Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Rwyf Wedi Elwa ar Gwmni Pobl Ddoeth

Rwyf Wedi Elwa ar Gwmni Pobl Ddoeth

ROEDD yr oerni heb gilio ar fore clir yn Brookings, South Dakota, UDA. Yn fuan iawn, fe fyddai’r tywydd rhewllyd yn dal ei afael ar yr ardal gyfan. Ond y diwrnod hwnnw, roeddwn i’n rhan o grŵp bach o bobl a oedd yn rhynnu mewn ysgubor. O’n blaenau roedd cafn o ddŵr oer! Gad imi ddweud ychydig o fy hanes er mwyn iti ddeall pam.

BLYNYDDOEDD CYNNAR Y TEULU

Fy ewythr Alfred a fy nhad

Cefais fy ngeni ar 7 Mawrth 1936, y lleiaf o bedwar o blant. Roedden ni’n byw ar fferm fach yn nwyrain South Dakota. Roedd ffermio yn rhan bwysig o’n bywyd, ond nid y rhan bwysicaf. Cafodd fy rhieni eu bedyddio’n Dystion Jehofa ym 1934. Roedden nhw wedi eu hymgysegru i’n Tad nefol Jehofa, felly gwneud ei ewyllys ef oedd y peth pwysicaf. Yn ein cynulleidfa fach yn Conde, South Dakota, fy nhad Clarence ac yna fy ewythr Alfred oedd y company servant (a elwir heddiw yn gydlynydd corff yr henuriaid).

Roedd mynychu’r cyfarfodydd a mynd o dŷ i dŷ i sôn wrth eraill am y dyfodol disglair mae’r Beibl yn ei addo yn rhan bwysig o’n bywyd teuluol. Cafodd esiampl a hyfforddiant fy rhieni ddylanwad da arnon ni. Yn chwe blwydd oed, daeth fy chwaer Dorothy a minnau’n gyhoeddwyr y Deyrnas. Ym 1943, ymunais ag Ysgol y Weinidogaeth a oedd newydd gychwyn ar y pryd.

Arloesi ym 1952

Roedd gan y cynadleddau a’r cynulliadau le pwysig yn ein bywydau. Y Brawd Grant Suiter oedd y siaradwr gwadd mewn cynhadledd yn Sioux Falls, South Dakota, ym 1949. Rwy’n dal i gofio ei anerchiad “Y Mae’n Hwyrach Nag yr Ydych Chi’n ei Feddwl.” Eglurodd fod yn rhaid i bob Cristion ddefnyddio ei fywyd i gyhoeddi’r newyddion da fod Teyrnas Dduw wedi ei sefydlu. Penderfynais fy mod i eisiau ymgysegru i Jehofa. A dyna pam, yn y cynulliad nesaf yn Brookings, cefais fy hun yn yr ysgubor rynllyd honno, yn aros i gael fy medyddio. Y cafn sinc oedd y “pwll bedyddio” ar gyfer pedwar ohonon ni ar 12 Tachwedd 1949.

Fy nod wedyn oedd dod yn arloeswr. Dechreuais arloesi ar 1 Ionawr 1952, pan oeddwn yn 15 oed. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth,” ac roedd llawer o rai doeth yn fy nheulu a fu’n gefn mawr imi. (Diar. 13:20) Fy mhartner arloesi cyntaf oedd fy ewythr Julius a oedd yn 60 oed. Er gwaethaf y gwahaniaeth oedran, cawson ni hwyl yn y weinidogaeth. Dysgais lawer ganddo. Cyn bo hir, dechreuodd Dorothy arloesi hefyd.

DIDDORDEB PERSONOL GAN AROLYGWYR Y GYLCHDAITH

Pan oeddwn i’n ifanc, roedd fy rhieni yn gwahodd arolygwyr cylchdaith a’u gwragedd i aros gyda ni yn aml. Un cwpl a oedd yn help mawr i mi oedd Jesse a Lyn Cantwell. Eu hanogaeth nhw oedd un o’r pethau a wnaeth imi ddechrau arloesi. Roedd eu diddordeb personol yn meithrin awydd ynof fi i roi cyfeiriad theocrataidd i fy mywyd. Weithiau, pan oedden nhw’n ymweld â chynulleidfaoedd cyfagos, fe fydden nhw’n gofyn imi fynd gyda nhw yn y weinidogaeth. Am bleser a chalondid oedd hynny.

Yr arolygwr nesaf oedd Bud Miller a’i wraig, Joan. Erbyn hynny, roeddwn i’n 18 mlwydd oed ac yn wynebu’r alwad i’r fyddin. I ddechrau, cefais fy rhoi mewn categori yr oeddwn i’n ei weld yn anghyson â chyngor Iesu inni fod yn niwtral o ran gwleidyddiaeth. Ac roeddwn i eisiau cyhoeddi newyddion da’r Deyrnas. (Ioan 15:19) Felly, apeliais ar y bwrdd consgripsiwn am gael fy nghydnabod yn weinidog.

