Cwestiynau ein Darllenwyr
Sut gwnaeth yr erthygl “Sancteiddier Dy Enw” yn Tŵr Gwylio Mehefin 2020 wella ein dealltwriaeth ynglŷn ag enw Jehofa a’i sofraniaeth?
Dysgon ni yn yr erthygl honno mai dim ond un mater pwysig sy’n effeithio ar y ddynoliaeth a’r angylion, sef sancteiddio enw mawr Jehofa. Un rhan o’r mater pwysig hwnnw yw sofraniaeth, hynny yw, ffordd Jehofa o reoli yw’r ffordd orau. Yn yr un modd, mae’r cwestiwn o ffyddlondeb pobl i Jehofa yn rhan arall o’r mater pwysig hwnnw.
Pam rydyn ni nawr yn pwysleisio mai sancteiddio enw Jehofa yw’r mater pwysicaf? Gad inni ystyried tri rheswm.
Yn gyntaf, ymosododd Satan ar enw Jehofa, a’i enw da, yng ngardd Eden. Roedd cwestiwn slei Satan i Efa yn awgrymu nad oedd Jehofa yn Dduw hael ac yn awgrymu bod Ei reolau yn annheg. Yna, gwnaeth Satan wrth-ddweud geiriau Jehofa. Yn y bôn, roedd yn cyhuddo Duw o ddweud celwydd. Felly gwnaeth bardduo enw Jehofa. Cafodd Satan yr enw “y Diafol,” sy’n golygu “enllibiwr.” (Ioan 8:44) Gwnaeth Efa gredu celwyddau Satan. Oherwydd hynny, gwnaeth hi anufuddhau i Dduw a gwrthryfela yn erbyn ei sofraniaeth. (Gen. 3:1-6) Dydy Satan ddim wedi stopio enllibio enw Duw na dweud celwyddau am gymeriad Jehofa. Mae’r rhai sy’n credu’r celwyddau hynny yn fwy tebygol o fod yn anufudd i Jehofa. Felly, i bobl Dduw, yr enllib yn erbyn enw Jehofa yw’r anghyfiawnder gwaethaf posib. Hyn sy’n gyfrifol am yr holl ddioddefaint a drygioni yn y byd.
Yn ail, er lles y greadigaeth i gyd, mae Jehofa yn benderfynol o glirio ei enw o unrhyw warth. Mae hynny’n hynod o bwysig i Jehofa. Felly mae’n dweud: “Amlygaf sancteiddrwydd fy enw mawr.” (Esec. 36:23, BCND) A dangosodd Iesu beth ydy’r peth pwysicaf y dylen ni weddïo amdano pan ddywedodd: “Gad i dy enw gael ei sancteiddio.” (Math. 6:9) Dro ar ôl tro, mae’r Beibl yn pwysleisio’r pwysigrwydd o ogoneddu enw Jehofa. Ystyria rai esiamplau: “Rhowch i’r ARGLWYDD anrhydedd ei enw.” (1 Cron. 16:29, BCND; Salm 96:8, BCND) “Canwch i ogoniant ei enw.” (Salm 66:2, BCND) “Bydda i’n . . . anrhydeddu dy enw am byth.” (Salm 86:12) Ar ôl i Iesu ddweud yn y deml yn Jerwsalem, “Dad, gogonedda dy enw,” atebodd Jehofa ei hun o’r nefoedd, “Rydw i wedi ei ogoneddu ac fe fydda i’n ei ogoneddu eto.”—Ioan 12:28. a
Yn drydydd, bydd pwrpas Jehofa yn wastad yn gysylltiedig â’i enw. Ystyria beth fydd yn digwydd ar ôl y prawf olaf sy’n dilyn Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist. Sut bydd pawb yn teimlo am enw Jehofa bryd hynny? Er mwyn ateb y cwestiwn, gad inni ystyried dau beth—ffyddlondeb pobl a hawl Jehofa i
reoli. A fydd angen i’r rhai ffyddlon ddal ati i brofi eu ffyddlondeb? Na fydd. Byddan nhw’n berffaith ac wedi cael eu profi’n llawn. Byddan nhw wedi derbyn bywyd tragwyddol. A fydd y ddadl o sofraniaeth yn dal i gael ei drafod? Na fydd. Bryd hynny, bydd pawb yn y nefoedd ac ar y ddaear yn unedig ac yn derbyn Jehofa fel eu rheolwr. Ond, a fydd enw Jehofa yn dal yn bwysig i’w bobl?Erbyn hynny, bydd pawb yn gwybod y gwir am Jehofa a bydd ei enw wedi cael ei sancteiddio’n llwyr. Ond, bydd ei enw yn parhau i fod y peth pwysicaf i’w weision. Pam? Oherwydd byddan nhw’n gweld Jehofa yn gwneud pethau rhyfeddol. Ystyria: Pan fydd Iesu yn trosglwyddo rheolaeth yn ôl i Jehofa, bydd Duw “yn bob peth i bawb.” (1 Cor. 15:28) Ar ôl hynny, bydd y rhai ar y ddaear yn mwynhau’r “rhyddid gogoneddus sy’n perthyn i blant Duw.” (Rhuf. 8:21) A bydd Jehofa yn cyflawni ei bwrpas unwaith ac am byth i uno ei deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear.—Eff. 1:10.
Ar ôl i’r pethau hyn ddigwydd, sut bydd teulu Jehofa yn y nefoedd ac ar y ddaear yn teimlo? Mae’n mynd heb ddweud, byddwn ni i gyd ag awydd cryf i glodfori enw hyfryd Jehofa. Cafodd y salmydd Dafydd ei ysbrydoli i ysgrifennu: “Bendith ar yr ARGLWYDD Dduw! . . . Bendigedig fyddo’i enw gwych am byth.” (Salm 72:18, 19) Am byth bythoedd, byddwn ni’n dod o hyd i ffyrdd newydd a chyffrous o wneud hynny.
Wedi’r cwbl, mae enw Jehofa yn ei gynrychioli i’r dim. Yn bennaf, mae ei enw yn ein hatgoffa ni o’i gariad. (1 Ioan 4:8) Wnawn ni byth anghofio’r cariad mae Jehofa wedi ei ddangos inni drwy’r ffordd mae wedi ein creu ni, y ffaith ei fod wedi rhoi’r pridwerth inni, a’r ffordd gyfiawn mae’n rheoli. Ond byddwn ni’n parhau i deimlo cariad Jehofa ac yn cael ein cymell i agosáu at ein Tad nefol ac i foli ei enw gogoneddus am byth.—Salm 73:28.
a Mae’r Beibl hefyd yn dangos bod Jehofa yn gweithredu “er mwyn ei enw.” Er enghraifft, mae’n arwain ei bobl, yn eu helpu, yn eu hachub, yn eu maddau, ac yn eu gwaredu, ac yn gwneud yr holl bethau yma er mwyn ei enw mawr.—Salm 23:3, BCND; 31:3, BCND; 79:9; 106:8; 143:11.