Neidio i'r cynnwys

SGWRS Â CHYMYDOG

Pryd Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli? (Rhan 2)

Pryd Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli? (Rhan 2)

Dyma esiampl o sgwrs bydd Tystion Jehofa yn cael wrth fynd o dŷ i dŷ. Gadewch inni ddychmygu bod Tyst o’r enw Carwyn wedi galw nôl i gartref dyn o’r enw Siôn.

BREUDDWYD NEBWCHADNESAR—ADOLYGIAD BYR

Carwyn: Mae’n dda i’ch gweld chi eto, Siôn. Dw i wastad yn mwynhau ein sesiynau wythnosol o astudio’r Beibl. * Sut ’dych chi’n cadw?

Siôn: Eitha’ da diolch.

Carwyn: Falch o glywed. Tro diwethaf o’n i yma, cawson ni sgwrs ynglŷn â pam mae Tystion Jehofa yn dweud bod Teyrnas Dduw wedi dechrau rheoli ym 1914. * Fel wnaethon ni drafod, cawn ni hyd i dystiolaeth allweddol mewn proffwydoliaeth ym mhennod 4 Llyfr Daniel. Ydych chi’n cofio beth sydd wedi cael ei ysgrifennu yno?

Siôn: Oedd yn sôn am freuddwyd y Brenin Nebwchadnesar am goeden fawr.

Carwyn: Oedd, yn union. Yn ei freuddwyd, gwelodd Nebwchadnesar goeden enfawr oedd yn ymestyn hyd y nef. Clywodd negesydd oddi wrth Dduw yn gorchymyn i’r goeden gael ei thorri i lawr, ond i’w boncyff a’i gwreiddiau gael eu gadael yn y ddaear. Ar ôl i “saith cyfnod” fynd heibio, byddai’r goeden yn aildyfu. * Wnaethon ni drafod hefyd fod gan y broffwydoliaeth ddau gyflawniad. Ydych chi’n cofio beth oedd y cyflawniad cyntaf?

Siôn: Os dw i’n cofio’n iawn oedd yn rhywbeth a ddigwyddodd i Nebwchadnesar ei hun. Aeth o o’i gof am saith mlynedd.

Carwyn: Yn union. Aeth Nebwchadnesar o’i gof dros dro, felly cafodd ei deyrnasiad ei hatal. Ond yng nghyflawniad ehangach y broffwydoliaeth, byddai teyrnasiad Duw yn cael ei hatal am saith cyfnod. Fel y gwelson ni, dechreuodd y saith cyfnod pan gafodd Jerwsalem ei dinistrio yn 607 COG. O’r adeg hynny ymlaen, doedd ’na ddim brenhinoedd ar y ddaear a oedd yn cynrychioli Jehofa Dduw yn teyrnasu dros ei bobl. Ond ar ddiwedd y saith cyfnod, byddai Duw yn penodi rheolwr newydd dros ei bobl—rhywun yn y nef. Mewn geiriau eraill, byddai diwedd y saith cyfnod yn nodi dechreuad rheolaeth Teyrnas Dduw yn y nef. Nawr, ’dyn ni eisoes wedi trafod pryd dechreuodd y saith cyfnod. Felly, os ’dyn ni’n gallu gweithio ma’s pa mor hir wnaethon nhw bara, yna fyddwn ni’n gwybod pryd dechreuodd Teyrnas Dduw rheoli. ’Dych chi’n fy nilyn i hyd yma?

Siôn: Ydw, mae mynd drosto fo eto wedi procio’r cof.

Carwyn: Gwych. Gadewch inni ddechrau ein trafodaeth, ac yna cawn ni ystyried pa mor hir yw’r saith cyfnod. Dw i newydd orffen darllen ar y pwnc i atgoffa fy hun o’r pwyntiau allweddol. Wna’ i wneud fy ngorau i’w hesbonio nhw.

Siôn: Iawn.

Y SAITH CYFNOD YN DOD I BEN—Y DYDDIAU DIWETHAF YN DECHRAU

Carwyn: Yng nghyflawniad cyntaf y broffwydoliaeth yn ymwneud â Nebwchadnesar, mae’n amlwg roedd y saith cyfnod yn cyfeirio at saith mlynedd lythrennol. Ond yn y cyflawniad ehangach sy’n ymwneud â Theyrnas Dduw, mae’n rhaid bod y saith cyfnod yn hirach na saith mlynedd lythrennol.

Siôn: Pam ’dych chi’n dweud hynny?

Carwyn: Am un peth, cofiwch fod y saith cyfnod wedi dechrau pan gafodd Jerwsalem ei dinistrio yn 607 COG. Os dechreuwn ni gyfri o’r flwyddyn honno, byddai saith mlynedd lythrennol yn mynd â ni at y flwyddyn 600 COG. Ond ddigwyddodd dim byd mawr yn y flwyddyn honno mewn perthynas â theyrnasiad Duw. Ar ben hynny, fel wnaethon ni trafod o’r blaen, ganrifoedd yn ddiweddarach pan oedd Iesu yma ar y ddaear, awgrymodd nad oedd y saith cyfnod wedi dod i ben eto.

Siôn: O ie, dw i’n cofio rŵan.

Carwyn: Felly, yn hytrach na bod yn flynyddoedd llythrennol, mae’n rhaid bod y saith cyfnod yn cyfeirio at gyfnod hirach o amser.

Siôn: Pa mor hir felly?

Carwyn: Mae llyfr Datguddiad, sydd wedi ei gysylltu’n agos â llyfr Daniel, yn ein helpu i weithio allan yn union pa mor hir yw’r saith cyfnod. Mae’n sôn am gyfnod o amser o dri amser a hanner, sy’n cyfateb i 1,260 o ddyddiau. * Felly byddai saith cyfnod neu saith amser—sef dwywaith tri amser a hanner—yn dod i 2,520 o ddyddiau. Ydych chi’n fy nilyn i?

