BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Pam Mae Cymaint o Gasineb?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
Mae troseddau casineb, iaith casineb, trais ethnig, a rhyfel yn llenwi’r newyddion.
“Wedi ei sbarduno gan y gwrthdaro rhwng Israel a Gasa, ac wedi ei hybu gan eithafwyr, bu cynnydd sydyn mewn iaith casineb ar y cyfryngau cymdeithasol.”—The New York Times, 15 Tachwedd, 2023.
“Ers y 7fed o Hydref, mae’r byd wedi gweld cynnydd sydyn a phryderus mewn casineb, iaith casineb a throseddau casineb.” Dennis Francis, llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, 3 Tachwedd, 2023.
Does dim byd newydd am drais, rhyfel ac iaith llawn casineb. Yn wir, ceir disgrifiadau yn y Beibl o bobl yn y gorffennol a oedd “yn anelu eu geiriau creulon fel saethau” ac a oedd eisiau rhyfela a defnyddio trais i gyrraedd eu hamcanion. (Salm 64:3; 120:7; 140:1) Ond mae’r Beibl hefyd yn esbonio bod y casineb a welwn ni heddiw yn arwyddocaol.
Casineb—Un o arwyddion yr oes
Mae’r Beibl yn rhoi dau reswm pam mae cymaint o gasineb heddiw.
1. Fe ragwelodd gyfnod pan fyddai “cariad y rhan fwyaf o bobl yn oeri.” (Mathew 24:12) Yn lle dangos cariad, byddai gan lawer o bobl agweddau sy’n meithrin casineb.—2 Timotheus 3:1-5.
2. Mae’r casineb a welwn ni heddiw yn ganlyniad i ddylanwad maleisus a chreulon Satan y Diafol. Mae’r Beibl yn dweud bod y “byd cyfan yn gorwedd yng ngafael yr un drwg.”—1 Ioan 5:19; Datguddiad 12:9, 12.
Sut bynnag, mae’r Beibl hefyd yn dweud y bydd Duw yn cael gwared ar yr hyn sydd wrth wraidd casineb yn fuan. Ar ben hynny fe fydd yn helpu pobl i anghofio’r holl boen y mae casineb wedi ei hachosi. Mae’r Beibl yn addo:
Bydd Duw “yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw, ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach. Mae’r hen bethau wedi diflannu.”—Datguddiad 21:4.