHYNLLUN I

I ddod o hyd i ffrindiau da, bydda i yn ․․․․․

Pobl hŷn bydda i’n hoffi dod i’w hadnabod yn well ․․․․․

Y pethau rydw i eisiau gofyn i fy rhieni amdanyn nhw ynglŷn â’r pwnc ․․․․․

BETH YW DY FARN DI?

● Pa rinweddau sydd yn bwysig i ti mewn ffrind, a pham?

● Sut gelli di fod yn ffrind gwell?

[Broliant]

Pan ddywedodd fy rhieni wrtho i am gadw draw o un grŵp penodol o ffrindiau, dywedais wrtho i fy hun mai nhw oedd yr unig ffrindiau oeddwn i eisiau. Ond roedd cyngor fy rhieni’n dda, ac unwaith imi weld hyn sylweddolais fod digonedd o ffrindiau gwell i’w cael.—Cole

[Blwch]

Rho Gynnig ar Hyn

Siarada â dy rieni am ffrindiau. Gofynna iddyn nhw pa fath o ffrindiau oedd ganddyn nhw pan oedden nhw’n ifanc. A ydyn nhw’n difaru’r math o ffrindiau oedd ganddyn nhw? Os felly, pam? Gofynna iddyn nhw sut gelli di osgoi rhai o’r problemau a wynebon nhw.

Cyflwyna dy ffrindiau i dy rieni. Os wyt ti’n dal yn ôl rhag gwneud hynny, gofynna i ti dy hun, ‘Pam?’ Oes ’na rywbeth am dy ffrindiau na fydd dy rieni yn ei hoffi? Os felly, efallai bydd yn rhaid i ti fod yn fwy gofalus wrth ddewis ffrindiau.

Bydda’n barod i wrando. Dangosa ddiddordeb yn dy ffrindiau.—Philipiaid 2:4.

Bydda’n barod i faddau. Paid â disgwyl i dy ffrindiau fod yn berffaith. “Rydyn ni i gyd yn baglu lawer o weithiau.”—Iago 3:2.

Paid â mynnu bod gyda dy ffrind drwy’r amser. Bydd ffrindiau go iawn ar gael pan fyddi di eu hangen.—Pregethwr 4:9, 10.

[Llun]

Pan wyt ti’n dilyn safonau pobl eraill er mwyn cael dy dderbyn, rwyt ti’n gadael iddyn nhw dy reoli fel pyped