Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dydy’r Gwirionedd “Ddim yn Dod â Heddwch, Ond Cleddyf”

Dydy’r Gwirionedd “Ddim yn Dod â Heddwch, Ond Cleddyf”

“Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i’r byd! Dw i ddim yn dod â heddwch, ond cleddyf.”—MATHEW 10:34.

CANEUON: 123, 128

1, 2. (a) Pa heddwch sydd ar gael inni nawr? (b) Pam na allwn ni gael heddwch llawn ar hyn o bryd? (Gweler y llun agoriadol.)

RYDYN NI i gyd eisiau bywyd heddychlon heb bryder. Felly, rydyn ni’n ddiolchgar iawn fod Jehofa yn rhoi “heddwch perffaith” inni. Mae’r heddwch hwnnw yn dod â thawelwch meddwl sy’n gallu ein hamddiffyn rhag meddyliau a theimladau a all ein cynhyrfu. (Philipiaid 4:6, 7) Ac, oherwydd ein bod ni wedi ymgysegru i Jehofa, mae gennyn ni “heddwch gyda Duw.” Mae hynny’n golygu bod gennyn ni berthynas dda gydag ef.—Rhufeiniaid 5:1.

2 Wedi dweud hynny, nid dyma’r amser i Dduw ddod â heddwch llawn i’r byd. Rydyn ni’n byw yn y dyddiau diwethaf, felly mae ’na lawer o broblemau sy’n achosi pryder inni. Mae pobl dreisgar i’w cael ym mhobman. (2 Timotheus 3:1-4) Hefyd, mae’n rhaid inni frwydro yn erbyn Satan a’r gau ddysgeidiaethau mae’n eu hyrwyddo. (2 Corinthiaid 10:4, 5) Ond, y peth a all achosi’r pryder mwyaf inni ydy gwrthwynebiad oddi wrth ein perthnasau sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa. Gall rhai ohonyn nhw wneud sbort am ben ein daliadau neu ein cyhuddo o wahanu’r teulu. Gallan nhw hyd yn oed ddweud na fedrwn ni fod yn rhan o’r teulu bellach oni bai ein bod ni’n stopio gwasanaethu Jehofa. Felly, sut dylen ni ymateb i wrthwynebiad oddi wrth ein teulu? A sut gallwn ni gadw heddwch meddwl pan fydd hynny’n digwydd?

GWRTHWYNEBIAD ODDI WRTH Y TEULU

3, 4. (a) Pa effaith mae dysgeidiaethau Iesu’n ei chael? (b) Pryd y byddai hi’n enwedig o anodd dilyn Iesu?

3 Roedd Iesu’n gwybod na fyddai pawb yn derbyn ei ddysgeidiaethau. Roedd hefyd yn gwybod y byddai angen dewrder ar ei ddisgyblion oherwydd y byddai rhai yn troi yn eu herbyn. Gallai’r gwrthwynebiad hwnnw effeithio ar heddwch eu teuluoedd. Dywedodd Iesu: “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i’r byd! Dw i ddim yn dod â heddwch, ond cleddyf. Dw i wedi dod i droi ‘mab yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith—bydd eich teulu agosaf yn troi’n elynion i chi.’”—Mathew 10:34-36.

4 Beth roedd Iesu’n ei olygu pan ddywedodd “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch”? Roedd eisiau i bobl wybod byddai dod yn ddisgyblion iddo yn dod â chanlyniadau. Wrth gwrs, bwriad Iesu oedd dysgu’r gwirionedd am Dduw i bobl, nid gwahanu teuluoedd. (Ioan 18:37) Ond, roedd rhaid i’w ddisgyblion wybod na fyddai bob amser yn hawdd dilyn Iesu, yn enwedig os nad oedd ffrindiau agos neu aelodau’r teulu yn derbyn y gwirionedd.

