Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 38

CÂN 25 Dy Eiddo Arbennig

A Wyt Ti’n Gwrando ar y Rhybuddion?

A Wyt Ti’n Gwrando ar y Rhybuddion?

“Bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei adael ar ôl.”MATH. 24:40.

PWRPAS

Byddwn ni’n trafod tri o ddamhegion Iesu a gweld sut maen nhw’n berthnasol i’r amser o farnu a fydd yn digwydd ar ddiwedd y system hon.

1. Pa farnedigaeth fydd yn digwydd yn fuan?

 RYDYN ni’n byw mewn adeg pan fydd ’na lawer o newidiadau mawr! Yn fuan, bydd Iesu’n barnu pawb sy’n byw ar y ddaear. Disgrifiodd Iesu’r amser a fyddai’n arwain at y farnedigaeth drwy roi “arwydd” proffwydol o’i bresenoldeb ac o “gyfnod olaf y system hon.” (Math. 24:3) Mae’r broffwydoliaeth yn cael ei chofnodi ym Mathew penodau 24 a 25, Marc pennod 13, a Luc pennod 21.

2. Ar beth y dylen ni roi ein sylw, a pham bydd hyn yn ein helpu ni?

2 Defnyddiodd Iesu dair dameg i’n helpu ni i fod yn barod, ac rydyn ni’n eu hystyried nhw yn rhybuddion inni. Y tair dameg yw’r defaid a’r geifr, y deg gwyryf, a’r talentau. Mae’r tair dameg yn dangos inni sut mae ein hymddygiad yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni’n cael ein barnu. Wrth inni edrych ar y damhegion, gad inni edrych am y gwersi a sut rydyn ni’n gallu eu rhoi nhw ar waith. Yn gyntaf, fe wnawn ni ystyried dameg y defaid a’r geifr.

Y DEFAID A’R GEIFR

3. Pryd bydd Iesu’n barnu pobl?

3 Yn y ddameg am y defaid a’r geifr, disgrifiodd Iesu sut bydd ef yn barnu’r rhai sydd wedi cael y cyfle i ymateb i’r newyddion da a chefnogi ei frodyr eneiniog. (Math. 25:​31-46) Yn fuan cyn Armagedon, bydd ef yn barnu yn ystod y “trychineb mawr.” (Math. 24:21) Fel mae bugail yn gwahanu defaid oddi wrth eifr, bydd Iesu’n gwahanu’r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth i’r eneiniog oddi wrth y rhai sydd ddim.

4. Yn ôl Eseia 11:​3, 4, pam gallwn ni fod yn siŵr y bydd Iesu’n barnu’n deg? (Gweler hefyd y llun.)

4 Mae’r Beibl yn dweud bydd Iesu’n barnu ar ran Jehofa, a bydd yn wastad yn barnu’n deg. (Darllen Eseia 11:​3, 4.) Bydd Iesu’n edrych ar agwedd pobl, eu hymddygiad, a beth maen nhw’n ei ddweud—gan gynnwys sut maen nhw’n trin ei frodyr eneiniog. (Math. 12:​36, 37; 25:40) Bydd yn gwybod pwy oedd wedi cefnogi ei frodyr eneiniog a’u gwaith. a Bydd y rhai sy’n eu cefnogi, drwy wneud ein prif waith o bregethu, yn cael eu barnu’n “rhai cyfiawn” ac yn cael y cyfle i fyw am byth ar y ddaear. (Math. 25:46; Dat. 7:​16, 17) Am wobr arbennig ar gyfer y rhai sy’n cadw eu ffyddlondeb! Drwy aros yn ffyddlon yn ystod y trychineb mawr ac ar ôl hynny, bydd y rhai hyn yn cadw eu henwau yn “llyfr y bywyd.”—Dat. 20:15.

Yn y dyfodol agos, bydd Iesu’n barnu unigolion yn ddefaid neu’n eifr ar sail beth maen nhw wedi ei wneud (Gweler paragraff 4)


5. Beth yw’r wers yn nameg y defaid a’r geifr, a phwy y dylai roi sylw iddo?

5 Bydda’n ffyddlon. Mae dameg Iesu am y defaid a’r geifr yn ffocysu ar y rhai sydd â gobaith daearol. Maen nhw’n dangos eu ffydd drwy gymryd rhan yn y gwaith pregethu a hefyd drwy ddilyn arweiniad y gwas ffyddlon a chall y mae Iesu wedi ei ddewis. (Math. 24:45) Mae’n rhaid i’r eneiniog hefyd gadw’r rhybudd hwn mewn cof. Pam? Oherwydd bod Iesu’n sylwi ar eu hymddygiad, eu hagwedd, a’r ffordd maen nhw’n siarad. Mae’n rhaid iddyn nhwthau hefyd aros yn ffyddlon. Gwnaeth Iesu ddefnyddio dwy ddameg arall sy’n cynnwys rhybuddion penodol ar gyfer yr eneiniog. Rydyn ni’n cael hyd iddyn nhw ym Mathew pennod 25. Nesaf, gwnawn ni edrych ar ddameg y deg gwyryf.

