Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

A oedd gan yr Israeliaid rywbeth i fwyta yn yr anialwch heblaw am manna a soflieir?

Tra oedd yr Israeliaid yn yr anialwch am 40 o flynyddoedd, manna oedd eu prif fwyd. (Ex. 16:35) Hefyd, darparodd Jehofa soflieir iddyn nhw ar ddau achlysur. (Ex. 16:​12, 13; Num. 11:31) Ond, roedd ganddyn nhw dipyn o fwydydd eraill i fwyta hefyd.

Er enghraifft, weithiau gwnaeth Jehofa arwain ei bobl “i stopio a gorffwys” mewn lle gyda dŵr i’w yfed a bwyd i’w fwyta. (Num. 10:33) Un o’r llefydd hynny oedd Elim, “lle roedd un deg dwy o ffynhonnau a saith deg o goed palmwydd.” Mae’n debyg, mai palmwydd datys oedd y rhain. (Ex. 15:27) Mae’r llyfr Plants of the Bible yn dweud “bod y palmwydd datys yn tyfu mewn llawer o wahanol lefydd. Mae hefyd yn un o’r prif blanhigion sy’n cael eu defnyddio yn yr anialwch i ddarparu bwyd, olew, a lloches ar gyfer miliynau o bobl.”

Hefyd, efallai bod yr Israeliad wedi stopio yn y sychnant enfawr Feiran. a Mae’r llyfr Discovering the World of the Bible yn dweud bod y sychnant hon, neu ddyffryn afon, yn “81 milltir [130 km] o hyd ac yn un o’r sychnentydd mwyaf hir, prydferth, ac enwog yn Sinai.” Mae’n parhau i ddweud: “Tua 28 milltir [45 km] o geg y sychnant, mae yna ran o dir hyfryd, 3 milltir [4.8 km] o hyd, sy’n llawn coed palmwydd tua 2,000 o droedfeddi [610 m] uwchben y môr. Mae’n lle mor hardd, mae wedi cael ei gymharu â gardd Eden. Am filoedd o flynyddoedd, mae llawer o bobl wedi teithio yno i weld y coed palmwydd.”

Palmwydd datys yn Ferain

Wrth adael yr Aifft, gwnaeth yr Israeliaid gymryd gyda nhw flawd heb furum ynddo, powlenni cymysgu, ac efallai grawn ac olew. Wrth gwrs, ni fyddai’r rhain yn para am yn hir. Gwnaethon nhw hefyd gymryd gyda nhw “lot fawr iawn o anifeiliaid—defaid a geifr a gwartheg.” (Ex. 12:​34-39) Ond oherwydd amgylchiadau anodd yr anialwch, mae’n debyg bod nifer o’r anifeiliaid wedi marw. Efallai bod rhai wedi cael eu bwyta gan yr Israeliaid, ac eraill wedi cael eu hoffrymu i gau dduwiau. b (Act. 7:​39-43) Ond eto, rydyn ni’n gweld bod yr Israeliaid wedi bridio rhai anifeiliaid yn ôl yr hyn a ddywedodd Jehofa am anufudd-dod ei bobl: “Bydd eich plant yn gorfod crwydro [“yn dod yn fugeiliaid,” NWT] yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd.” (Num. 14:33) Felly, mae’n bosib bod eu preiddiau wedi cynhyrchu llaeth a chig ar adegau. Ond yn bendant ni fyddai wedi bod yn ddigon i gynnal tua 3 miliwn o bobl am 40 o flynyddoedd. c

Ble gwnaeth yr anifeiliaid ddod o hyd i fwyd a dŵr? d Bryd hynny, mae’n debyg ei fod wedi glawio fwy yn yr anialwch ac o ganlyniad roedd mwy o blanhigion. Wrth sôn am y cyfnod 3,500 o flynyddoedd yn ôl, mae Insight on the Scriptures, Cyfrol 1 yn datgan bod “mwy o ddŵr yn yr ardal lle roedd yr Israeliaid yn byw o’i gymharu â heddiw. Rydyn ni’n gwybod hyn gan fod yna lawer o ddyffrynnoedd dwfn a sych, a gafodd eu creu gan afonydd a oedd yno o’r blaen.” Er hynny, roedd yr anialwch yn lle mawr peryglus. (Deut. 8:​14-16) Yn sicr, heb y dŵr a roddodd Jehofa yn wyrthiol, byddai’r Israeliaid a’u hanifeiliaid wedi marw.—Ex. 15:​22-25; 17:​1-6; Num. 20:​2, 11.

Dywedodd Moses wrth yr Israeliaid pam rhoddodd Jehofa manna iddyn nhw ei fwyta: “Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy’r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud.”—Deut. 8:3.

a Gweler rhifyn Mai 1, 1992, y Tŵr Gwylio, tt. 24-25.

b Mae’r Beibl yn sôn am ddau achlysur lle cafodd anifeiliaid eu haberthu i Jehofa yn yr anialwch. Yr achlysur cyntaf oedd pan gafodd yr offeiriadaeth ei gosod, a’r ail oedd gŵyl y Pasg. Gwnaeth y ddau achlysur ddigwydd yn 1512COG, yn yr ail flwyddyn ar ôl i’r Israeliaid adael yr Aifft.—Lef. 8:14–9:24; Num. 9:​1-5, NWT.

c Tuag at ddiwedd y 40 mlynedd yn yr anialwch, gwnaeth yr Israeliaid gymryd cannoedd ar filoedd o anifeiliaid fel ysbail. (Num. 31:​32-34) Er hynny, gwnaethon nhw barhau i fwyta manna hyd nes iddyn nhw gyrraedd Gwlad yr Addewid.—Jos. 5:​10-12.

d Does dim sôn am anifeiliaid yn bwyta manna. Yn hytrach, cafodd ei gasglu yn ôl angen pob person.—Ex. 16:​15, 16.