5. Beth mae dilynwyr Iesu wedi ei wynebu?

5 Dywedodd Iesu fod gwrthwynebiad gan y teulu yn un o’r pethau y byddai’n rhaid i’w ddilynwyr fod yn barod i’w hwynebu. (Mathew 10:38) Er mwyn plesio Iesu, mae ei ddilynwyr wedi aros yn gadarn hyd yn oed pan oedd eu teuluoedd yn gwneud hwyl am eu pennau neu wedi cefnu arnyn nhw. Ond, maen nhw wedi ennill llawer mwy na’r hyn y maen nhw wedi ei golli.—Darllen Marc 10:29, 30.

6. Beth sy’n rhaid inni ei gofio os ydy ein perthnasau yn ein gwrthwynebu?

6 Hyd yn oed os ydy ein perthnasau yn ein gwrthwynebu oherwydd ein bod ni’n addoli Jehofa, rydyn ni’n dal i’w caru nhw. Ond, mae’n rhaid inni gofio bod angen i’n cariad tuag at Dduw a Christ fod yn gryfach na’n cariad tuag at unrhyw un arall. (Mathew 10:37) Hefyd, mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol bod Satan yn gallu defnyddio ein cariad tuag at ein teulu i achosi inni fod yn anffyddlon i Jehofa. Gad inni drafod rhai sefyllfaoedd anodd a gweld sut gallwn ni ddyfalbarhau.

CYMAR ANGHREDINIOL

7. Sut dylen ni ymddwyn os nad ydy ein cymar yn gwasanaethu Jehofa?

7 Mae’r Beibl yn ein rhybuddio y bydd unrhyw un sy’n priodi yn wynebu “straen ofnadwy,” neu broblemau. (1 Corinthiaid 7:28) Os nad yw dy gymar yn gwasanaethu Jehofa, gall hynny roi dy briodas o dan fwy o straen. Ond, mae’n bwysig iti weld dy sefyllfa fel mae Jehofa yn ei gweld. Dywedodd na allwn ni wahanu nac ysgaru ein cymar dim ond oherwydd nad ydy ef neu hi yn gwasanaethu Jehofa. (1 Corinthiaid 7:12-16) Os nad ydy dy ŵr yn gwasanaethu Jehofa nac yn arwain y teulu mewn gwir addoliad, bydd rhaid iti barhau i’w barchu fel pen y teulu. Ac os nad ydy dy wraig yn addoli Jehofa, bydd rhaid iti barhau i’w charu hi ac i ofalu amdani hi.—Effesiaid 5:21-24, 28, 29.

8. Pa gwestiynau gelli di eu gofyn os ydy dy gymar yn ceisio cyfyngu ar dy addoliad?

8 Beth dylet ti ei wneud os ydy dy gymar yn ceisio cyfyngu ar dy addoliad? Dywedodd gŵr un o’n chwiorydd wrthi ei bod hi’n cael pregethu dim ond ar rai dyddiau penodol o’r wythnos. Os wyt tithau mewn sefyllfa debyg, gofynna i ti dy hun: ‘Ydy fy nghymar yn ceisio fy stopio rhag addoli Jehofa’n gyfan gwbl? Os nad ydy’n gwneud hynny, a allaf wneud yr hyn mae’n ei ofyn?’ Os wyt ti’n rhesymol, bydd llai o broblemau’n codi yn dy briodas.—Philipiaid 4:5.

9. Sut gall Cristnogion ddysgu eu plant i barchu rhiant anghrediniol?

9 Gall fod yn anodd hyfforddi dy blant os nad ydy dy gymar yn gwasanaethu Jehofa. Er enghraifft, mae’n rhaid dysgu dy blant i ddilyn gorchymyn y Beibl ynglŷn â bod yn ufudd i’w rhieni. (Effesiaid 6:1-3) Ond beth dylet ti ei wneud os nad ydy dy gymar yn dilyn safonau’r Beibl? Gelli di osod esiampl dda drwy barchu dy gymar. Meddylia am rinweddau da dy gymar, a dweud wrtho ef neu wrthi hi dy fod ti’n ddiolchgar am yr holl bethau da mae ef neu hi yn eu gwneud. Paid â dweud pethau negyddol am dy gymar o flaen y plant. Yn hytrach, esbonia iddyn nhw fod rhaid i bob unigolyn ddewis addoli Jehofa neu beidio. Os wyt ti’n hyfforddi dy blant i barchu’r rhiant anghrediniol, efallai bydd eu hesiampl dda yn ysgogi dy gymar i ddysgu am Jehofa.

