Lle Mae Gwir Obaith i’w Gael?
Lle Mae Gwir Obaith i’w Gael?
DYCHMYGWCH fod eich oriawr wedi stopio gweithio. I’w hatgyweirio, mae gynnoch chi nifer o ddewisiadau. Mae sawl siop yn dweud eu bod nhw’n gallu ei thrwsio er nad ydyn nhw’n cytuno ar sut i fynd ati. Ond beth petaech chi’n cael gwybod bod y dyn a ddyluniodd yr oriawr arbennig honno yn byw yn eich stryd? Ac mae rhywun yn dweud ei fod yn fodlon eich helpu, a hynny am ddim. Byddai’r dewis yn amlwg wedyn.
Mae’r eglureb hon yn dangos beth gallwch chi ei wneud i aros yn obeithiol. Os ydych chi’n dechrau anobeithio—fel y mae llawer yn y byd sydd ohoni—lle gallwch chi droi am help? Mae llawer o bobl yn honni bod ganddyn nhw’r ateb i’r broblem, ond mae’r llu o wahanol syniadau yn ddigon i ddrysu rhywun. Felly beth am droi at yr Un a greodd y ddynolryw ac a roddodd inni’r gallu i edrych ymlaen yn obeithiol yn y lle cyntaf? Mae’r Beibl yn dweud nad ydy Duw “yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd,” a’i fod yn barod iawn i’n helpu.—Actau 17:27; 1 Pedr 5:7.
Gwell Ddiffiniad o Obaith
Yn y Beibl, mae ystyr ehangach a dyfnach i’r gair gobaith na’r diffiniad sy’n cael ei ddefnyddio gan feddygon, gwyddonwyr, a seicolegwyr heddiw. Yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl, mae’r geiriau am obaith yn golygu aros yn eiddgar am rywbeth da. Yn y bôn, mae dwy elfen i obaith. Mae’n cynnwys y dymuniad am rywbeth da yn ogystal â’r rheswm i gredu y bydd hynny’n digwydd. Nid breuddwyd yw’r gobaith yn y Beibl. Mae ffeithiau a thystiolaeth yn sail gadarn iddo.
Yn hyn o beth, mae gobaith yn debyg i ffydd, sydd hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na hygoeledd. (Hebreaid 11:1) Eto i gyd, mae gwahaniaeth rhwng ffydd a gobaith yn y Beibl.—1 Corinthiaid 13:13.
Ystyriwch eglureb: Pan fyddwch yn gofyn ffafr gan ffrind, byddwch yn gobeithio y bydd yn fodlon helpu. Mae sail i’ch gobaith oherwydd bod gynnoch chi ffydd yn eich ffrind. Rydych chi’n ei adnabod yn dda ac wedi ei weld yn gwneud pethau caredig yn y gorffennol. Mae cysylltiad agos iawn rhwng eich ffydd a’ch gobaith, er nad ydyn nhw’n union yr un peth. Sut gallwch chi gael gobaith tebyg yn Nuw?
Rhesymau i Obeithio
Duw yw ffynhonnell gwir obaith. Mae’r Beibl yn disgrifio Jehofa fel “unig obaith Israel.” (Jeremeia 14:8) Roedd gobeithion ei bobl i gyd yn dibynnu arno ef; felly ef oedd eu gobaith. Roedd y gobaith hwn yn fwy na dymuniad. Roedd Duw wedi rhoi rheswm iddyn nhw obeithio. Dros y canrifoedd, roedd Duw wedi gwneud llawer o addewidion ac wedi cadw pob un. Dywedodd Josua wrth Israel: “Dych chi’n gwybod yn berffaith iawn fod yr ARGLWYDD wedi cadw pob un addewid wnaeth e i chi. Mae e wedi gwneud popeth wnaeth e addo.”—Josua 23:14.
Heddiw, gallwn ddibynnu ar addewidion Duw am yr un rheswm. Mae’r Beibl yn llawn o addewidion rhyfeddol Duw, a hefyd yn dangos sut cawson nhw eu cyflawni. Mae addewidion Duw mor ddibynadwy nes bod llawer ohonyn nhw wedi eu hysgrifennu fel petaen nhw eisoes wedi digwydd.
Dyna pam gallwn ddweud bod y Beibl yn llyfr llawn gobaith. Wrth ichi astudio’r Beibl, byddwch chi’n dod i ymddiried yn Nuw a theimlo yn llawer mwy gobeithiol. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i’n dysgu ni, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol.”—Rhufeiniaid 15:4.
Pa Obaith Mae Duw yn ei Gynnig?
