Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Brais Seara/Moment via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Sychderau Difrifol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Sychderau Difrifol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
  •   “Yn ôl cofnodion Tsieina, dyma ei haf poethaf erioed, ac un o’i sychaf.”—The Guardian, Medi 7, 2022.

  •   “Yn ôl y rhagolwg, bydd rhannau o Affrica yn dioddef o sychder ofnadwy am y bumed flwyddyn yn olynol.”—UN News, Awst 26, 2022.

  •   “Mae dwy ran o dair o Ewrop mewn peryg o sychder, ac mae’n debyg mai sychder eleni yw’r gwaethaf ers 500 mlynedd.”—BBC News, Awst 23, 2022.

 Mae llawer o arbenigwyr yn disgwyl y bydd sychderau tebyg yn parhau, a hyd yn oed yn gwaethygu. Oes ’na unrhyw obaith am ddyfodol gwell? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Sychder a phroffwydoliaeth y Beibl

 Rhagfynegodd y Beibl am ein dyddiau ni:

  •   ‘Bydd ’na brinder bwyd mewn un lle ar ôl y llall.’Luc 21:11.

 Yn aml, mae sychder yn arwain at brinder bwyd. Mae prinderau bwyd o’r fath, a’r dioddefaint a’r marwolaeth sy’n dod yn eu sgil, yn cyflawni proffwydoliaeth y Beibl.—Datguddiad 6:6, 8.

Pam mae sychderau yn gwaethygu

 Mae’r Beibl yn esbonio rheswm sylfaenol pam mae sychderau’n mynd yn waeth. Mae’n dweud:

  •   “[Dydy pobl] ddim yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd.”Jeremeia 10:23.

 Mae hynny’n golygu nad ydy pobl yn gallu rheoli dros eraill yn llwyddiannus. Mae eu penderfyniadau gwael yn aml yn achosi sychderau a phrinder dŵr.

  •   Mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr yn cytuno bod pobl wedi achosi cynhesu byd-eang, ac o ganlyniad, mae ’na fwy o sychderau ledled y byd.

  •   Mae pobl hunanol, a rhai sydd wedi creu polisïau heb feddwl am y dyfodol, wedi achosi problemau fel llygredd, coedwigoedd yn cael eu dinistrio, a defnydd gwael o adnoddau naturiol. Mae hyn i gyd yn peryglu ffynonellau gwerthfawr o ddŵr.

 Ond mae’r Beibl yn rhoi gobaith.

Oes ’na unrhyw obaith ar gyfer y dyfodol?

 Mae’r Beibl yn addo y bydd Duw yn datrys y creisis o brinder dŵr rydyn ni’n ei hwynebu nawr. Sut?

  1.  1. Mae Duw am “ddinistrio’r rhai sy’n dinistrio’r ddaear.” (Datguddiad 11:18) Bydd yn cael gwared ar un o’r pethau sy’n achosi prinder dŵr—pobl ddrwg a hunanol sy’n niweidio’r amgylchedd.—2 Timotheus 3:1, 2.

  2.  2. “Bydd y tywod poeth yn troi’n bwll dŵr.” (Eseia 35:1, 6, 7) Bydd Duw yn dad-wneud y niwed sydd wedi ei achosi gan sychder, ac yn troi’r blaned yn baradwys gyda digonedd o ddŵr.

  3.  3. “Ti’n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio a’i gwneud yn hynod ffrwythlon.” (Salm 65:9) Gyda bendith Duw, bydd ’na fwy na digon o fwyd da a dŵr glân ar y ddaear i bawb.