Dysga’r Beibl i dy blant bryd bynnag mae hynny’n bosib (Gweler paragraff  10)

10. Sut gall rhieni Cristnogol ddysgu eu plant i garu Jehofa?

10 Efallai fod rhai rhieni anghrediniol eisiau i’w plant ddathlu gwyliau paganaidd neu iddyn nhw ddysgu athrawiaethau gau grefydd. Gall rhai gwŷr wahardd y wraig Gristnogol rhag dysgu eu plant am y Beibl. Ond, hyd yn oed mewn sefyllfa o’r fath, bydd y wraig yn gwneud beth mae’n gallu ei wneud i ddysgu’r gwirionedd i’w phlant. (Actau 16:1; 2 Timotheus 3:14, 15) Er enghraifft, efallai ni fydd y gŵr eisiau i’w wraig gynnal astudiaeth Feiblaidd ffurfiol gyda’r plant na mynd â nhw i’r cyfarfodydd. Er ei bod hi’n parchu ei benderfyniad, mae’n bosib iddi hi siarad am ei daliadau pan fydd y cyfle’n codi. Drwy wneud hyn, gall y plant ddysgu am Jehofa a’i safonau ynglŷn â da a drwg. (Actau 4:19, 20) Yn y pen draw, bydd rhaid i’r plant benderfynu a ydyn nhw eisiau gwasanaethu Jehofa. * (Gweler y troednodyn.)—Deuteronomium 30:19, 20.

PERTHNASAU SY’N GWRTHWYNEBU

11. Beth all achosi problemau rhyngon ni a’n perthnasau sydd ddim yn addoli Jehofa?

11 Pan ddechreuon ni astudio gyda Thystion Jehofa, efallai wnaethon ni ddim sôn wrth ein teulu am y peth. Ond, wrth i’n ffydd dyfu, sylweddolon ni fod angen dweud wrthyn nhw ein bod ni eisiau gwasanaethu Jehofa. (Marc 8:38) Gallai dy ffyddlondeb i Dduw fod wedi achosi problemau rhyngot ti a dy deulu. Gad inni drafod rhai pethau y gelli di eu gwneud i gadw heddwch ac aros yn ffyddlon i Jehofa.

Os ydyn ni’n deall teimladau ein perthnasau, bydd hi’n haws inni ddysgu’r gwirionedd iddyn nhw

12. Beth all achosi i’n perthnasau wrthwynebu’r gwirionedd, ond sut gallwn ni ddangos bod eu teimladau’n bwysig inni?

12 Ceisio deall teimladau dy berthnasau sydd ddim yn y gwir. Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n gwybod am wirionedd y Beibl. Ond, gall ein perthnasau gredu ein bod ni wedi cael ein twyllo neu ein bod ni wedi ymuno â grŵp crefyddol rhyfedd. Mae’n bosib eu bod nhw’n teimlo nad ydyn ni’n eu caru nhw bellach oherwydd dydyn ni ddim yn dathlu gwyliau crefyddol gyda nhw. Gallen nhw hyd yn oed ofni y bydd rhywbeth drwg yn digwydd inni ar ôl inni farw. Mae’n rhaid inni geisio deall eu teimladau a gwrando’n astud ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud er mwyn inni wybod pam maen nhw’n poeni amdanon ni. (Diarhebion 20:5) Roedd yr apostol Paul wedi ei wneud ei hun yn “bob peth i bawb” er mwyn iddo allu dysgu’r newyddion da iddyn nhw. Os ydyn ni’n ceisio deall safbwynt ein perthnasau, efallai bydd hynny’n ein helpu i wybod sut i ddysgu’r gwirionedd iddyn nhw.—1 Corinthiaid 9:19-23.

