Mae “Barnwr y Byd” Bob Amser yn Gwneud Beth Sy’n Iawn
“Mae e fel craig, a’i waith yn berffaith; mae bob amser yn gwneud beth sy’n iawn.”—DEUT. 32:4.
CANEUON: 112, 89
1. Sut dangosodd Abraham ei fod yn ymddiried yng nghyfiawnder Jehofa? (Gweler y llun agoriadol.)
“ONID ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy’n iawn?” (Gen. 18:25) Roedd y cwestiwn hwnnw’n dangos bod gan Abraham yr hyder y bydd Jehofa yn gweithredu cyfiawnder perffaith yn achos Sodom a Gomorra. Roedd Abraham yn hollol sicr na fyddai Jehofa byth yn “lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg.” Roedd Abraham yn gwybod na fyddai Jehofa “byth yn gwneud hynny!” Ryw 400 o flynyddoedd wedyn, rhoddodd Jehofa i Moses y disgrifiad hwn ohono’i hun: “Mae e fel craig, a’i waith yn berffaith; mae bob amser yn gwneud beth sy’n iawn. Bob amser yn deg ac yn onest—yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn.”—Deut. 31:19; 32:4.
2. Pam na all Jehofa fod yn anghyfiawn?
2 Pam y gallai Abraham fod mor sicr y byddai Jehofa bob amser yn barnu’n gyfiawn? Oherwydd mai Jehofa yw’r esiampl orau o gyfiawnder sydd. Yn wir, mae’r Salm 33:5.
geiriau Hebraeg sy’n trosi’r ddau syniad yn yr ymadrodd “beth sy’n deg ac yn gyfiawn” yn aml yn ymddangos gyda’i gilydd yn yr Ysgrythurau Hebraeg. Yn y bôn, does dim gwahaniaeth rhwng beth sy’n deg a beth sy’n gyfiawn. Felly, gan mai Jehofa yw’r safon uchaf posibl o ran cyfiawnder, mae’n wastad yn edrych ar bob sefyllfa’n deg. Yn ôl y Beibl: “Mae e’n caru beth sy’n deg ac yn gyfiawn.”—3. Rho enghraifft o’r math o anghyfiawnder sy’n gallu digwydd heddiw.
3 Mae gwybod bod Jehofa yn wastad yn deg yn rhoi cysur i bobl onest, oherwydd bod y byd yn llawn anghyfiawnder. O ganlyniad, mae unigolion ar adegau wedi cael eu trin yn annheg iawn. Er enghraifft, mae rhai pobl wedi eu cyhuddo a’u carcharu ar gam. Dim ond ar ôl i dystiolaeth ar sail DNA gael ei chyflwyno y mae rhai wedi eu rhyddhau a hynny ar ôl treulio degawdau yn y carchar a hwythau’n ddiniwed. Er bod anghyfiawnder o’r fath yn gallu digalonni a gwylltio rhywun, gall math arall o anghyfiawnder fod yn fwy anodd i Gristion ei ddioddef.
YN Y GYNULLEIDFA
4. Sut gall ffydd Cristion gael ei phrofi?
4 Mae Cristnogion yn gwybod y dylen nhw ddisgwyl dioddef rhywfaint o anghyfiawnder y tu allan i’r gynulleidfa. Fodd bynnag, gall ein ffydd ddod o dan brawf os ydyn ni’n dioddef yr hyn sy’n ymddangos fel anghyfiawnder y tu mewn i’r gynulleidfa. Sut byddi di’n ymateb os wyt ti’n teimlo dy fod ti wedi cael dy drin yn annheg yn y gynulleidfa neu wedi cael cam oherwydd un o dy gyd-Gristnogion? A fyddi di’n gadael i hynny dy faglu di?
5. Pam nad yw’n syndod fod anghyfiawnder yn gallu digwydd yn y gynulleidfa?
5 Oherwydd bod pob un ohonon ni’n amherffaith ac yn dueddol o bechu, rydyn ni’n cydnabod y posibilrwydd y byddwn ni naill ai’n dioddef anghyfiawnder ein hunain neu’n gyfrifol am achosi anghyfiawnder i rywun arall yn y gynulleidfa. (1 Ioan 1:8) Er bod achosion o’r fath yn brin, nid yw Cristnogion ffyddlon yn cael eu synnu na’u baglu pan fo anghyfiawnder yn digwydd. Am resymau da, mae Jehofa wedi rhoi cyngor ymarferol yn ei Air i’n helpu ni i aros yn ffyddlon, hyd yn oed os ydyn ni’n cael ein trin yn annheg gan ein cyd-addolwyr.—Salm 55:12-14.