Mae’n debyg bod angen gobaith arnon ni fwyaf pan fydd rhywun sy’n annwyl i ni yn marw. Ond yn aml, dyna pryd rydyn ni’n teimlo ein bod ni wedi colli pob gobaith. Wedi’r cwbl, pa sefyllfa sy’n cynnig llai o obaith na marwolaeth? Ni all neb ddianc oddi wrthi, ac ni allwn ni wneud dim i ddod â’n hanwyliaid yn ôl yn fyw. Nid heb reswm y mae’r Beibl yn disgrifio marwolaeth fel y “gelyn olaf.”—1 Corinthiaid 15:26.
Felly, a oes gobaith i’r rhai sydd wedi marw? Mae’r adnod sy’n dweud mai gelyn yw marwolaeth hefyd yn dweud bod y gelyn hwn “i gael ei ddinistrio.” Mae Jehofa Dduw yn gryfach na marwolaeth. Y mae wedi profi hynny. Ym mha ffordd? Mae’r Beibl yn disgrifio naw achlysur pan ddefnyddiodd Duw ei rym i ddod â phobl yn ôl yn fyw.
Er enghraifft, rhoddodd Jehofa y gallu i’w fab Iesu i atgyfodi ei ffrind annwyl, Lasarus, a oedd wedi marw ers pedwar diwrnod. A digwyddodd hyn, nid mewn cornel, ond yn agored o flaen tyrfa fawr.—Ioan 11:38-48, 53; 12:9, 10.
Efallai byddwch chi’n gofyn, ‘Pam cafodd y bobl hyn eu hatgyfodi? Wedi’r cwbl, roedden nhw’n heneiddio a marw eto yn y pen draw.’ Mae hynny’n wir. Ond mae’r atgyfodiadau hyn, nid yn unig yn creu’r dymuniad ynon ni i weld ein hanwyliaid eto, ond hefyd yn rhoi rheswm i ni gredu y byddan nhw’n cael eu hatgyfodi. Mewn geiriau eraill, mae gynnon ni wir obaith.
Dywedodd Iesu: “Fi ydy’r atgyfodiad a’r bywyd.” (Ioan 11:25) Iesu yw’r un y bydd Jehofa yn ei ddefnyddio i atgyfodi pobl drwy’r byd i gyd. Dywedodd Iesu: “Mae’r amser yn dod pan fydd pawb sy’n eu beddau yn clywed llais Mab Duw ac yn dod allan.” (Ioan 5:28, 29) Yn wir, y mae gobaith i bawb sy’n cysgu yn y bedd gael eu hatgyfodi i fyw mewn paradwys ar y ddaear.
Dyma ddisgrifiad hyfryd y proffwyd Eseia o’r atgyfodiad: “Bydd dy feirw di yn dod yn fyw! Bydd cyrff marw yn codi eto! Deffrwch a chanwch yn llawen, chi sy’n byw yn y pridd! Bydd dy olau fel gwlith y bore yn rhoi bywyd i dir y meirwon.”—Eseia 26:19.
Am addewid llawn cysur! Mae’r meirw yn y lle mwyaf diogel posib, yn debyg i blentyn sy’n ddiogel yn y groth. Yn wir, mae’r rhai sy’n gorffwys yn y bedd wedi eu cadw yng nghof perffaith a diderfyn yr Hollalluog. (Luc 20:37, 38) Yn fuan iawn, cân nhw eu croesawu yn ôl i fyw mewn byd newydd a hapus, yn debyg i’r ffordd y mae teulu yn croesawu babi newydd. Felly, mae gobaith hyd yn oed i’r rhai sydd wedi marw.
Sut Gall Gobaith Eich Helpu Chi?
Mae gan Paul lawer i’w ddweud am bwysigrwydd gobaith. Dywedodd fod gobaith yn rhan hanfodol o’n harfwisg ysbrydol, gan ei gymharu â helmed. (1 Thesaloniaid 5:8) Beth roedd Paul yn ei feddwl? Yng nghyfnod y Beibl, roedd milwyr ar faes y gad yn gwisgo helmed a oedd wedi ei gwneud o fetel, ar ben cap o ledr neu ffelt. Byddai’n gwarchod y milwr rhag ergydion i’w ben. Beth oedd pwynt Paul? Fel y mae helmed yn amddiffyn y pen, felly y mae gobaith yn amddiffyn y meddwl. Os bydd gynnoch chi obaith cadarn yn addewidion Duw, byddwch yn dawel eich meddwl hyd yn oed wrth wynebu problemau difrifol. Pwy sydd heb angen helmed o’r fath?