13. Sut dylen ni siarad â’n perthnasau?

13 Siarad mewn ffordd addfwyn. “Byddwch yn serchog wrth siarad,” meddai’r Beibl. (Colosiaid 4:6) Dydy hynny ddim bob amser yn hawdd. Gallwn ofyn i Jehofa am iddo roi ei ysbryd glân inni er mwyn ein helpu i fod yn addfwyn ac yn garedig wrth ein perthnasau. Ni ddylen ni geisio ffraeo â nhw am eu holl ddaliadau anghywir. Os ydy rhywbeth maen nhw’n ei wneud neu’n ei ddweud yn ein brifo, gallwn efelychu’r apostolion. Dywedodd Paul: “Dŷn ni’n bendithio’r bobl sy’n ein bygwth ni. Dŷn ni’n goddef pobl sy’n ein cam-drin ni. Dŷn ni’n ymateb yn garedig pan mae pobl yn ein henllibio ni.”—1 Corinthiaid 4:12, 13.

14. Pa fuddion sy’n dod o’n hymddygiad da?

14 Ymddwyn yn dda. Pam mae hynny’n bwysig? Er bod siarad mewn ffordd addfwyn yn gallu ein helpu i gadw heddwch â’n perthnasau, gall ein hymddygiad fod yn fwy pwerus fyth. (Darllen 1 Pedr 3:1, 2, 16.) Gad i aelodau o dy deulu weld o dy esiampl fod gan Tystion Jehofa priodasau hapus, eu bod nhw’n gofalu am eu plant, yn byw yn ôl egwyddorion y Beibl, ac yn byw bywyd sy’n llawn ystyr. Hyd yn oed petai’n perthnasau byth yn derbyn y gwirionedd, gallwn fod yn hapus bod ein hymddygiad da yn plesio Jehofa.

15. Sut gallwn ni gynllunio o flaen llaw er mwyn osgoi dadleuon gyda’n perthnasau?

15 Cynllunio o flaen llaw. Meddylia am sefyllfaoedd a all achosi dadleuon rhyngot ti a dy berthnasau. Yna, penderfyna sut rwyt ti’n mynd i ddelio â’r sefyllfaoedd hynny. (Diarhebion 12:16, 23) Dyna wnaeth un chwaer yn Awstralia. Roedd ei thad-yng-nghyfraith yn hollol yn erbyn y gwirionedd ac weithiau’n gwylltio. Felly, cyn ei alw ar y ffôn, byddai hi a’i gŵr yn gofyn i Jehofa eu helpu nhw i osgoi ymateb yn flin iddo. Byddan nhw’n meddwl am bynciau dymunol i’w trafod. Ac, i osgoi sgyrsiau hir a fyddai’n arwain at ddadleuon am grefydd, gosodon nhw amser penodol i orffen yr alwad.

Mae dy ffyddlondeb i Jehofa yn gorfod bod yn gryfach na dy gariad tuag at dy deulu

16. Sut gelli di drechu teimladau o euogrwydd ynglŷn â siomi dy berthnasau?

16 Wrth gwrs, nid yw’n bosib osgoi pob anghytundeb rhyngot ti a dy berthnasau anghrediniol. Felly, pan fydd anghytundeb yn codi, efallai y byddi di’n teimlo’n euog oherwydd dy fod ti’n caru dy berthnasau ac eisiau eu plesio. Ond, cofia fod dy ffyddlondeb i Jehofa yn gorfod bod yn gryfach na dy gariad tuag at dy deulu. Pan fydd dy berthnasau’n sylweddoli hyn, efallai byddan nhw’n deall pa mor bwysig ydy gwasanaethu Jehofa iti. Ni elli di orfodi unrhyw un i dderbyn y gwirionedd. Wedi dweud hynny, gelli di adael i bobl eraill weld sut mae dilyn ffordd Jehofa wedi dy helpu di. Ac mae Jehofa yn cynnig yr un cyfle iddyn nhw ag y mae’n ei gynnig i ni, sef y dewis i’w wasanaethu.—Eseia 48:17, 18.

AELOD O’R TEULU YN GADAEL JEHOFA

17, 18. Beth all dy helpu os ydy aelod o dy deulu yn gadael Jehofa?

