HANES BYWYD
Gadael i Jehofa Ddangos y Ffordd Imi
YN FY arddegau, wnes i ddewis llwybr i fi fy hun mewn swydd o’n i’n ei mwynhau. Ond, gwnaeth Jehofa gynnig llwybr arall imi. Roedd fel petai’n dweud: ‘Gad i mi ddangos y ffordd i ti, a dy helpu di i wybod sut i fyw.’ (Salm 32:8) Gan fy mod i wedi dilyn llwybr Jehofa, dw i wedi cael bywyd llawn cyfleoedd a bendithion, gan gynnwys 52 mlynedd gyffrous yn gwasanaethu yn Affrica.
O’R ARDAL DDU I GALON GYNNES AFFRICA
Ces i fy ngeni ym 1935, yn Darlaston, Lloegr. Ers talwm, roedd cymaint o fwg du yn dod o’r ffatrïoedd ac yn llenwi’r aer cafodd yr ardal ei galw’n Ardal Ddu. Pan o’n i’n bedair oed, dechreuodd fy rhieni astudio gyda’r Tystion. Erbyn fy arddegau, o’n innau’n hollol sicr mai dyna oedd y gwir, felly ym 1952 ces i fy medyddio yn 16 oed.
Tua’r un adeg, ces i brentisiaeth mewn ffatri fawr oedd yn cynhyrchu partiau ceir a thŵls. Ces i fy hyfforddi i fod yn ysgrifennydd i’r cwmni, ac o’n i wrth fy modd.
Ymhen hir a hwyr, gwnaeth arolygwr y gylchdaith ofyn imi arwain Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa yn y cyfarfod canol wythnos yn Willenhall. Dyna oedd fy nghynulleidfa ar y penwythnosau pan o’n i adref gyda fy rhieni. Ond y broblem oedd, yn ystod yr wythnos, o’n i’n mynd i gynulleidfa arall yn Bromsgrove gan ei bod yn agosach at fy ngwaith a oedd rhyw 20 milltir (32km) o nghartref. A dyna pam o’n i’n rhannu fy hun rhwng y ddwy gynulleidfa.
O’n i eisiau cefnogi cyfundrefn Jehofa, felly wnes i dderbyn cynnig arolygwr y gylchdaith. Roedd hynny’n golygu mod i’n rhoi’r gorau i’r brentisiaeth o’n i mor hoff ohoni, ond dw i erioed wedi difaru. Heb yn wybod i mi ar y pryd, roedd Jehofa wedi agor y ffordd i fywyd anhygoel.
Tra o’n i yn y gynulleidfa yn Bromsgrove, wnes i gyfarfod rhywun. Anne oedd ei henw hi, chwaer brydferth ac ysbrydol. Gwnaethon ni briodi ym 1957, ac ers hynny, rydyn ni wedi gwneud pob math o bethau yng ngwasanaeth Jehofa, gan gynnwys arloesi’n llawn amser, arloesi’n arbennig, gwneud gwaith teithio, a gwasanaethu yn y Bethel. Yn sicr, rydyn ni wedi cael bywyd hapus gyda’n gilydd.
Ym 1966, cawson ni’r fraint arbennig o fynd i ddosbarth 42 Ysgol Gilead. Cawson ni ein haseinio i Malawi, gwlad sy’n cael ei hadnabod fel calon gynnes Affrica am fod y bobl
mor garedig a chroesawgar. Ond er mawr syndod inni, wnaeth y croeso ddim para.GWASANAETHU YN YSTOD CYFNOD ANODD YM MALAWI
Cyrhaeddon ni Malawi ar Chwefror 1, 1967. Gwnaethon ni dreulio’r mis cyntaf yn dysgu’r iaith, cyn inni ddechrau yn y gwaith rhanbarth. Roedden ni wedi cael Kaiser Jeep i deithio o gwmpas ynddo, gan fod rhai’n meddwl na fyddai dim byd yn ei rwystro, dim hyd yn oed afonydd. Ond yn fuan, gwelon ni bod hynny ddim yn wir. Os nad oedd y dŵr yn fas, roedd y Jeep yn dda i ddim! Ar adegau, roedden ni’n aros mewn tai mwd oedd angen tarpolin o dan y to yn ystod tymor y glawogydd. Doedd pethau ddim yn hawdd, ond roedden ni wrth ein boddau.
