AR Y CLAWR | CELWYDDAU SYʼN GWNEUD HIʼN ANODD CARU DUW
Gall y Gwirionedd Eich Rhyddhau
Un diwrnod yn Jerwsalem, roedd Iesu yn sôn am ei Dad, Jehofa, ac yn dangos nad oedd yr arweinwyr crefyddol yn dweud y gwir. (Ioan 8:12-30) Mae ei eiriau yn ein helpu ni i weld a yw rhai credoau poblogaidd yn wir. Dywedodd Iesu: “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi. Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.”—Ioan 8:31, 32, BCND.
Yn yr adnodau hyn, mae Iesu yn dangos sut gallwn wybod a yw dysgeidiaethau crefyddol yn wir neu beidio. Pan fyddwch chi’n clywed rhyw farn am Dduw, gofynnwch, ‘A yw hyn yn cytuno â geiriau Iesu a gweddill yr Ysgrythurau?’ Byddwch fel y bobl a glywodd yr apostol Paul ac a aeth ati “i chwilio’r ysgrifau sanctaidd yn ofalus i weld a oedd y pethau roedd e’n ddweud yn wir.”—Actau 17:11.
Fe wnaeth Marco, Rosa, a Raymonde, a ddyfynnwyd yn yr erthygl gyntaf yn y gyfres hon, bwyso a mesur eu daliadau drwy astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Beth roedden nhw yn ei ddysgu?
Marco: “Roedd y Tystion yn defnyddio’r Beibl i ateb pob un o’n cwestiynau. Roedd ein cariad tuag at Jehofa yn tyfu ac roedd ein perthynas fel gŵr a gwraig yn gwella.”
Rosa: “Ar y dechrau, roeddwn i’n meddwl mai llyfr athronyddol sy’n ceisio esbonio Duw o safbwynt dynol oedd y Beibl. Ond, yn araf deg, gwelais atebion i fy nghwestiynau yn y Beibl. Nawr dw i’n adnabod Jehofa ac yn gwybod mod i’n gallu ymddiried ynddo.”
Raymonde: “Roeddwn i wedi gweddïo ar Dduw a gofyn iddo am help i ddysgu amdano. Yn fuan wedyn, dechreuodd fy ngŵr â mi astudio’r Beibl. O’r diwedd, dysgon ni’r gwir am Jehofa! Roedden ni wrth ein boddau i wybod y math o Dduw ydyw.”
Mae’r Beibl yn gwneud mwy na datgelu’r celwyddau sy’n cael eu dweud am Dduw; mae’n datgelu’r gwir amdano a’i rinweddau hyfryd. Y mae Duw wedi rhoi ei Air ysbrydoledig, y Beibl, “er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni.” (1 Corinthiaid 2:12) Drwy astudio’r Beibl, fe welwch chi sut mae’n ateb cwestiynau cyffredin am Dduw, am bwrpas bywyd, ac am y dyfodol. Gallwch weld yr atebion i rai o’r cwestiynau hyn drwy fynd i “Dysgeidiaethau’r Beibl > Atebion i Gwestiynau am y Beibl” ar www.isa4310.com/cy. Ar y wefan honno, gallwch hefyd gyflwyno cais am help i astudio’r Beibl neu mae croeso i chi ofyn i un o Dystion Jehofa. Yn sicr bydd astudio’r Beibl yn gwneud i’ch cariad tuag at Dduw dyfu.