Cafodd fy nghalon ei chyffwrdd pan ddywedodd y Brawd Miller y byddai’n mynd gyda mi i’r gwrandawiad. Yn ddyn hwyliog wrth natur, nid oedd yn un hawdd ei ddychryn. Roedd cael cwmni dyn ysbrydol o’r fath yn hwb mawr i mi. O ganlyniad i’r gwrandawiad hwnnw, tua diwedd haf 1954 cefais fy nghydnabod yn weinidog gan y bwrdd. Roedd hynny yn agor drws imi gyrraedd nod theocrataidd arall.

Gyda lori fferm, ychydig ar ôl dechrau yn y Bethel

Tua’r un adeg, cefais wahoddiad i wasanaethu yn y Bethel, yn Watchtower Farm, ar Staten Island, Efrog Newydd. Bues i yno am tua thair blynedd. Arweiniodd hynny at lawer o brofiadau da oherwydd fy mod wedi cwrdd â chynifer o bobl ddoeth a gweithio gyda nhw.

GWAITH BETHEL

Gyda’r Brawd Franz, yn WBBR

Y fferm ar Staten Island oedd cartref yr orsaf radio WBBR, a ddefnyddiwyd gan Dystion Jehofa rhwng 1924 a 1957. Dim ond 15 i 20 aelod o’r teulu Bethel oedd yn gweithio ar y fferm. Roedd y rhan fwyaf ohonon ni’n ifanc ac yn ddibrofiad. Ond, yn ein plith, roedd brawd hŷn eneiniog, Eldon Woodworth. Un doeth oedd y Brawd Woodworth! O dan ei ddylanwad tadol, roedden ni’n sadio’n ysbrydol. Pan fyddai ffaeleddau pobl eraill yn achosi problemau, fe fyddai’n dweud: “Mae beth mae Jehofa wedi bod yn ei wneud yn wyrthiol o gofio amherffeithrwydd y bobl y mae’n eu defnyddio.”

Roedd gan Harry Peterson sêl eithriadol dros y weinidogaeth

Braint arbennig oedd cael cwmni’r Brawd Frederick W. Franz. Cymerai ddiddordeb personol ynon ni ac roedd ei ddoethineb a’i ddealltwriaeth eithriadol o’r Ysgrythurau’n ddylanwad da arnon ni i gyd. Y cogydd oedd Harry Peterson; haws oedd defnyddio’r cyfenw hwnnw na’i enw go iawn, Papargyropoulos. Roedd ef hefyd yn un o’r eneiniog ac yn selog dros ben yn y weinidogaeth. Roedd yn gweithio’n galed yn y Bethel, ond ni fyddai byth yn esgeuluso’r weinidogaeth. Byddai’n dosbarthu cannoedd o’n cylchgronau bob mis. Yn drysorfa o wybodaeth Ysgrythurol, roedd yn ateb llawer o’n cwestiynau.

ELWA AR DDOETHINEB Y CHWIORYDD

Roedd y cynnyrch yn cael ei brosesu ar y fferm. Roedden ni’n llenwi tua 45,000 o ganiau mawr gyda ffrwythau a llysiau bob blwyddyn i fwydo’r teulu Bethel. Braint oedd cael gweithio gyda chwaer hynod o ddoeth, Etta Huth. Y hi oedd yn gyfrifol am y ryseitiau ar gyfer y gwaith canio. Adeg y cynhaeaf, roedd chwiorydd lleol yn dod i helpu a byddai Etta’n trefnu eu gwaith. Er bod gan Etta rôl ganolog yn y broses, roedd hi’n ofalus i osod esiampl o ran parchu’r brodyr a fu’n arolygu’r gwaith ar y fferm. I mi, roedd hi’n esiampl dda o’r ffordd y dylen ni ymostwng i’r drefn theocrataidd.

Gydag Angela ac Etta Huth

Un o’r chwiorydd ifanc a ddaeth i helpu gyda’r gwaith canio oedd Angela Romano. Etta oedd wedi ei helpu hi pan ddaeth hi i mewn i’r gwir. Felly, fe wnes i gwrdd ag un arall doeth yn y Bethel, un sydd wedi bod yn gwmni imi ers 58 o flynyddoedd erbyn hyn. Priodon ni ym mis Ebrill 1958 ac rydyn ni wedi cael breintiau lawer wrth wasanaethu Jehofa gyda’n gilydd. Mae ffyddlondeb Angie i Jehofa yn hollol ddigyfaddawd, a dros y blynyddoedd mae hynny wedi cryfhau ein priodas. Gallaf ddibynnu arni’n llwyr, waeth befo’r her.

GWAITH CENHADU A GWAITH TEITHIOL

Pan werthwyd gorsaf WBBR ar Staten Island ym 1957, es i’r Bethel yn Brooklyn am gyfnod byr. Gadewais Bethel pan briodais ag Angie ac am tua thair blynedd roedden ni’n arloesi ar Staten Island. Cefais swydd am gyfnod gan berchnogion newydd yr orsaf radio, a oedd yn defnyddio’r arwyddair WPOW.