Ym mis Ebrill, o’n i’n synhwyro bod helynt ar fin codi yn y wlad. O’n i wedi clywed arlywydd Malawi, Dr Hastings Banda, yn siarad ar y radio. Roedd yn honni bod Tystion Jehofa yn gwrthod talu trethi a’u bod nhw’n achosi problemau i’r llywodraeth. Wrth gwrs, doedd hynny ddim yn wir. Roedden ni i gyd yn gwybod mai’r broblem go iawn oedd y ffaith ein bod ni’n aros yn niwtral, ac yn gwrthod prynu cardiau i ddangos ein bod ni’n rhan o’r blaid wleidyddol.
Erbyn mis Medi, roedd y papurau newydd yn dweud bod yr arlywydd yn cyhuddo’r brodyr o greu helynt ym mhobman. Cyhoeddodd y byddai’r llywodraeth yn gweithredu’n sydyn i wahardd Tystion Jehofa, a dyna ddigwyddodd ar 20 Hydref, 1967. Yn fuan wedyn, daeth yr heddlu a swyddogion mewnfudo i gau’r gangen, a hel y cenhadon allan o’r wlad.
Ar ôl tridiau yn y carchar, cawson ni ein hanfon i Mawrisiws a oedd o dan reolaeth Prydain. Ond doedd yr awdurdodau ym
Mawrisiws ddim am adael inni aros yno fel cenhadon, ac felly cawson ni ein haseinio i Rhodesia (Simbabwe bellach). Ond pan gyrhaeddon ni yno, gwnaeth swyddog ymfudo annifyr wrthod ein gadael ni i mewn i’r wlad. Dywedodd: “’Dych chi wedi cael eich anfon allan o Malawi, dydyn nhw ddim eisiau chi yn Mawrisiws, a nawr ’dych chi’n dod yma am ei bod yn gyfleus.” Ar hynny, dyma Anne yn dechrau crio, ac o’n i’n teimlo fy mod i eisiau mynd yn syth yn ôl i Loegr. Roedden ni’n teimlo bod neb eisiau ni. Yn y pen draw, cawson ni ganiatâd gan yr awdurdodau i aros dros nos yn swyddfa’r gangen ar yr amod ein bod ni’n mynd i’w pencadlys nhw y bore wedyn. Er ein bod ni wedi ymlâdd, roedden ni’n fodlon gadael pethau yn nwylo Jehofa. Allan o nunlle, y prynhawn wedyn, cawson ni ganiatâd i aros fel ymwelwyr yn Simbabwe. Wna i byth anghofio’r diwrnod hwnnw. Roedden ni’n hollol sicr mai Jehofa oedd yn dangos y ffordd inni.ASEINIAD NEWYDD YN GWASANAETHU MALAWI O SIMBABWE
Ces i fy aseinio i weithio yn Adran Wasanaeth cangen Simbabwe, yn gofalu am Malawi a Mosambîc. Roedd y brodyr ym Malawi yn cael eu herlid yn ofnadwy. Fel rhan o fy ngwaith, o’n i’n cyfieithu adroddiadau arolygwyr y gylchdaith o Malawi. Un noson, pan o’n i’n gweithio’n hwyr, daeth dagrau i fy llygaid wrth ddarllen am yr holl bethau erchyll oedd yn digwydd i’r brodyr a chwiorydd yno. a Ond ar y llaw arall, roedd eu ffyddlondeb a’u dyfalbarhad yn wir cyffwrdd fy nghalon.—2 Cor. 6:4, 5.
Gwnaethon ni bopeth allen ni i sicrhau bod y brodyr ym Malawi, a’r rhai oedd wedi ffoi i Mosambîc, yn cael digon o fwyd ysbrydol. Symudodd y tîm oedd yn cyfieithu i Tsitseweg, sef iaith fwyaf cyffredin Malawi, i weithio o fferm brawd yn Simbabwe. Roedd wedi bod yn hynod o garedig, yn adeiladu tai a swyddfa iddyn nhw. Felly roedden nhw’n gallu dal ati gyda’u gwaith hollbwysig.
Gwnaethon ni drefnu i arolygwyr y gylchdaith o Malawi fynd i’r gynhadledd ranbarthol Tsitseweg yn Simbabwe bob blwyddyn. Tra oedden nhw yno, roedden nhw’n cael yr amlinelliadau ar gyfer anerchiadau’r gynhadledd er mwyn eu rhannu nhw â’r brodyr ar eu ffordd yn ôl i Malawi. Un tro, pan oedden nhw yn Simbabwe, llwyddon ni i drefnu Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas ar gyfer yr arolygwyr dewr hyn er mwyn eu calonogi.