17 Pan fydd aelod o’r teulu yn cael ei ddiarddel neu yn ymddiarddel o’r gynulleidfa, gall hynny fod yn hynod o anodd. Gall fod yr un mor boenus â chael dy drywanu gan gleddyf. Sut gelli di ymdopi â’r boen hon?

18 Canolbwyntio ar wasanaethu Jehofa. Pan fyddi di’n dioddef y fath boen, mae angen iti gryfhau dy ffydd. Gwna hyn drwy ddarllen y Beibl yn rheolaidd, paratoi ar gyfer y cyfarfodydd a’u mynychu, dal ati i bregethu, a gweddïo ar Jehofa am iddo roi’r nerth iti i ddyfalbarhau. (Jwdas 20, 21) Beth os wyt ti’n gwneud hyn i gyd ond dydy’r poen ddim yn mynd? Paid â rhoi’r gorau iddi! Canolbwyntia ar dy wasanaeth i Jehofa. Mewn amser, bydd hynny’n dy helpu i reoli dy feddyliau a dy deimladau. Dyna ddigwyddodd i ysgrifennwr Salm 73. Aeth ef drwy gyfnod pan oedd yn anodd iddo reoli ei feddyliau a’i deimladau. Ond, roedd addoli Jehofa yn ei helpu i weld pethau yn y ffordd gywir unwaith eto. (Salm 73:16, 17) Gall hynny fod yn wir i tithau hefyd.

19. Sut gelli di ddangos dy fod ti’n parchu’r ffordd mae Jehofa’n disgyblu ei bobl?

19 Parchu disgyblaeth Jehofa. Mae Duw yn gwybod bod ei ddisgyblaeth yn llesol i bawb, gan gynnwys y sawl sy’n cael ei ddiarddel. Er ei bod hi’n boenus iawn pan fydd rhywun rydyn ni’n ei garu yn cael ei ddisgyblu, gall hyn ei helpu ef neu hi i ddod yn ôl i Jehofa yn y dyfodol. (Darllen Hebreaid 12:11.) Yn y cyfamser, mae’n rhaid inni barchu cyfarwyddyd Jehofa a chael “dim i’w wneud” â phobl sydd wedi cael eu diarddel. (1 Corinthiaid 5:11-13) Dydy hynny ddim yn hawdd. Ond, mae angen inni osgoi cysylltu â nhw dros y ffôn, drwy negeseuon testun, llythyrau, e-byst, neu’r cyfryngau cymdeithasol.

Rydyn ni’n dal i obeithio y bydd ein hanwyliaid yn dod yn ôl i Jehofa

20. Beth dylen ni obeithio amdano?

20 Paid ag anobeithio! Mae cariad “bob amser yn gobeithio,” felly, rydyn ni’n dal i obeithio y bydd ein hanwyliaid yn dod yn ôl i Jehofa. (1 Corinthiaid 13:7) Os wyt ti’n gweld bod agwedd aelod o dy deulu yn gwella, gelli di weddïo am iddo ef neu hi gael nerth o’r Beibl a derbyn y gwahoddiad hwn gan Jehofa: “Tro yn ôl ata i!”—Eseia 44:22.

21. Beth dylet ti ei wneud os ydy dy deulu yn dy wrthwynebu oherwydd dy fod ti’n dilyn Iesu?

21 Dywedodd Iesu y dylen ni ei garu ef yn fwy nag yr ydyn ni’n caru unrhyw berson ar y ddaear. Ac roedd Iesu’n sicr byddai ei ddisgyblion yn ddigon dewr i aros yn ffyddlon iddo hyd yn oed petai eu teuluoedd yn gwrthwynebu. Felly, os ydy dy deulu’n dy wrthwynebu oherwydd dy fod ti’n dilyn Iesu, dibynna ar Jehofa. Gofynna iddo dy helpu i ddyfalbarhau. (Eseia 41:10, 13) Bydda’n hapus o wybod bod Jehofa a Iesu yn falch o’r hyn rwyt ti’n ei wneud a’u bod nhw am dy fendithio oherwydd dy ffyddlondeb.

^ Par. 10 Am fwy o wybodaeth am hyfforddi plant pan fydd dim ond un o’r rhieni yn gwasanaethu Jehofa, gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Awst 2002.