Neidio i'r cynnwys

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Beth oedd yn fwy pwysig i ddyn yn yr Alban na’i yrfa lwyddiannus ym myd busnes? Beth helpodd dyn ym Mrasil i roi’r gorau i’w fywyd anfoesol a stopio ysmygu cocên? Sut gwnaeth dyn o Slofenia dorri’n rhydd o oryfed? Darllenwch eu hanesion.

“Roedd Fy Mywyd yn Edrych yn Berffaith.”​—JOHN RICKETTS

GANWYD: 1958

GWLAD ENEDIGOL: YR ALBAN

HANES: DYN BUSNES LLWYDDIANNUS

FY NGHEFNDIR: Ces i ddechrau da ym mywyd. Roedd fy nhad yn swyddog yn y fyddin Brydeinig, felly roedden ni’n symud yn aml. Yn ogystal â’r Alban, wnaethon ni fyw yn Lloegr, yr Almaen, Cenia, Maleisia, Iwerddon, a Cyprus. Pan o’n i’n wyth oed, es i ysgol breswyl yn yr Alban. Ac yn y pen draw wnes i raddio ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Yn 20 oed, dechreuais ar yrfa wyth mlynedd yn y diwydiant olew. Yn gyntaf, dechreuais weithio yn Ne America, yna yn Affrica, ac wedyn yng Ngorllewin Awstralia. Ar ôl symud i Awstralia, sefydlais gwmni buddsoddi, ac yna ei werthu yn y pen draw.

Ar ôl imi werthu fy nghwmni, roedd gen i ddigon o arian i ymddeol yn 40 oed. Defnyddiais fy amser sbâr i deithio. Teithiais o gwmpas Awstralia ddwywaith ar gefn motobeic, ac es i o gwmpas y byd unwaith. Roedd fy mywyd yn edrych yn berffaith.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Hyd yn oed cyn imi ymddeol, roeddwn i eisiau diolch i Dduw am fy mywyd. Felly es i yn ôl i fy ngwreiddiau yn yr Eglwys Anglicanaidd. Ond doedden nhw ddim yn dysgu o’r Beibl. Nesaf, dechreuais astudio gyda’r Mormoniaid, ond doedden nhw ddim yn seilio eu credoau ar y Beibl chwaith, ac roedd hyn yn fy siomi.

Un diwrnod, cnociodd Tystion Jehofa ar fy nrws. Roeddwn i’n gweld yn syth eu bod nhw’n seilio eu credoau ar y Beibl. Un adnod wnaethon nhw ddangos imi oedd 1 Timotheus 2:​3, 4. Yna mae’n dweud bod Duw “am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir.” Roedd gweld y Tystion yn canolbwyntio ar ddysgu’r gwir o’r Beibl, ac nid ar wybodaeth yn unig, yn gwneud argraff fawr arna i.

Mae astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa wedi fy helpu i ddysgu’r gwir. Er enghraifft, dysgais nad ydy Duw ac Iesu yn rhan o ryw Drindod ddirgel; yn hytrach maen nhw’n ddau berson ar wahân. (Ioan 14:28; 1 Corinthiaid 11:3) Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu hynny. Roeddwn i mor flin i wybod fy mod i wedi gwastraffu gymaint o amser yn ceisio deall rhywbeth sy’n amhosib ei ddeall.

Yn fuan wedyn, dechreuais fynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Roedd gweld eu bod nhw’n gyfeillgar a moesol yn gwneud argraff arna i​—ac roedden nhw’n ymddangos yn dduwiol iawn. O weld eu cariad, roeddwn i’n bendant fy mod i wedi dod o hyd i’r gwir grefydd.​—Ioan 13:35.

FY MENDITHION: Ar ôl imi gael fy medyddio, wnes i gwrdd â dynes hyfryd o’r enw Diane. Roedd hi wedi cael ei magu yn un o Dystion Jehofa ac roedd ei rhinweddau da yn ddeniadol iawn imi. Ym mhen amser, wnaethon ni briodi. Mae cyfeillgarwch a chefnogaeth Diane wedi bod yn fendith gan Jehofa.

Roeddwn i a Diane yn awyddus iawn i symud i ardal lle roedd angen am fwy o bobl i bregethu’r newyddion da am y Beibl. Yn 2010, symudon ni i Belîs, yng Nghanolbarth America. Yma rydyn ni’n pregethu i bobl sy’n caru Duw ac eisiau dod i’w adnabod yn well.

Mae’n rhoi heddwch meddwl imi wybod y gwir am Dduw a’i Air, y Beibl. Fel rhywun sy’n gwasanaethu’n llawn amser, rydw i’n profi’r llawenydd sy’n dod o ddysgu eraill am y Beibl. Does dim byd gwell na gweld gwirioneddau’r Beibl yn gwella bywyd rhywun​—yn union fel yn fy achos i. O’r diwedd, rydw i wedi dod o hyd i’r ffordd orau o ddiolch i Dduw am fy mywyd.