Y DEG GWYRYF

6. Ym mha ffordd dangosodd pump o’r gwyryfon eu bod nhw’n gall? (Mathew 25:​6-10)

6 Yn y ddameg hon, fe wnaeth Iesu sôn am ddeg gwyryf a aeth allan i gyfarfod priodfab. (Math. 25:​1-4) Roedden nhw i gyd yn gobeithio mynd i’w wledd briodas. Dywedodd Iesu fod pump ohonyn nhw’n “gall” a phump yn “ffôl.” Roedd y rhai call wedi paratoi’n dda ac yn barod i ddisgwyl am y priodfab nes iddo gyrraedd, hyd yn oed petasai’n hwyr yn y nos. Felly, daethon nhw â lampau olew i oleuo’r tywyllwch ac olew ychwanegol i gadw’r lampau’n llosgi, rhag ofn i’r priodfab fod yn hwyr. (Darllen Mathew 25:​6-10.) Pan gyrhaeddodd y priodfab, gwnaeth y pum gwyryf gall fynd i mewn i’r wledd briodas gydag ef. Yn yr un modd, bydd y rhai eneiniog sy’n aros yn ffyddlon ac yn barod nes i Iesu ddod yn cael y wobr o fynd gydag ef i’r Deyrnas nefol. b (Dat. 7:​1-3) Beth am y pum gwyryf ffôl?

7. Beth a ddigwyddodd i’r pum gwyryf ffôl, a pham?

7 Yn wahanol i’r pum gwyryf gall, doedd y pum gwyryf ffôl ddim yn barod pan gyrhaeddodd y priodfab. Doedden nhw ddim wedi dod ag olew ychwanegol gyda nhw a phan ddysgon nhw fod y priodfab ar fin cyrraedd, roedd eu lampau ar fin diffodd. Felly, roedd rhaid iddyn nhw fynd i brynu mwy o olew. Doedden nhw ddim wedi dod yn ôl cyn i’r priodfab gyrraedd. Bryd hynny, “aeth y gwyryfon a oedd yn barod i mewn gydag ef i’r wledd briodas, ac fe gafodd y drws ei gau.” (Math. 25:10) Pan oedd y pum gwyryf ffôl eisiau ymuno yn nes ymlaen, dywedodd y priodfab wrthyn nhw: “Dydw i ddim yn eich adnabod chi.” (Math. 25:​11, 12) Doedden nhw ddim wedi paratoi i aros yn ddigon hir am y priodfab. Beth ydy’r wers i’r rhai eneiniog?

8-9. Pa wers gall yr eneiniog ei dysgu o ddameg y deg gwyryf? (Gweler hefyd y llun.)

8 Bydda’n barod. Doedd Iesu ddim yn rhagfynegi y byddai ’na ddau grŵp o’r eneiniog—un yn barod i aros hyd ddiwedd y system hon a’r llall ddim. Roedd ond yn esbonio y byddai’r eneiniog yn colli eu gwobr petasen nhw ddim yn paratoi i ddyfalbarhau’n ffyddlon hyd y diwedd. (Ioan 14:​3, 4) Beth bynnag ydy ein gobaith—yn ddaearol neu’n nefol—mae’n rhaid i bob un ohonon ni gymryd hyn o ddifri. Mae angen inni fod yn wyliadwrus a pharatoi i ddyfalbarhau hyd y diwedd.—Math. 24:13.

9 Ar ôl defnyddio dameg y deg gwyryf i bwysleisio’r angen i fod yn barod, defnyddiodd Iesu ddameg arall i esbonio’r angen i fod yn weithgar—dameg y talentau.

Dylai pob un ohonon ni gymryd y rhybudd yn nameg y deg gwyryf o ddifri drwy baratoi’n dda a thrwy fod yn barod i ddyfalbarhau hyd y diwedd (Gweler paragraffau 8-9)


Y TALENTAU

10. Sut dangosodd dau was eu bod nhw’n ffyddlon? (Mathew 25:​19-23)

10 Yn nameg y talentau, fe wnaeth Iesu sôn am ddau was a oedd yn ffyddlon i’w meistr ac un doedd ddim yn ffyddlon. (Math. 25:​14-18) Cyn i’r meistr fynd tramor, fe roddodd talentau—swm mawr o arian—i’w weision. Gweithiodd y ddau ffyddlon yn galed iawn a gwnaethon nhw ddefnydd doeth o’r arian. O ganlyniad i hynny, pan ddaeth y meistr yn ôl, roedden nhw wedi dyblu’r arian. Yna, gwnaeth eu meistr eu canmol nhw a’u gwahodd nhw i lawenhau gydag ef. (Darllen Mathew 25:​19-23.) Ond beth ddigwyddodd i arian y trydydd gwas?

