Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Goddefgarwch—Sut Mae’r Beibl yn Helpu?

Goddefgarwch—Sut Mae’r Beibl yn Helpu?

 “Goddefgarwch [yw’r] rhinwedd sy’n gwneud heddwch yn bosib.”—UNESCO Declaration of Principles on Tolerance, 1995.

 Ar y llaw arall, mae diffyg goddefgarwch yn gallu creu amarch a hyd yn oed casineb. Yn aml iawn, mae’r teimladau hyn yn arwain at wahaniaethu, iaith casineb, a thrais.

 Ond nid yw pawb yn cytuno ar beth yn union yw goddefgarwch. Mae rhai’n credu y dylai pobl oddefgar dderbyn a chymeradwyo ymarferion ac ymddygiad o bob math. Mae eraill o’r farn bod pobl oddefgar yn parchu hawl pob unigolyn i ddewis gwerthoedd a daliadau nad ydyn nhw eu hunain yn eu cymeradwyo. Dyma’r safbwynt mae’r Beibl yn ei chefnogi.

 A all y Beibl helpu pobl i fod yn wirioneddol oddefgar yn y byd modern?

Sail goddefgarwch yn ôl y Beibl

 Mae’r Beibl yn ein hannog ni i fod yn oddefgar. Mae’n dweud: “Gadewch i bawb weld eich bod chi’n rhesymol.” (Philipiaid 4:5) Mae’n ein hannog ni i drin pobl eraill yn deg ac i fod yn gwrtais ac yn ystyriol. Efallai na fydd y rhai sy’n dilyn y cyngor hwn yn cytuno â gwerthoedd rhywun arall, nac yn eu mabwysiadu, ond maen nhw’n cydnabod hawl yr unigolyn i ymddwyn yn ôl ei ddymuniad.

 Sut bynnag, mae’r Beibl yn dangos bod Duw yn gosod safonau ar gyfer ein hymddygiad, gan ddweud: “Mae’r ARGLWYDD wedi dweud beth sy’n dda.” (Micha 6:8) Mae’n rhoi cyngor oddi wrth Dduw sy’n helpu pobl i gael y bywyd gorau posib.—Eseia 48:17, 18.

 Nid yw Duw wedi rhoi inni’r hawl i farnu pobl eraill. Yn ôl y Beibl, “Dim ond un Gosodwr Cyfraith a Barnwr sydd ’na . . . Pwy ydych chi i farnu eich cymydog?” (Iago 4:12) Mae Duw yn caniatáu inni ddewis droston ni ein hunain ac rydyn ni’n gyfrifol am y dewisiadau hynny.—Deuteronomium 30:19.

Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am barch?

 Mae’r Beibl yn dweud: “Rhowch barch i bawb.” (1 Pedr 2:17, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Felly mae’r rhai sy’n dewis dilyn safonau’r Beibl yn eu bywydau yn trin pawb gyda pharch, ni waeth beth yw eu daliadau neu eu dewisiadau o ran ffordd o fyw. (Luc 6:31) Nid yw hynny yn golygu y bydd y rhai sy’n dilyn y Beibl yn cytuno â phopeth mae eraill yn ei gredu, nac yn cefnogi pob penderfyniad mae eraill yn ei wneud. Ond yn lle bod yn anghwrtais neu’n amharchus tuag at bobl eraill, byddan nhw’n gwneud eu gorau i ddilyn esiampl Iesu yn y ffordd maen nhw’n trin eraill.

 Er enghraifft, ar un achlysur fe wnaeth Iesu gwrdd â dynes oedd yn credu pethau nad oedd Iesu’n cytuno â nhw. Roedd y ddynes hefyd yn byw gyda dyn nad oedd yn ŵr iddi. Doedd Iesu ddim yn cymeradwyo ei dewis yn hyn o beth. Ond eto, dangosodd Iesu barch tuag ati.—Ioan 4:9, 17-24.

