Sut Dechreuodd Bywyd?
Sut byddech chi’n cwblhau’r frawddeg ganlynol?
MAE BYWYD WEDI . . .
ESBLYGU
CAEL EI GREU
Mae’n hawdd tybio y byddai rhywun sydd â gogwydd at wyddoniaeth yn dewis “esblygiad” ac y byddai rhywun crefyddol yn dewis “cael ei greu.”
Ond nid yw hynny bob amser yn wir.
Y gwir yw bod llawer o bobl addysgedig—gan gynnwys nifer o wyddonwyr—yn amau dilysrwydd damcaniaeth esblygiad.
Cymerwch Gerard er enghraifft, sydd yn Athro mewn Entomoleg. Pan oedd ef ei hun yn y coleg cafodd ei ddysgu fod esblygiad yn ffaith. “Yn yr arholiadau,” meddai, “byddwn i’n rhoi’r atebion yr oedd y darlithwyr yn eu disgwyl—ond doeddwn i ddim yn credu’r hyn roedden nhw’n ei ddysgu.”
Pam mae rhai pobl sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth yn ei chael hi’n anodd derbyn bod bywyd wedi cyrraedd drwy esblygiad? I ateb hynny, ystyriwch ddau gwestiwn sy’n peri penbleth i lawer o wyddonwyr: (1) Sut dechreuodd bywyd? a (2) Sut gwnaeth pethau byw ddatblygu?
Sut Dechreuodd Bywyd?
MAE RHAI’N DWEUD: Cychwynnodd bywyd ohono’i hun mewn bydysawd di-fywyd.
PAM MAE RHAI’N ANFODLON AR YR ATEB HWNNW? Mae gwyddonwyr yn gwybod mwy nag erioed am gemeg bywyd a’i strwythur ar lefel foleciwlaidd, ond eto ni allan nhw roi diffiniad sicr o beth yw bywyd. Mae bwlch anferth rhwng deunydd di-fywyd a hyd yn oed y gell fyw symlaf.
Mae gwyddonwyr yn gorfod dyfalu am yr amgylchedd ar y ddaear biliynau o flynyddoedd yn ôl. Maen nhw’n anghytuno am le dechreuodd bywyd—er enghraifft p’un ai o fewn llosgfynydd neu o dan wely’r môr. Mae eraill yn meddwl bod blociau adeiladu bywyd—yr elfennau sydd wedi dod at ei gilydd i wneud bywyd yn bosib—wedi ffurfio yn rhywle arall yn y bydysawd ac wedi cyrraedd y ddaear mewn meteorau. Ond nid yw hynny yn ateb y cwestiwn am sut dechreuodd bywyd. Yr unig beth mae’n ei wneud yw symud y cwestiwn o’r ddaear i’r gofod.
Mae gwyddonwyr yn damcaniaethu am fodolaeth moleciwlau a allai fod wedi datblygu a ffurfio’r deunydd genetig a welwn ni heddiw. Maen nhw’n tybio y byddai’r moleciwlau hynny yn fwy tebygol o godi’n ddigymell o ddeunydd difywyd, a’u bod nhw’n gallu creu copïau ohonyn nhw eu hunain. Ond nid yw’r un gwyddonydd wedi dod o hyd i dystiolaeth bod y fath foleciwlau erioed wedi bodoli, ac nid yw neb wedi llwyddo i’w creu mewn labordy.
Mae pethau byw yn unigryw yn y ffordd maen nhw’n cadw a phrosesu gwybodaeth. Mae celloedd yn trosglwyddo, dadansoddi, a dilyn y cyfarwyddiadau sydd yn eu cod genynnol. Mae rhai gwyddonwyr yn cymharu’r cod genynnol â’r meddalwedd ar gyfrifiadur, a strwythur cemegol y gell â’r caledwedd. Ond ni all esblygiad esbonio o le daeth y wybodaeth.
Er mwyn i’r gell weithio, mae angen moleciwlau protein. Mae angen cannoedd o asidau amino, wedi eu rhoi at ei gilydd mewn trefn benodol, i wneud un moleciwl protein. Ar ben hynny, er mwyn i’r moleciwl protein fod yn ddefnyddiol, mae angen cael ei blygu’n siâp tri dimensiwn penodol. Mae rhai gwyddonwyr wedi dod i’r casgliad ei bod yn annhebygol iawn y byddai hyd yn oed un moleciwl protein yn ffurfio yn ddigymell. Ysgrifennodd y ffisegydd Paul Davies: “Gan fod angen miloedd o wahanol broteinau mewn cell er mwyn iddi weithio, afresymol fyddai tybio eu bod nhw wedi ffurfio drwy hap a damwain yn unig.”
CASGLIAD. Ar ôl degawdau o ymchwil ym mron pob maes gwyddonol, y ffaith amdani yw bod bywyd ond yn dod o fywyd sydd eisoes yn bod.
Sut Gwnaeth Pethau Byw Ddatblygu?
MAE RHAI’N DWEUD: Yn araf deg, mae mwtaniadau ar hap a detholiad naturiol wedi arwain i’r organeb fyw gyntaf ddatblygu yn amrywiaeth o bethau byw, gan gynnwys bodau dynol.