Ym mis Chwefror 1975, es i i ymweld â’r Tystion oedd wedi ffoi o Malawi i Mosambîc. Er eu bod nhw mewn gwersylloedd, roedd y brodyr yn cadw i fyny â chyfarwyddiadau diweddaraf y gyfundrefn, gan gynnwys creu corff henuriaid, a oedd yn drefniant newydd ar y pryd. Roedd yr henuriaid newydd yn gweithio’n galed i roi anerchiadau cyhoeddus, i drafod testun y dydd a’r Tŵr Gwylio, a hyd yn oed cynnal cynulliadau. Roedd popeth mor drefnus yn y gwersyll, am fod ganddyn nhw strwythur tebyg i’r cynadleddau, gydag adrannau glanhau, diogelwch, a dosbarthu bwyd. Roedd yn anhygoel i weld beth roedd y brodyr wedi ei wneud gyda help Jehofa, ac erbyn imi adael, o’n i’n teimlo fy mod i wedi cael fy nghalonogi hefyd.
Yn hwyr yn y 1970au, dechreuodd y gangen yn Sambia ofalu am Malawi, ond roedd y brodyr ym Malawi yn dal yn agos at fy nghalon ac o’n i, a llawer o frodyr eraill, yn eu cadw nhw yn ein gweddïau. Er hynny, am fy mod i ar Bwyllgor y Gangen yn Simbabwe, o’n i’n cael cyfarfodydd gyda brodyr o’r pencadlys, ynghyd â rhai o Malawi, De Affrica, a Sambia. Bob tro, roedden ni’n gofyn: “Beth arall allwn ni ei wneud i helpu’r brodyr ym Malawi?”
Wrth i amser fynd heibio, roedd pethau’n dechrau gwella ym Malawi, a gwnaeth rhai o’r brodyr oedd wedi ffoi ddychwelyd. Roedd y brodyr oedd wedi aros yn y wlad, a dioddef yr holl greulondeb, yn dechrau teimlo eu bod nhw’n cael rhywfaint o lonydd. Roedd rhai
o’r gwledydd cyfagos wedi rhoi mwy o ryddid i Dystion Jehofa bregethu a chynnal cyfarfodydd. Dyna a wnaeth Mosambîc ym 1991. Ond roedden ni’n dal i ofyn, ‘Pryd bydd y Tystion ym Malawi yn rhydd?’YN Ôl I MALAWI
Yn y pen draw, ym 1993, gwnaeth y llywodraeth ym Malawi godi’r gwaharddiad ar Dystion Jehofa. Yn fuan wedyn, o’n i’n siarad â chenhadwr a ofynnodd imi: “A fyddi di’n mynd yn ôl i Malawi?” Ond erbyn hynny o’n i’n 59 oed, felly dywedais i, “Na, dw i’n rhy hen!” Ond coeliwch neu beidio, y diwrnod hwnnw, cawson ni ffacs gan y Corff Llywodraethol yn gofyn inni fynd yn ôl yno.
Roedd hyn yn benderfyniad anodd inni, oherwydd roedden ni’n caru ein haseiniad yn Simbabwe. Roedden ni wedi setlo yno ac wedi gwneud ffrindiau da. Roedd y Corff Llywodraethol yn garedig iawn â ni. Wnaethon nhw ddim rhoi pwysau arnon ni i symud oni bai ein bod ni eisiau. Felly byddai hi wedi bod yn ddigon hawdd inni aros yn Simbabwe. Ond dw i’n cofio meddwl am esiampl Abraham a Sara a wnaeth ddilyn ffordd Jehofa drwy adael eu bywyd cyfforddus, er eu bod nhwthau mewn oed.—Gen. 12:1-5.
Felly, penderfynon ni ddilyn arweiniad Jehofa a mynd yn ôl i Malawi ar Chwefror 1, 1995. Digwydd bod roedd hynny’n 28 mlynedd i’r diwrnod ers inni gyrraedd yno am y tro cyntaf. Ces i a dau frawd arall ein haseinio i fod ar Bwyllgor y Gangen, ac aethon ni ati i ailgychwyn gwaith Tystion Jehofa yno.
JEHOFA YN GWNEUD IDDO DYFU
Mae hi wedi bod yn fraint anhygoel i weld cynnydd mor sydyn. Gyda bendith Jehofa, aeth nifer y cyhoeddwyr o 30,000 ym 1993 i dros 42,000 erbyn 1998. b Oherwydd y cynnydd mawr yn y maes, cawson ni ganiatâd gan y Corff Llywodraethol i adeiladu swyddfa gangen newydd yn Lilongwe, lle roedden ni wedi prynu 12 hectar (32 erw) o dir. O’n i’n falch iawn o fod yn aelod o’r pwyllgor adeiladu.
