Cân 146
I Mi y Gwnaethoch
-
Gwasanaethu ym mhraidd Iesu’r bugail y mae’r
defaid eraill ynghyd â’i frodyr di-wair.
Cymorth rônt i’r eneiniog,
briodferch y nef,
cânt wobr am bopeth a wnânt er eu lles.
(CYTGAN)
“Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.
Os fe roesoch i’m brawd, fe roesoch i mi.
Eich llafur i’m brawd oedd eich llafur i mi.
Pan roesoch i’m brawd fe roesoch i mi.
Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.”
-
“Bûm heb ddiod na bwyd; bûm yn noeth ac yn wael.
Daethoch ataf a rhoi cynhaliaeth yn hael.”
“Pryd y’th welsom mewn angen,”
gofynnant yn syn.
A’r brenin a fydd yn eu hateb fel hyn:
(CYTGAN)
“Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.
Os fe roesoch i’m brawd, fe roesoch i mi.
Eich llafur i’m brawd oedd eich llafur i mi.
Pan roesoch i’m brawd fe roesoch i mi.
Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.”
-
Meddai’r Brenin yn awr: “Buoch ffyddlon, do wir.
Pregethasoch ynghyd â’m brodyr trwy’r byd.
Etifeddwch y ddaear,
bendithion Duw gewch,
Wrth fyw ym Mharadwys, perffeithrwydd fwynhewch!”
(CYTGAN)
“Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.
Os fe roesoch i’m brawd, fe roesoch i mi.
Eich llafur i’m brawd oedd eich llafur i mi.
Pan roesoch i’m brawd fe roesoch i mi.
Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.”
(Gweler hefyd Diar. 19:17; Math. 10:40-42; 2 Tim. 1:16, 17.)