11. Beth a ddigwyddodd i’r gwas “diog,” a pham?

11 Derbyniodd y trydydd gwas un dalent, ond roedd ef yn “ddiog.” Roedd ei feistr yn disgwyl iddo wneud defnydd doeth o’r arian. Ond, claddodd y gwas y dalent yn y ddaear. Felly, doedd ganddo ddim byd mwy i’w roi i’w feistr pan ddaeth yn ôl. Ar ben hynny, roedd gan y gwas agwedd ddrwg. Yn hytrach nag ymddiheuro am beidio â gwneud elw, fe gyhuddodd y meistr o fod yn “ddyn caled.” Felly, yn lle cael canmoliaeth, cafodd y dalent ei chymryd oddi arno a chafodd y gwas ei daflu allan o dŷ ei feistr.—Math. 25:​24, 26-30.

12. Pwy sy’n debyg i’r ddau was ffyddlon heddiw?

12 Mae’r ddau was ffyddlon yn cynrychioli Cristnogion eneiniog ffyddlon. Mae eu Meistr, Iesu, yn eu gwahodd nhw i lawenhau gydag ef, ac maen nhw’n derbyn eu gwobr, yr atgyfodiad cyntaf. (Math. 25:​21, 23; Dat. 20:5b) Ar y llaw arall, mae esiampl ddrwg y gwas diog yn rhoi rhybudd i’r eneiniog. Sut?

13-14. Pa wers gall yr eneiniog ei dysgu o ddameg y talentau? (Gweler hefyd y llun.)

13 Bydda’n weithgar. Fel yn achos dameg y deg gwyryf, doedd Iesu ddim yn defnyddio dameg y talentau i ddweud y byddai’r eneiniog yn ddiog. Yn hytrach, roedd ond yn esbonio beth fyddai’n digwydd petasen nhw’n colli eu sêl. Bydden nhw’n colli’r ‘fraint o gael eu galw a’u dewis’ a fydden nhw ddim yn cael mynd i mewn i’r Deyrnas nefol.—2 Pedr 1:10.

14 Mae damhegion Iesu am y deg gwyryf a’r talentau yn esbonio’n glir bod rhaid i bob Cristion eneiniog fod yn barod ac yn weithgar. Ond, a wnaeth Iesu ddweud unrhyw beth arall i rybuddio’r eneiniog? Do! Gallwn ni weld y rhybudd hwn ym Mathew 24:​40, 41.

Mae Iesu eisiau i’r eneiniog fod yn weithgar (Gweler paragraffau 13-14) d


PWY FYDD YN CAEL EI “GYMRYD I FFWRDD”?

15-16. Sut mae Mathew 24:​40, 41 yn cymell yr eneiniog i fod yn wyliadwrus?

15 Cyn adrodd y tair dameg, disgrifiodd Iesu y byddai’r eneiniog yn cael eu barnu er mwyn cadarnhau pwy sydd wedi cael eu cymeradwyo. Fe wnaeth sôn am ddau ddyn mewn cae. Roedd yn ymddangos bod y ddau yn gwneud yr un gwaith, ond dywedodd Iesu y byddai “un yn cael ei gymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei adael ar ôl.” Dywedodd yr un peth am ddwy ddynes a oedd yn gweithio â melin law. (Darllen Mathew 24:​40, 41.) Yna, dywedodd wrth ei ddilynwyr: “Daliwch ati i fod yn wyliadwrus, felly, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pa ddydd y bydd eich Arglwydd yn dod.” (Math. 24:42) Dywedodd Iesu rywbeth tebyg ar ôl adrodd dameg y deg gwyryf. (Math. 25:13) Oes ’na gysylltiad rhwng y sylwadau hyn? Mae’n edrych felly. Dim ond y rhai sy’n wir wedi cael ei eneinio ac sy’n aros yn ffyddlon fydd yn cael eu ‘cymryd i ffwrdd’ gan Iesu i’r Deyrnas nefol.—Ioan 14:3.