6, 7. Pa anghyfiawnder a ddioddefodd un brawd yn y gynulleidfa, a pha rinweddau a’i helpodd ef i ymateb yn y ffordd iawn?
6 Ystyria hanes Willi Diehl. Ym 1931, dechreuodd y Brawd Diehl wasanaethu yn y cartref Bethel yn Bern, y Swistir. Ym 1946, aeth i ddosbarth 8 Ysgol Gilead yn Efrog Newydd, UDA. Ar ôl graddio, fe’i haseiniwyd i’r gwaith cylch yn y Swistir. Mae’r Brawd Diehl yn adrodd ei hanes: “Ym mis Mai 1949, dywedais wrth y brodyr yn y pencadlys yn Bern fy mod i’n bwriadu priodi.” Ymateb y swyddfa yn Bern? “Dim breintiau heblaw am arloesi’n llawn amser.” Mae’r Brawd Diehl yn esbonio mwy: “Doeddwn i ddim yn cael rhoi anerchiadau . . . Doedd llawer ddim hyd yn oed yn ein cyfarch ni, ac yn ein trin ni fel rhai wedi eu diarddel.”
7 Sut gwnaeth y Brawd Diehl ddelio gyda’r sefyllfa? Eglurodd: “Roedden ni’n gwybod nad oedd priodi yn anysgrythurol, felly, gwnaethon ni ymddiried yn Jehofa a’i droi’n noddfa drwy weddïo arno.” Yn y pen draw, cafodd y * Cwestiwn werth ei ofyn yw: ‘A fyddwn i’n dangos yr un aeddfedrwydd ysbrydol petawn i’n dioddef anghyfiawnder o’r fath? A fyddwn i’n disgwyl yn amyneddgar ar Jehofa, neu a fyddwn i’n gwneud pethau fy ffordd fy hun?’—Diar. 11:2; darllen Micha 7:7.
syniad anghywir ynglŷn â phriodas ei gywiro, cafodd breintiau’r Brawd Diehl eu hadfer, ac fe gafodd ei ffyddlondeb ei wobrwyo.8. Pam y gallet ti ddod i’r casgliad dy fod ti wedi dioddef anghyfiawnder neu fod hynny’n wir am rywun arall?
8 Ar y llaw arall, mae’n bosibl iti ddod i’r casgliad anghywir a meddwl dy fod ti wedi dioddef anghyfiawnder neu fod hynny’n wir am aelod arall o’r gynulleidfa. Gall hyn ddigwydd oherwydd nad ydyn ni wedi deall y sefyllfa’n iawn neu oherwydd nad ydy’r ffeithiau i gyd gennyn ni. Yn y ddau achos, p’un a ydyn ni’n deall y sefyllfa yn gywir neu beidio, bydd gweddïo a dibynnu ar Jehofa, ynghyd â’n ffyddlondeb, yn ein rhwystro ni rhag “dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD.”—Darllen Diarhebion 19:3.
9. Pa esiamplau y byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl hon ac yn yr un nesaf?
9 Gad inni feddwl am dair enghraifft o anghyfiawnder a ddigwyddodd ymhlith pobl Jehofa adeg y Beibl. Yn yr erthygl hon, edrychwn ar hanes Joseff, gor-ŵyr Abraham, wrth iddo ymwneud â’i frodyr. Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn rhoi sylw i’r Brenin Ahab o Israel ynghyd â hanes yr apostol Pedr yn ninas Antiochia yn Syria. Wrth inni drafod yr esiamplau hyn, edrycha am wersi a fydd yn dy helpu di i gadw dy olwg ar bethau ysbrydol ac i gadw dy berthynas â Jehofa yn gryf, yn enwedig pan fyddi di’n credu dy fod ti wedi dioddef anghyfiawnder.
JOSEFF YN DIODDEF ANGHYFIAWNDER
10, 11. (a) Pa anghyfiawnder a ddioddefodd Joseff? (b) Pa gyfle a gafodd Joseff tra oedd yn y carchar?