PAM MAE RHAI’N ANFODLON AR YR ATEB HWNNW? Mae rhai celloedd yn fwy cymhleth nag eraill. Wrth drafod y ffordd y gallai celloedd symlach ddatblygu i fod yn gelloedd mwy cymhleth, mae un cyfeirlyfr yn dweud: “Ar ôl dirgelwch tarddiad bywyd, dyma’r ail ddirgelwch mwyaf ym maes esblygiad.”
Y tu mewn i’r gell, mae gwyddonwyr wedi darganfod peiriannau bychain cywrain, wedi eu gwneud o foleciwlau protein sy’n cydweithio er mwyn gwneud tasgau cymhleth. Mae’r tasgau hyn yn cynnwys cludo maetholion a’u troi’n egni, atgyweirio rhannau o’r gell, a chyfleu negeseuon drwy’r gell. A yw’n bosib i fwtaniadau ar hap a detholiad naturiol fod yn gyfrifol am roi’r fath beiriannau soffistigedig at ei gilydd a gwneud iddyn nhw weithio? I lawer o bobl, mae’n syniad anodd ei dderbyn.
Mae anifeiliaid a bodau dynol i gyd yn dechrau bywyd fel un wy wedi’i ffrwythloni. Y tu mewn i’r embryo, mae’r celloedd yn lluosogi ac yn y pen draw yn arbenigo, gan newid siâp a swyddogaeth er mwyn ffurfio gwahanol rannau o’r corff. Ni all esblygiad esbonio sut mae pob cell yn “gwybod” beth y dylai fod ac i le y dylai fynd o fewn yr organeb.
Er mwyn i un math o anifail droi’n fath arall o anifail, mae gwyddonwyr nawr yn sylweddoli y byddai angen i newidiadau ddigwydd yn y gell ar lefel foleciwlaidd. Gan na all gwyddonwyr ddangos sut mae esblygiad yn gallu creu hyd yn oed y gell “symlaf,” a oes unrhyw reswm da dros gredu bod mwtaniadau ar hap a detholiad naturiol yn gyfrifol am yr holl anifeiliaid gwahanol sy’n byw ar y blaned? Ynglŷn â strwythur anifeiliaid, mae’r Athro gwyddorau biolegol Michael Behe yn dweud er bod ymchwil “wedi datgelu cymhlethdod rhyfeddol ac annisgwyl, nid oes dim cynnydd wedi’i wneud i esbonio sut gallai’r fath gymhlethdod esblygu drwy brosesau diddeall.”
Mae bodau dynol nid yn unig yn ymwybodol, ond maen nhw’n gwybod eu bod nhw’n ymwybodol. Maen nhw’n gallu meddwl a rhesymu. Mae ganddyn nhw rinweddau moesol fel haelioni, hunan-aberth, a synnwyr o dda a drwg. Ni all mwtaniadau ar hap a detholiad naturiol esbonio sut daeth y rhinweddau unigryw hyn i berthyn i’r meddwl dynol.
CASGLIAD. Er bod llawer yn mynnu bod bywyd wedi dechrau drwy esblygiad a bod hynny yn ffaith ddiymwad, mae eraill yn anfodlon ar yr atebion mae esblygiad yn eu rhoi am gychwyn a datblygiad bywyd.
Ateb Gwerth Ei Ystyried
Ar ôl edrych ar y dystiolaeth, mae llawer o bobl wedi dod i’r casgliad bod bywyd wedi ei greu gan feddwl deallus uwch. Ystyriwch er enghraifft Anthony Flew, a oedd yn Athro athroniaeth. Ar un adeg roedd Flew yn dadlau’n gryf o blaid anffyddiaeth, ond ar ôl ystyried cymhlethdod syfrdanol bywyd a deddfau naturiol y bydysawd, newidiodd ei feddwl. Gan gyfeirio at gyngor athronwyr gynt, ysgrifennodd: “Mae’n rhaid inni ddilyn y ddadl i le bynnag mae’n mynd.” I’r Athro Flew, roedd y dystiolaeth yn arwain at fodolaeth Creawdwr.
Daeth Gerard, y soniwyd amdano ar ddechrau’r erthygl hon, at gasgliad tebyg. Er ei fod wedi cael addysg uwch a gyrfa mewn entomoleg, dywedodd: “Ni welais unrhyw dystiolaeth i brofi bod bywyd wedi codi’n ddigymell o ddeunydd difywyd. Mae’r drefn a’r cymhlethdod a welir mewn pethau byw yn gwneud imi gredu mai Trefnwr a Dyluniwr sy’n gyfrifol am hyn i gyd.”
Fel y mae rhywun yn dysgu am arlunydd drwy astudio ei luniau, daeth Gerard i ddeall nodweddion Duw drwy astudio byd natur. Cymerodd amser hefyd i edrych ar lyfr sy’n dweud ei fod yn dod oddi wrth y Creawdwr—y Beibl. (2 Timotheus 3:16) Yno fe welodd atebion i gwestiynau am hanes dynolryw ac atebion ymarferol i’r problemau sy’n wynebu pobl heddiw. Yn y pen draw, daeth i’r casgliad bod y Beibl hefyd wedi ei lunio gan feddwl deallus uwch.
Fel y gwelodd Gerard, mae’r atebion yn y Beibl yn werth eu hystyried. Beth am edrych arnyn nhw drostoch chi’ch hun?