Ym mis Mai 2001, rhoddodd y Brawd Guy Pierce o’r Corff Llywodraethol anerchiad i gysegru’r adeilad newydd. Daeth mwy na 2,000 o Dystion lleol i wrando. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu bedyddio ers dros 40 mlynedd. Roedd y brodyr a
chwiorydd hyn wedi aros yn ffyddlon am flynyddoedd er gwaethaf erledigaeth ofnadwy yn ystod y gwaharddiad. Doedd ganddyn nhw ddim llawer yn faterol, ond roedden nhw’n gyfoethog iawn yn ysbrydol. Wrth iddyn nhw edrych o gwmpas y Bethel newydd, oedd hi’n amlwg eu bod nhw wedi gwirioni. Roedd caneuon y Deyrnas i’w clywed ym mhobman, a hynny yn eu steil Affricanaidd nhw eu hunain. Roedd yn ddigon i wneud ichi eisiau crio! Wna i byth anghofio hynny. Roedd yn profi heb os bod Jehofa yn bendithio’r rhai sy’n aros yn ffyddlon yn wyneb treialon.Ar ôl i’r gangen gael ei gorffen, ces i’r fraint o fynd i roi anerchiadau cysegru ar gyfer Neuaddau newydd. Cafodd Malawi ei chynnwys yn rhaglen y gyfundrefn i adeiladu Neuaddau’r Deyrnas yn sydyn mewn gwledydd tlawd. Cyn hynny, roedd rhai cynulleidfaoedd yn defnyddio coed ewcalyptws i greu adeiladau bach syml er mwyn cynnal cyfarfodydd. Roedden nhw’n plethu brwyn at ei gilydd i wneud to, ac yn gwneud meinciau hir allan o fwd. Ond bellach roedd gan y brodyr ffordd o bobi brics eu hunain er mwyn adeiladu llefydd cyfarfod hyfryd newydd. Ond roedd hi’n dal yn well ganddyn nhw feinciau oherwydd, fel maen nhw’n dweud, ‘Mae ’na wastad le i un arall ar fainc!’
Dw i hefyd wedi bod wrth fy modd i weld sut mae Jehofa yn helpu pobl i dyfu’n ysbrydol. Gwnaeth y brodyr ifanc Affricanaidd greu argraff fawr arna i, oherwydd roedden nhw mor barod i helpu, a chael eu hyfforddi mewn pethau ymarferol. Wrth iddyn nhw fagu profiad, roedden nhw’n gallu ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau yn y Bethel, ac yn y cynulleidfaoedd. O’n i hefyd yn gweld arolygwyr cylchdaith newydd yn cryfhau’r cynulleidfaoedd yn fwy byth. Roedd rhai ohonyn nhw’n briod ond yn dewis peidio â chael plant er mwyn gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. Doedd hynny ddim yn hawdd oherwydd pwysau gan eu diwylliant ac weithiau gan eu teuluoedd.
YN FODLON Â FY MHENDERFYNIADAU
Ar ôl 52 o flynyddoedd yn Affrica, gwnaeth fy iechyd ddechrau dirywio. Awgrymodd Pwyllgor y Gangen inni gael ein hailaseinio i Brydain, a chytunodd y Corff Llywodraethol. Yn anffodus, roedd rhaid inni adael yr aseiniad roedden ni’n ei garu cymaint. Ond mae’r teulu Bethel yma ym Mhrydain yn edrych ar ein holau ni yn dda iawn.
Dw i’n hollol sicr mai’r penderfyniad gorau wnes i erioed oedd gadael i Jehofa ddangos y ffordd imi. Petaswn i wedi dibynnu ar fy syniadau fy hun, pwy a ŵyr lle byddwn i heddiw. Roedd Jehofa yn gwybod o’r cychwyn beth yn union o’n i ei angen i aros ar “y ffordd iawn.” (Diar. 3:5, 6) Pan o’n i’n ddyn ifanc, o’n i’n hoff iawn o wybod beth oedd yn mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni mewn cwmni mawr. Ond mae fy ngwaith yng nghyfundrefn Jehofa wedi bod yn well nag unrhyw yrfa yn y byd. I mi, gwasanaethu Jehofa ydy’r peth gorau wnes i erioed, a bydda i wastad yn hapus fy myd â hynny!
a Mae hanes y brodyr ym Malawi ar gael yn Blwyddlyfr 1999 Tystion Jehofa, tt. 148-223.
b Bellach, mae ’na dros 100,000 o gyhoeddwyr ym Malawi.