Sut Gall Gweddïo Eich Helpu?
Pan gafodd Pamela salwch difrifol, aeth at feddygon proffesiynol am help. Ond fe weddïodd hefyd ar Dduw am y nerth i ymdopi â’r sefyllfa. A wnaeth gweddïo ei helpu?
“Yn ystod y driniaeth am y canser, roeddwn i’n bryderus iawn yn aml,” meddai Pamela. “Ond ar ôl gweddïo ar Jehofa Dduw, roedd rhyw dawelwch yn dod drosto i, ac roeddwn i’n gallu meddwl yn glir. Dw i’n dal i ddioddef o boen barhaol, ond mae gweddi yn fy helpu i aros yn bositif. Pan fydd pobl yn gofyn i mi sut dw i’n teimlo, bydda’ i’n dweud ‘Dw i ddim yn dda iawn ond dw i mewn hwyliau da!’”
Wrth gwrs, nid oes rhaid disgwyl nes bod ein bywyd yn y fantol cyn gweddïo. Rydyn ni i gyd yn wynebu problemau, yn fach neu’n fawr, ac yn teimlo bod angen help arnon ni. Ydy gweddi yn helpu?
Mae’r Beibl yn dweud: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.” (Salm 55:22) Mae hynny yn gysur mawr inni! Felly, sut gall gweddi eich helpu? Pan weddïwch yn y ffordd iawn, bydd Duw yn rhoi ichi bopeth sydd ei angen i ymdopi â’ch problemau.—Gweler y blwch “ Beth Gall Gweddïo ei Roi i Chi?”