CÂN 107
Patrwm Dwyfol Gariad
-
1. Jehofa sy’n dangos inni gwir gariad,
Cariad Duw, patrwm yw.
Ein hannog y mae i fod iddo’n debyg,
Byddwn yn driw, cyson wrth fyw.
Fe roddodd ei Fab, ei unig Anwylyd;
Maddeuodd yn rhad bechodau oedd enbyd;
Llawn angerdd y mae i adfer ein bywyd!
Sail ein cyd-fyw yw cariad ein Duw.
-
2. Ei ddilyn a wnawn; ar waith rhown ein cariad,
Nos a dydd gwresog fydd.
Gofalwn dros ffrind, a’r un nad yw’n perthyn,
Cymorth o fudd, mawr angen sydd.
I garu ein Duw rhaid caru ein brodyr,
Gwêl eraill fod gennym gariad ag ystyr;
Gweithredwn i fod yn wir dangnefeddwyr.
Cynnes a fydd ein cariad bob dydd.
-
3. Fe welwn yn undod teulu fawr gariad,
Closio mae, ni wêl fai.
Ymateb a wnawn i’n Tad a’i wahoddiad:
‘Undod diau llesol y mae.’
Llawenydd a chariad ffynnant o’n cwmpas,
Glân ysbryd a’r Gair gryfhânt ein cymdeithas.
Cyfeillion a brodyr annwyl rônt ragflas—
Yma y mae gwir gariad diau.
(Gweler hefyd Rhuf. 12:10; Eff. 4:3; 2 Pedr 1:7.)