Roedd Angie a minnau’n benderfynol o gadw ein bywydau’n syml er mwyn bod yn barod i symud i le bynnag yr oedd angen. Felly ym 1961, gofynnwyd inni fynd i Falls City, Nebraska, fel arloeswyr arbennig. Ond yn syth ar ôl inni gyrraedd, cawson ni wahoddiad i fynd i Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas. Bryd hynny, cwrs mis oedd hwnnw, yn South Lansing, Efrog Newydd. Fe wnaethon ni fwynhau’r cwrs, gan ddisgwyl mynd yn ôl i Nebraska. Syndod felly oedd cael aseiniad newydd, i fod yn genhadon yn Cambodia! Yn y wlad hyfryd honno yn Ne-ddwyrain Asia, roedden ni’n gweld, yn clywed ac yn arogli pethau nad oedden ni erioed wedi’u profi o’r blaen. Roedden ni’n awyddus iawn i ledaenu’r newyddion da yno.

Fodd bynnag, newidiodd y sefyllfa wleidyddol a bu’n rhaid inni symud i Dde Fietnam. Yn anffodus, o fewn dwy flynedd, roedd fy iechyd wedi dirywio’n arw a chawson ni ein cynghori i fynd yn ôl adref i’n gwlad ein hunain. Cymerodd amser imi adennill fy nerth, ond unwaith imi wella, dechreuon ni arloesi eto.

Gydag Angela ym 1975, cyn cyfweliad ar y teledu

Ym mis Mawrth 1965, cawson ni’r fraint o wasanaethu cynulleidfaoedd yn y gwaith teithiol. Am 33 o flynyddoedd, roedden ni’n mwynhau’r gwaith cylch a’r gwaith rhanbarth, gan gynnwys llawer o waith paratoi ar gyfer cynadleddau. Bu’r cynadleddau yn wastad yn uchafbwyntiau i mi, felly hyfryd oedd cael helpu i’w trefnu. Am rai blynyddoedd roedden ni’n gweithio yng nghyffiniau Dinas Efrog Newydd a chynhaliwyd nifer o gynadleddau yn Yankee Stadium.

YN ÔL I’R BETHEL A’R YSGOLION THEOCRATAIDD

Fel sy’n wir yn achos llawer yn y gwasanaeth llawn-amser arbennig, mae Angie a minnau wedi cael aseiniadau heriol a chyffrous. Er enghraifft, ym 1995, gofynnwyd imi ddysgu’r Ysgol Hyfforddi Gweinidogaethol. Dair blynedd yn ddiweddarach fe’n gwahoddwyd yn ôl i’r Bethel. Pleser o’r mwyaf oedd bod yn ôl yn y lle y dechreuais fy ngwasanaeth llawn amser arbennig fwy na 40 mlynedd ynghynt. Am gyfnod, roeddwn i’n gweithio yn yr Adran Wasanaeth ac fel hyfforddwr mewn nifer o ysgolion. Yn 2007, daeth yr ysgolion a gynhaliwyd yn y Bethel dan Adran Ysgolion Theocrataidd, adran newydd a grëwyd gan y Corff Llywodraethol, a chefais y fraint o arolygu’r adran am nifer o flynyddoedd.

Yn ddiweddar, gwelwyd nifer o newidiadau mawr ym maes addysg theocrataidd. Dechreuodd yr Ysgol ar Gyfer Henuriaid yn 2008. Dros y ddwy flynedd ganlynol, hyfforddwyd mwy na 12,000 o henuriaid yn Patterson ac yn y Bethel yn Brooklyn. Mae’r ysgol honno yn dal yn cael ei chynnal mewn gwahanol fannau, gyda hyfforddwyr yn y maes. Yn 2010, cafodd yr Ysgol Hyfforddi Gweinidogaethol ei hail-enwi’n Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Sengl, a chrëwyd ysgol newydd, yr Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Cristnogion Priod.

Cyfunwyd y ddwy ysgol hyn yn ystod blwyddyn wasanaeth 2015, i greu’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Mae’r dosbarthiadau’n cynnwys cyplau priod, brodyr sengl a chwiorydd sengl. Cafodd y newyddion am yr ysgol hon, sy’n cael ei chynnal mewn llawer o ganghennau, groeso brwd. Cyffrous yw gweld ehangu cyfleoedd am addysg theocrataidd, ac rwy’n ddiolchgar fy mod i wedi cwrdd â chynifer o bobl sy’n awyddus i gael eu hyfforddi.

Wrth edrych yn ôl ar fy mywyd, o’r amser cefais fy medyddio yn y cafn hwnnw hyd heddiw, rwy’n diolch i Jehofa am y bobl ddoeth sydd wedi fy rhoi ar ben ffordd. Doedden nhw ddim i gyd yr un oedran â mi, nac yn dod o’r un cefndir. Ond, yn eu hanfod, pobl ysbrydol oedden nhw. Gwelwyd eu cariad at Jehofa yn eu gweithredoedd a’u hagweddau. Yn ei gyfundrefn ef, mae llawer o bobl ddoeth y gallwn fanteisio ar eu cwmni. Dyna a wnes i, ac rwy wedi elwa’n fawr.

Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â myfyrwyr o bedwar ban y byd