“Roedden Nhw’n Garedig Iawn.”—MAURÍCIO ARAÚJO

GANWYD: 1967

GWLAD ENEDIGOL: BRASIL

HANES: BYWYD ANFOESOL

FY NGHEFNDIR: Cefais fy magu yn Avaré, tref fach yn nhalaith São Paulo. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw yno yn dlawd.

Bu farw fy nhad pan oedd fy mam yn feichiog â mi. Yn fachgen ifanc, roeddwn i’n gwisgo dillad fy mam tra bod hi allan. Dechreuais ymddwyn mewn ffordd ferchetaidd ac roedd pobl yn meddwl fy mod i’n hoyw. Ymhen amser, dechreuais gael rhyw gyda bechgyn a dynion eraill.

Erbyn imi gyrraedd fy arddegau hwyr, roeddwn i’n chwilio am bobl i gael rhyw gyda nhw (yn ddynion neu’n ferched) ble bynnag y galla i ddod o hyd iddyn nhw​—mewn barau, clybiau nos, a hyd yn oed eglwysi. Amser y carnifalau, byddwn i’n gwisgo fel dynes ac yn dawnsio mewn paredau samba. Roeddwn i’n boblogaidd iawn.

Ymhlith fy ffrindiau oedd pobl hoyw, puteiniaid, a phobl a oedd yn gaeth i gyffuriau. Roed rhai ohonyn nhw eisiau imi drio cocên ac yn fuan iawn, roeddwn i’n gaeth iddo. Weithiau, bydden ni’n ysmygu drwy’r nos. Ar adegau eraill, bydda i’n cloi fy hun yn fy ystafell a threulio’r diwrnod cyfan yn ysmygu cocên. Collais gymaint o bwysau nes bod pobl yn dechrau dweud bod gen i AIDS.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Tua’r adeg honno, galwodd Tystion Jehofa arna i. Roedden nhw’n garedig iawn. Un o’r adnodau dangoson nhw imi oedd Rhufeiniaid 10:​13 sy’n dweud: “Bydd pwy bynnag sy’n galw ar [enw Jehofa] yn cael ei achub.” Roedd yr adnod honno’n dangos pa mor bwysig yw defnyddio enw Jehofa. Nifer o weithiau, ar ôl ysmygu cocên drwy’r nos, bydda i’n agor y ffenest, yn edrych i’r nefoedd ac yn gweddïo ar Jehofa yn fy nagrau, yn erfyn am ei help.

Gwnaeth gweld fy mam yn poeni amdana i yn cam-drin cyffuriau wneud imi benderfynu stopio eu cymryd. Yn fuan ar ôl hynny, dechreuais astudio’r Beibl gyda’r Tystion. Wnaethon nhw addo imi y bydd yr astudiaeth yn fy helpu i dorri’n rhydd o gyffuriau​—a dyna beth ddigwyddodd!

Wrth imi barhau i astudio’r Beibl, sylweddolais fod angen imi newid fy mywyd. Roedd hi’n hynod o anodd imi droi fy nghefn ar fy mywyd hoyw, gan fod hyn wedi bod yn rhan ohono i ers y dechrau. Un peth wnaeth fy helpu i newid oedd stopio cymdeithasu â fy hen ffrindiau a stopio mynd i farau, a chlybiau nos.

Er nad oedd hi’n hawdd gwneud y newidiadau hyn, roedd yn gysur mawr imi ddysgu bod Jehofa yn gofalu amdana i ac yn deall fy mrwydr. (1 Ioan 3:​19, 20) Erbyn 2002, roeddwn i wedi stopio byw bywyd hoyw, ac yn y flwyddyn honno, cefais fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.

FY MENDITHION: Cafodd y newidiadau yn fy mywyd effaith fawr ar fy mam a dechreuodd hi astudio’r Beibl hefyd. Yn anffodus, mae hi wedi cael strôc ers hynny. Ond, mae ei chariad tuag at Jehofa a gwirioneddau’r Beibl yn dal i dyfu.

Am yr wyth mlynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn pregethu’n llawn amser, yn treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn dysgu eraill am y Beibl. Dw i wedi gorfod brwydro chwantau drwg ar adegau. Ond dw i’n cael nerth a chysur o wybod fy mod i’n gallu plesio Jehofa drwy ddewis peidio â gweithredu ar y teimladau hynny.

Mae datblygu perthynas agos â Jehofa a byw mewn ffordd sy’n ei blesio wedi cryfhau fy hunan-barch. Heddiw, dw i’n ddyn hapus.