 Fel Iesu, mae Cristnogion yn barod i egluro’r rhesymau dros eu daliadau i bobl sy’n fodlon gwrando, ond maen nhw’n gwneud hyn gyda “pharch dwfn.” (1 Pedr 3:15) Mae’r Beibl yn cynghori Cristnogion i beidio â gwthio eu barn ar bobl eraill. Mae’n dweud: “Does dim angen i gaethwas yr Arglwydd gweryla, ond dylai fod yn dyner tuag at bawb,” gan gynnwys y rhai sydd â daliadau gwahanol.—2 Timotheus 2:24.

Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am gasineb?

 Mae’r Beibl yn dweud y dylen ni ‘geisio heddwch â phawb.’ (Hebreaid 12:14) Ni fydd rhywun sy’n ceisio heddwch byth yn gas wrth neb. Heb fynd yn groes i’w gwerthoedd ei hun, bydd yn gwneud pob ymdrech i fyw mewn heddwch ag eraill. (Mathew 5:9) Mae’r Beibl yn annog Cristnogion i garu eu gelynion drwy fod yn garedig wrth y rhai sy’n eu trin yn gas.—Mathew 5:44.

 Mae’n wir bod y Beibl yn dweud bod Duw yn “casáu” pethau sy’n diraddio neu’n niweidio pobl, a bod pethau felly yn “ffiaidd ganddo.” (Diarhebion 6:16-19) Ond yma mae’r Beibl yn defnyddio’r gair “casáu” i ddisgrifio teimlad cryf tuag at weithredoedd drwg. Mae’r Beibl yn dangos bod Duw yn fodlon maddau i bobl sydd eisiau newid eu ffyrdd a’u helpu nhw i fyw yn ôl ei safonau.—Eseia 55:7.

Adnodau o’r Beibl sy’n ymwneud â goddefgarwch a pharch

 Titus 3:2: Byddwch “yn rhesymol, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn.”

 Bydd rhywun sy’n rhesymol yn ymateb i farn wahanol mewn ffordd addfwyn, gan hyrwyddo parch rhwng unigolion.

 Mathew 7:12: “Popeth, felly, rydych chi eisiau i ddynion ei wneud i chi, mae’n rhaid i chithau hefyd ei wneud iddyn nhw.”

 Rydyn ni i gyd yn ddiolchgar pan fydd eraill yn dangos parch tuag aton ni ac yn ystyried ein safbwynt a’n teimladau. I ddysgu mwy am sut i roi’r cyngor enwog hwn ar waith, gweler yr erthygl “Beth Yw’r Rheol Aur?

 Josua 24:15: “Dewiswch drostoch chi’ch hunain heddiw pwy rydych chi am ei wasanaethu.”

 Drwy barchu hawl pobl eraill i wneud eu dewisiadau eu hunain, rydyn ni’n hyrwyddo heddwch.

 Actau 10:34: “Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth.”

 Nid yw Duw yn gwahaniaethu yn erbyn neb ar sail diwylliant, rhyw, cenedligrwydd, hil, neu gefndir. Mae’r rhai sydd eisiau efelychu Duw yn dangos parch at bawb.

 Habacuc 1:12, 13: “[Ni all Duw] oddef camwri.” (BCND)

 Mae terfynau i oddefgarwch Duw. Ni fydd Duw yn caniatáu i ddrygioni barhau am byth. I ddysgu mwy, gwyliwch y fideo Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

 Rhufeiniaid 12:19: “Gadewch hynny i Dduw yn ei ddicter cyfiawn. Mae’r Ysgrythurau’n dweud: ‘Fi sy’n dial; fe fydda i’n talu yn ôl,’ meddai Jehofa.” a

 Nid yw Jehofa Dduw yn rhoi’r hawl i neb ddial ar eraill. Ef yw’r un a fydd yn sicrhau cyfiawnder yn ei amser ei hun. I ddysgu mwy, gweler yr erthygl “A Fydd y Cri am Gyfiawnder yn Cael ei Glywed?

a Enw personol Duw yw Jehofa. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?