Siôn: Ydw, dw i’n eich dilyn chi. Ond dw i ddim yn gweld sut mae hyn yn dangos bod Teyrnas Dduw wedi dechrau rheoli ym 1914.

Carwyn: Iawn, beth am inni weld os ydyn ni’n gallu gwneud y cysylltiad. Weithiau mewn proffwydoliaeth Feiblaidd bydd diwrnod yn cynrychioli blwyddyn. * Os wnawn ni defnyddio’r rheol o ddiwrnod am flwyddyn, byddai’r saith cyfnod yn dod i 2,520 o flynyddoedd. O gyfri ymlaen o 607 COG, mae 2,520 o flynyddoedd yn dod â ni i’r flwyddyn 1914. Dyna sut ’dyn ni’n gwybod mai 1914 oedd y flwyddyn pan ddaeth y saith cyfnod i ben, sef dechreuad teyrnasiad Iesu fel Brenin Teyrnas Dduw. Ac mae’n bwysig nodi, ers 1914, fod digwyddiadau mawr ar lwyfan y byd wedi digwydd—digwyddiadau proffwydodd y Beibl ar gyfer y dyddiau diwethaf.

Siôn: Pa fath o ddigwyddiadau?

Carwyn: Ystyriwch beth ddywedodd Iesu yma ym Mathew 24:7. Ynglŷn â’r amser y byddai’n dechrau rheoli yn y nef, dywedodd Iesu: “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.” Sylwch fod Iesu wedi proffwydo prinder bwyd a daeargrynfeydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn bendant, mae’r byd wedi gweld llawer o drafferthion tebyg yn y ganrif ddiwethaf, ond yw e?

Siôn: Digon gwir.

Carwyn: Yn yr adnod hon, proffwydodd Iesu hefyd am ryfeloedd yn ystod ei bresenoldeb fel Brenin Teyrnas Dduw. A phroffwydodd llyfr Datguddiad, nid yn unig y byddai ’na ryfeloedd lleol ond rhyfeloedd a fyddai’n effeithio ar y ddaear gyfan yn ystod amser y diwedd. * Ydych chi’n cofio pa bryd dechreuodd y rhyfel byd cyntaf?

Siôn: Roedd hynny ym 1914, yr un flwyddyn ’dych chi’n dweud dechreuodd Iesu reoli! Dw i erioed wedi cysylltu’r ddau beth a’i gilydd o’r blaen.

Carwyn: Pan ’dyn ni’n rhoi’r darnau i gyd at ei gilydd—y broffwydoliaeth am y saith cyfnod yn ogystal â’r proffwydoliaethau eraill yn y Beibl sy’n trafod amser y diwedd—mae’n gwneud synnwyr. Mae Tystion Jehofa yn gwbl sicr fod Iesu wedi dechrau rheoli fel Brenin Teyrnas Dduw ym 1914 a bod y dyddiau diwethaf wedi dechrau yn yr un flwyddyn. *

Siôn: Dw i’n dal i geisio gwneud pen a chynffon o hyn i gyd.

Carwyn: Peidiwch â phoeni. Fel dywedais o’r blaen, cymerodd amser i mi ei ddeall yn llawn. Ond o leiaf dw i’n gobeithio bod ein trafodaeth wedi eich helpu chi i weld, er nad yw’r flwyddyn 1914 yn cael ei sôn amdani’n benodol yn y Beibl, mae Tystion Jehofa yn seilio eu daliadau ynglŷn â’r flwyddyn honno ar yr Ysgrythurau.

Siôn: Ie, dw i wastad wedi edmygu hynny amdanoch chi—waeth beth ’dych chi’n ei ddweud, ’dych chi’n ei gefnogi gydag adnod. Dim jest eich barn chi ydy o. Rhaid i mi gyfaddef, dw i wedi bod yn meddwl: ‘Pam mae hyn mor gymhleth?’ Pam wnaeth Dduw ddim dweud yn blaen yn y Beibl mai 1914 byddai’r flwyddyn y byddai Iesu yn dechrau rheoli yn y nef?

Carwyn: Cwestiwn da, Siôn. A dweud y gwir, mae ’na lawer o bethau sydd ddim yn cael eu hesbonio’n benodol yn y Beibl. Felly pam wnaeth Duw trefnu i’r Beibl cael ei ysgrifennu mewn ffordd fyddai’n gofyn am ymdrech gan bobl i’w ddeall? Wel, mae hynny’n gwestiwn gallwn ni sgwrsio amdano pan alwa i eto rywbryd.

Siôn: Faswn i’n hoffi hynny.

A oes gynnoch chi gwestiwn am un o’r pynciau yn y Beibl? Hoffech chi wybod mwy am daliadau neu arferion Tystion Jehofa? Os felly, croeso ichi ofyn i un o Dystion Jehofa a fydd yn hapus i drafod y cwestiwn gyda chi.

^ Par. 5 Drwy gyfrwng y rhaglen o astudio’r Beibl yn y cartref sy’n rhad ac am ddim, mae Tystion Jehofa yn aml yn cael trafodaethau gydag eraill am y Beibl.

^ Par. 7 Gweler yr erthygl “Sgwrs â Chymydog—Pryd Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli?—Rhan 1” yn rhifyn Hydref 1, 2014, o’r Tŵr Gwylio.

^ Par. 9 Gweler Daniel 4:23-25, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

^ Par. 24 Gweler Numeri 14:34; Eseciel 4:6.

^ Par. 30 Gweler pennod 9 o’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? a gyhoeddir gan Dystion Jehofa. Hefyd ar gael ar www.isa4310.com/cy.