10 Gwnaeth Joseff, gwas ffyddlon i Jehofa, ddioddef anghyfiawnder nid yn unig dan ddwylo dynion diarth ond, yn fwy poenus, dan ddwylo ei frodyr ei hun. Pan oedd Joseff yn ei arddegau hwyr, gwnaeth ei frodyr ei herwgipio a’i werthu’n gaethwas. Yn groes i’w ewyllys, fe’i cipiwyd ymaith i’r Aifft. (Gen. 37:23-28; 42:21) Ar ôl peth amser yn y wlad honno, cafodd ei gyhuddo ar gam o ymgais i dreisio ac fe’i carcharwyd heb dreial. (Gen. 39:17-20) Dioddefodd fel caethwas a charcharor am oddeutu 13 o flynyddoedd. Pa wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth brofiad Joseff a fydd yn ein helpu ni os byddwn ni’n cael ein trin yn annheg dan ddwylo cyd-addolwr?
11 Cafodd Joseff gyfle i gyflwyno ei achos i gyd-garcharor. Trulliad neu’r un oedd yn gweini diodydd yn nhŷ’r brenin oedd y carcharor. Tra oedd Joseff a’r trulliad yn y carchar gyda’i gilydd, cafodd y trulliad freuddwyd a ddehonglwyd gan Joseff. Esboniodd Joseff y byddai’r trulliad yn mynd yn ôl i weithio yn llys y Pharo. Pan wnaeth Joseff ddehongli’r freuddwyd â help Jehofa, manteisiodd ar ei gyfle i sôn am ei sefyllfa ei hun. Gallwn ni ddysgu gwersi pwysig oddi wrth yr hyn a ddywedodd Joseff a’r hyn na ddywedodd.—Gen. 40:5-13.
12, 13. (a) Sut gwnaeth geiriau Joseff i’r trulliad ddangos nad oedd wedi derbyn yn ddigwestiwn ei sefyllfa druenus? (b) Beth na wnaeth Joseff ei ddweud wrth y trulliad?
Genesis 40:14, 15. Dywedodd Joseff ei fod wedi cael ei gipio. Mae’r term yn yr iaith wreiddiol yn golygu ei fod wedi cael ei “ddwyn.” Yn amlwg, roedd wedi dioddef cam. Dywedodd Joseff nad oedd yn euog o’r drosedd. Ar y sail honno, gofynnodd i’r trulliad sôn wrth y Pharo amdano. Pam? Er mwyn iddo “gael dod allan o’r carchar.”
12 Darllen13 Ai geiriau dyn a oedd wedi derbyn ei sefyllfa’n ddigwestiwn oedd y rhain? Ddim o gwbl. Roedd yn ymwybodol iawn o’r holl anghyfiawnder roedd wedi ei ddioddef. Esboniodd y ffeithiau’n eglur i’r trulliad, a oedd mewn sefyllfa i’w helpu. Sylwa, fodd bynnag, nad oes unrhyw awgrym yn yr Ysgrythurau fod Joseff wedi dweud wrth unrhyw un—hyd yn oed y Pharo—mai ei frodyr oedd wedi ei gipio. Yn wir, pan ddaeth ei frodyr i’r Aifft ar ôl iddyn nhw gymodi â Joseff, cawson nhw groeso gan y Pharo a’u gwahodd i ymgartrefu yn yr Aifft, ac i fwynhau’r “gorau o bopeth sydd yma yn yr Aifft.”—Gen. 45:16-20.
14. Beth fydd yn ein helpu ni i beidio â syrthio i’r fagl o siarad negyddol hyd yn oed os ydyn ni’n dioddef anghyfiawnder yn y gynulleidfa?
14 Pan fo Cristion yn teimlo ei fod wedi cael cam, dylai fod yn ofalus i beidio a hel clecs niweidiol. Wrth gwrs, priodol iawn yw gofyn i’r henuriaid am gymorth a dweud wrthyn nhw am unrhyw ddrwgweithredu difrifol yn y gynulleidfa. (Lef. 5:1) Fodd bynnag, mewn llawer o achosion lle nad oes drwgweithredu difrifol wedi digwydd, mae’n bosibl datrys anghydfod heb gynnwys unrhyw un arall, hyd yn oed yr henuriaid. (Darllen Mathew 5:23, 24; 18:15.) Gad inni ddelio gyda materion fel hyn yn unol ag egwyddorion y Beibl. Mewn rhai achosion, efallai y down ni i sylweddoli nad oedden ni wedi dioddef anghyfiawnder wedi’r cyfan. Oni fydden ni’n ddiolchgar nad oedden ni wedi gwneud y sefyllfa’n waeth drwy ddweud pethau cas am gyd-Gristion? Cofia, p’un a ydyn ni’n iawn neu beidio, dydy siarad mileinig byth yn gwella’r sefyllfa. Bod yn ffyddlon i Jehofa ac i’n brodyr sy’n mynd i’n hamddiffyn ni rhag gwneud camgymeriad o’r fath. Wrth drafod “y sawl sy’n byw bywyd di-fai,” mae’r salmydd yn dweud hyn: “Dydy e ddim yn defnyddio’i dafod i wneud drwg, i wneud niwed i neb, na gwneud hwyl ar ben pobl eraill.”—Salm 15:2, 3; Iago 3:5.