16 Bydda’n wyliadwrus. Ni fydd unrhyw un o’r eneiniog sydd ddim yn cadw’n effro’n ysbrydol yn cael eu casglu gyda’r “rhai sydd wedi cael eu dewis.” (Math. 24:31) Felly, mae’n rhaid i bobl Dduw, ni waeth beth ydy eu gobaith, ystyried geiriau Iesu yn rhybudd i fod yn wyliadwrus ac i aros yn ffyddlon.

17. Pam na ddylen ni boeni am ba bryd mae Jehofa’n eneinio unigolion â’i ysbryd glân?

17 Rydyn ni’n adnabod Jehofa yn dda, ac yn trystio ei fod yn deg ym mhopeth y mae’n ei wneud. Felly, os ydy Jehofa wedi penderfynu eneinio pobl ffyddlon eraill yn y blynyddoedd diwethaf hyn, dydyn ni ddim yn ei gwestiynu. c Cofia beth ddywedodd Iesu am y rhai a wnaeth ddechrau gweithio yn y winllan ar yr unfed awr ar ddeg. (Math. 20:​1-16) Derbynion nhw union yr un wobr â’r rhai a ddechreuodd yn gynharach. Mewn ffordd debyg, ni waeth pryd cafodd yr eneiniog eu dewis, byddan nhw’n derbyn eu gwobr yn y nef os ydyn nhw’n aros yn ffyddlon.

GWRANDA AR Y RHYBUDDION

18-19. Pa wersi rydyn ni wedi eu trafod?

18 Beth rydyn ni wedi ei ystyried? I’r rhai sydd â’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear, mae dameg y defaid a’r geifr yn pwysleisio’r angen i aros yn ffyddlon i Jehofa—nawr ac yn ystod y trychineb mawr. Pryd hynny, bydd Iesu’n barnu bod y rhai ffyddlon yn haeddu “derbyn bywyd tragwyddol.”—Math. 25:46.

19 Gwnaethon ni hefyd edrych ar y ddwy ddameg sy’n rhoi rhybudd i’r eneiniog. Yn nameg Iesu am y deg gwyryf, roedd pump ohonyn nhw’n gall ac wedi paratoi i aros am y priodfab nes iddo gyrraedd. Ond doedd y pump arall ddim wedi paratoi, felly, gwnaeth y priodfab wrthod eu gadael nhw i mewn i’w wledd briodas. Mae’n rhaid i ninnau hefyd fod yn barod nes i Iesu ddod â diwedd ar y system hon. Nesaf, yn nameg Iesu am y talentau, gwnaethon ni drafod dau was ffyddlon a oedd yn weithgar. Gweithion nhw’n galed ar ran eu meistr ac enillon nhw ei gymeradwyaeth. Ond, cafodd y gwas diog ei wrthod. Beth ydy’r wers i ni? Mae’n rhaid inni aros yn brysur yng ngwasanaeth Jehofa hyd y diwedd. Yn olaf, gwnaethon ni drafod bod rhaid i’r eneiniog aros yn wyliadwrus er mwyn cael eu ‘cymryd i ffwrdd’ i’w gwobr nefol gan Iesu. Maen nhw’n wir yn edrych ymlaen at gael eu ‘casglu at ei gilydd’ at Iesu yn y nef. Ar ôl rhyfel Armagedon byddan nhw’n rhan o briodferch Iesu ym mhriodas yr Oen.—2 Thes. 2:1; Dat. 19:9.

20. Sut bydd Jehofa’n gwobrwyo’r rhai sy’n gwrando ar ei rybuddion?

20 Er bod yr amser i farnu ar fin cyrraedd, does dim rhaid inni ofni. Os ydyn ni’n aros yn ffyddlon, bydd ein Tad nefol cariadus yn rhoi inni’r “grym sydd y tu hwnt i’r arferol” er mwyn inni “lwyddo . . . i sefyll o flaen Mab y dyn.” (2 Cor. 4:7; Luc 21:36) Ni waeth os ydy ein gobaith yn y nef neu ar y ddaear, gallwn ni blesio ein Tad os ydyn ni’n gwrando ar y rhybuddion yn namhegion Iesu. Trwy garedigrwydd Jehofa, bydd ein henwau yn cael ‘eu hysgrifennu yn llyfr’ y bywyd.—Dan. 12:1; Dat. 3:5.

CÂN 26 I Mi y Gwnaethoch

a Gweler yr erthygl “Beth Rydyn Ni’n Ei Wybod am Farnedigaethau Jehofa yn y Dyfodol?” yn rhifyn Mai 2024 o’r Tŵr Gwylio.

b Am fwy o wybodaeth, gweler yr erthygl “Will You ‘Keep on the Watch’?” yn rhifyn Mawrth 15, 2015, o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer eneiniog yn astudio’r Beibl â dynes ifanc mae hi wedi ei chyfarfod yn y weinidogaeth.