Roeddwn i’n “Gasgen Ddiwaelod.”—LUKA ŠUC

GANWYD: 1975

GWLAD ENEDIGOL: SLOFENIA

HANES: GORYFED

FY NGHEFNDIR: Cefais fy ngeni yn Ljubljana, prifddinas Slofenia. Ges i blentyndod hapus nes fy mod i’n bedair oed. Yna, wnaeth fy nhad ladd ei hun. Ar ôl hynny, roedd yn rhaid i fy mam weithio’n galed iawn i ofalu amdana i a fy mrawd hŷn.

Yn 15 oed, symudais i fyw gyda fy nain. Roeddwn i’n mwynhau byw gyda hi oherwydd roedd nifer o fy ffrindiau yn byw yn ei hardal. Hefyd, roedd gen i fwy o ryddid nag oedd gen i adref. Yn 16 oed, dechreuais gymdeithasu â phobl oedd yn yfed alcohol ar y penwythnosau. Tyfais fy ngwallt yn hir, dechreuais wisgo’n flêr, ac ymhen amser dechreuais ysmygu.

Er fy mod i wedi cymryd nifer o gyffuriau gwahanol, yfed alcohol roeddwn i’n ei fwynhau fwyaf. Yn fuan, roeddwn i wedi mynd o yfed ychydig o wydreidiau o win i fwy na photel ar y tro. Roeddwn i’n brofiadol iawn am guddio pa mor feddw oeddwn i. Yn aml, dim ond arogl yr alcohol oedd yn dangos fy mod i wedi bod yn yfed. A hyd yn oed wedyn, doedd gan neb syniad fy mod i wedi yfed sawl litr o win neu gwrw​—a fodca ar ben hynny!

Y rhan fwyaf o’r amser, roeddwn i’n helpu fy ffrindiau i gerdded adref ar ôl noson yn y disgo, er mae’n debyg fy mod i wedi yfed llawer mwy na nhw. Un diwrnod, clywais un o fy ffrindiau yn dweud fy mod i’n gasgen ddiwaelod​—ymadrodd cas yn Slofenia am rywun sy’n gallu yfed llawer mwy nag eraill. Roedd hynny yn fy mrifo i’r byw.

Dechreuais feddwl am beth roeddwn i’n ei wneud â fy mywyd. Cefais fy llethu gan ddigalondid. Roeddwn i’n teimlo fel nad oedd unrhyw bwrpas i fy mywyd.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Tua’r adeg honno, sylwais fod un o fy ffrindiau wedi newid. Roedd yn ddyn llawer mwy meddal. Roeddwn i’n awyddus i wybod mwy, felly aethon ni i gaffi gyda’n gilydd. Wrth inni sgwrsio, dywedodd ei fod wedi dechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Dechreuodd rannu rhai o’r pethau roedd wedi eu dysgu. Roedden nhw’n hollol newydd imi, gan nad oeddwn i erioed wedi cael unrhyw grefydd. Dechreuais fynd i gyfarfodydd y Tystion ac astudio’r Beibl gyda nhw.

Wnes i ddysgu llawer o wirioneddau trawiadol wrth astudio’r Beibl. Er enghraifft, dysgais ein bod ni’n byw mewn adeg mae’r Beibl yn ei galw “y cyfnod olaf.” (2 Timotheus 3:​1-5) Hefyd, dysgais y bydd Duw yn cael gwared ar bobl ddrwg o’r ddaear ac yn rhoi’r cyfle i bobl dda fwynhau bywyd am byth mewn Paradwys. (Salm 37:29) Teimlais yn gryf fy mod i eisiau glanhau fy mywyd er mwyn bod yn un o’r bobl hynny.

Dechreuais sôn wrth fy ffrindiau am yr hyn roeddwn i’n ei ddysgu o’r Beibl. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn chwerthin am fy mhen, ond roedd hyn yn fendith gudd yn y pen draw. Roedd eu hymateb yn dangos imi nad oedden nhw’n ffrindiau go iawn. Sylweddolais fod fy mhroblem yfed wedi’i chysylltu’n agos â fy ffrindiau. Drwy’r wythnos, roedden nhw’n edrych ymlaen at y penwythnos er mwyn iddyn nhw feddwi.

Wnes i dorri cysylltiad â’r ffrindiau hynny a dechrau cymdeithasu â’r Tystion. Roedd eu cwmni yn codi fy nghalon​—roedden nhw’n bobl a oedd yn caru Duw ac yn ceisio byw yn ôl ei safonau. Fesul tipyn, roeddwn i’n gallu rhoi’r gorau i oryfed.

FY MENDITHION: Diolch i Jehofa, dydw i ddim bellach angen alcohol er mwyn teimlo’n hapus. Pwy a ŵyr lle faswn i heddiw petawn i wedi dal ati yn fy hen fywyd. Ond rydw i’n sicr bod fy mywyd yn llawer gwell nawr.

Am y saith mlynedd diwethaf, rydw i wedi cael y fraint o wasanaethu yn swyddfa gangen Tystion Jehofa yn Slofenia. Mae adnabod Jehofa a’i wasanaethu wedi rhoi ystyr go iawn i fy mywyd.