Rhoddodd Paul eglureb ddiddorol arall i ddangos pa mor bwysig yw gobaith. Ysgrifennodd: “Mae’r gobaith hwn yn obaith sicr—mae fel angor i’n bywydau ni, yn gwbl ddiogel.” (Hebreaid 6:19) Roedd Paul wedi bod mewn sawl llongddrylliad ac fe wyddai pa mor bwysig oedd angor. Pan oedd y llong mewn storm, byddai’r morwyr yn gollwng yr angor. Pe bai’r angor yn dal ar waelod y môr, byddai’r llong yn gallu dod drwy’r storm yn ddiogel yn lle cael ei hyrddio tua’r lan a’i dryllio ar y creigiau.
Yn yr un modd, os yw addewidion Duw “yn obaith sicr” i ni, byddwn ni’n gallu dod trwy’r dyddiau stormus hyn. Mae Jehofa yn addo bod amser yn dod pan na fydd neb yn dioddef oherwydd rhyfel, trosedd, galar neu hyd yn oed marwolaeth. (Gweler y blwch Rhesymau am Obaith.) Bydd glynu wrth y gobaith hwnnw yn ein hamddiffyn ni ac yn rhoi i ni’r nerth sydd ei angen i fod yn ufudd i Dduw yn hytrach nag efelychu agwedd y byd anfoesol o’n cwmpas.
Mae Jehofa eisiau i chithau hefyd ddal eich gafael yn y gobaith hwn. Y mae’n dymuno i chi gael bywyd hapus. Ei ddymuniad yw “i bobl o bob math gael eu hachub.” Sut? Y cam cyntaf yw “dod i wybod y gwir.” (1 Timotheus 2:4) Rydyn ni’n eich annog chi i ddysgu popeth a allwch am y gwirioneddau yng Ngair Duw. Mae’r gobaith mae Duw yn ei gynnig i chi yn well nag unrhyw obaith arall yn y byd.
Gyda gobaith o’r fath, fyddwch chi byth yn teimlo ar goll, oherwydd mae Duw yn gallu rhoi ichi’r nerth i wneud unrhyw beth sydd yn unol â’i ewyllys. (2 Corinthiaid 4:7; Philipiaid 4:13) Felly, os ydych chi’n chwilio am obaith, peidiwch â digalonni. Mae gwir obaith ar gael!
[Blwch/Llun]
Rhesymau am Obaith
Bydd yr adnodau hyn yn eich helpu i deimlo’n fwy obeithiol:
▪ Mae Duw yn addo dyfodol hapus.
Mae ei Air yn dweud y bydd y ddaear yn cael ei throi’n baradwys yn llawn pobl hapus ac unedig.—Salm 37:11, 29; Eseia 25:8; Datguddiad 21:3, 4.
▪ Ni all Dduw ddweud celwydd.
Mae Duw yn casáu pob math o gelwydd. Mae Jehofa yn sanctaidd ac yn bur, felly mae’n amhosib iddo ddweud celwydd.—Diarhebion 6:16-19; Eseia 6:2, 3; Titus 1:2; Hebreaid 6:18.
▪ Does dim terfyn ar nerth Duw.
Dim ond Jehofa sy’n hollalluog. Nid oes dim byd yn y bydysawd sy’n gallu ei atal rhag cyflawni ei addewidion.—Exodus 15:11; Eseia 40:25, 26.
▪ Mae Duw eisiau i chi fyw am byth.
—Ioan 3:16; 1 Timotheus 2:3, 4.
▪ Mae Duw yn obeithiol amdanon ni.
Mae’n dewis canolbwyntio, nid ar ein ffaeleddau, ond ar ein rhinweddau a’n hymdrechion. (Salm 103:12-14; 130:3; Hebreaid 6:10) Mae’n gobeithio y byddwn ni’n gwneud y peth iawn, ac mae’n hapus o’n gweld ni’n gwneud hynny.—Diarhebion 27:11.
▪ Mae Duw yn ein helpu ni i wneud cynnydd ysbrydol.
Nid oes rhaid i weision Duw deimlo’n ddiymadferth. Mae Duw yn rhoi ei ysbryd glân yn hael i ni, a hwnnw yw’r grym mwyaf pwerus sy’n bod.—Philipiaid 4:13, BCND.
▪ Ni fydd y rhai sy’n gobeithio yn Nuw byth yn cael eu siomi.
Mae Duw yn hollol ddibynadwy, ni fydd byth yn eich siomi.—Salm 25:3.
[Llun]
Fel y mae helmed yn amddiffyn y pen, felly y mae gobaith yn amddiffyn y meddwl
[Llun]
Yn debyg i angor, mae gobaith sicr yn gallu ein sadio ni
[Llinell Gydnabyddiaeth]
Trwy garedigrwydd René Seindal/Su concessione del Museo Archeologico Regionale A. Salinas di Palermo