DY BERTHYNAS BWYSICAF
15. Sut gwnaeth perthynas Joseff â Jehofa ddod â bendithion iddo?
15 Mae perthynas Joseff â Jehofa yn rhoi gwers bwysig arall inni. Tra oedd Joseff yn dioddef am 13 o flynyddoedd, roedd yn edrych ar bethau o safbwynt Jehofa. (Gen. 45:5-8) Wnaeth byth roi’r bai ar Jehofa. Er na wnaeth anghofio’r cam, ni wnaeth adael i’r anghyfiawnder ei droi’n chwerw. Yn bwysicaf oll, ni chaniataodd i amherffeithrwydd a drwgweithredu pobl eraill ei wahanu oddi wrth Jehofa. Gwnaeth ffyddlondeb Joseff roi’r cyfle iddo weld llaw Jehofa yn cywiro’r anghyfiawnder ac yn ei fendithio ef a’r teulu.
16. Pam dylen ni glosio at Jehofa os ydyn ni’n dioddef anghyfiawnder yn y gynulleidfa?
16 Mae’n rhaid i ninnau hefyd warchod ein perthynas â Jehofa. Paid byth â gadael i amherffeithrwydd dy frodyr dy wahanu di oddi wrth gariad Duw. (Rhuf. 8:38, 39) Yn hytrach, os ydyn ni’n dioddef anghyfiawnder dan ddwylo cyd-addolwr, gad inni fod fel Joseff a chlosio’n fwy byth at Jehofa, a gweld pethau o’i safbwynt Ef. Pan ydyn ni wedi gwneud popeth a allwn ni i ddatrys sefyllfa, mae’n rhaid inni adael y mater yn nwylo Jehofa, yn hyderus y bydd ef yn cywiro pethau yn ei amser ei hun ac yn ei ffordd ei hun.
YMDDIRIED YN NUW
17. Sut gallwn ni ddangos bod gennyn ni hyder yn Jehofa, sef “Barnwr y byd”?
17 Cyhyd â’n bod ni’n byw yn y system hon, mae dioddef anghyfiawnder yn mynd i ddigwydd. Ar adegau prin, efallai dy fod ti neu rywun rwyt ti’n ei adnabod yn dioddef neu’n gweld rhywbeth sy’n ymddangos fel anghyfiawnder yn y gynulleidfa. Paid â chael dy faglu. (Salm 119:165) Yn hytrach, arhosa’n ffyddlon i Dduw drwy ddibynnu a gweddïo arno. Yr un pryd, rydyn ni’n cydnabod yn ostyngedig ei bod hi’n bosibl nad ydyn ni’n gwybod y ffeithiau i gyd. Rydyn ni’n ymwybodol y gall ein safbwynt amherffaith ni fod ar fai. Mae esiampl Joseff wedi ein dysgu ni i osgoi siarad negyddol, oherwydd bod hynny’n gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth. Yn olaf, yn hytrach na gwneud pethau ein ffordd ni’n hunain, bydda’n ffyddlon ac yn amyneddgar a gad i Jehofa gywiro pethau. Bydd hynny’n plesio Jehofa ac yn dod â bendithion, fel y digwyddodd yn achos Joseff. Gallwn fod yn sicr y bydd “Barnwr y byd,” Jehofa, “bob amser yn gwneud beth sy’n iawn.”—Gen. 18:25; Deut. 32:4.
18. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?
18 Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n troi ein sylw at ddau achos o anghyfiawnder a ddigwyddodd ymhlith pobl Jehofa yn nyddiau’r Beibl. Bydd adolygu’r hanesion hyn yn dangos sut mae gostyngeiddrwydd a bod yn barod i faddau yn gysylltiedig â chyfiawnder Jehofa.
^ Par. 7 Gweler hanes bywyd Willi Diehl, “Jehovah Is My God, in Whom I Will Trust,” yn rhifyn 1 Tachwedd 1991 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.