At Titus 1:1-16

  • Cyfarchion (1-4)

  • Titus i benodi henuriaid yn Creta (5-9)

  • Ceryddu rhai gwrthryfelgar (10-16)

1  Paul, caethwas i Dduw ac apostol i Iesu Grist yn unol â ffydd y rhai mae Duw wedi eu dewis a’r wybodaeth gywir am y gwir sy’n unol â defosiwn duwiol 2  ac sy’n seiliedig ar y gobaith o fywyd tragwyddol y gwnaeth Duw, sydd ddim yn gallu dweud celwydd, addo amser maith yn ôl; 3  ond yn ei briod amser, fe wnaeth ddatgelu ei air drwy’r gwaith pregethu a gafodd ei roi yn fy ngofal i yn unol â gorchymyn ein Hachubwr, Duw; 4  at Titus, fy mhlentyn go iawn yn unol â’r ffydd sy’n gyffredin inni: Rydw i’n dymuno iti gael caredigrwydd rhyfeddol a heddwch oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Hachubwr. 5  Fe wnes i dy adael di yn Creta er mwyn iti ddelio gyda’r pethau roedd angen cael eu cywiro* a phenodi henuriaid ym mhob un ddinas, yn ôl fy nghyfarwyddyd iti: 6  mae’n rhaid i bob henuriad yn y gynulleidfa fod yn rhydd o unrhyw gyhuddiad, yn ŵr i un wraig, a dylai ei blant fod yn gredinwyr sydd ddim wedi cael eu cyhuddo o ymddwyn yn wyllt na bod yn wrthryfelgar. 7  Oherwydd, fel goruchwyliwr Duw, mae’n rhaid i arolygwr fod yn rhydd o unrhyw gyhuddiad, nid yn bengaled, nid yn wyllt ei dymer, nid yn rhywun sy’n meddwi, nid yn dreisgar, nid yn farus am elw anonest, 8  ond yn lletygar, yn caru daioni, yn ei iawn bwyll,* yn gyfiawn, yn ffyddlon, yn dangos hunanreolaeth, 9  gan afael yn dynn yn y gair ffyddlon* ynglŷn â chrefft ei ddysgu, er mwyn iddo fedru annog* eraill â’r ddysgeidiaeth sy’n llesol* a cheryddu’r rhai sy’n gwrth-ddweud. 10  Oherwydd mae ’na lawer o ddynion gwrthryfelgar, siaradwyr ofer, a thwyllwyr, yn enwedig y rhai sy’n glynu wrth yr arfer o enwaedu. 11  Mae’n rhaid cau eu cegau, oherwydd bod yr union ddynion hyn yn parhau i danseilio ffydd teuluoedd cyfan drwy ddysgu pethau na ddylen nhw eu dysgu er mwyn elw anonest. 12  Dywedodd un ohonyn nhw, un o’u proffwydi nhw eu hunain: “Mae’r Cretiaid bob amser yn gelwyddog, yn fwystfilod gwyllt peryglus, yn bobl ddiog sy’n hoff o orfwyta.” 13  Mae’r dystiolaeth hon yn wir. Am yr union reswm hwn, parha i’w ceryddu nhw yn llym er mwyn iddyn nhw fod yn iach yn y ffydd, 14  heb dalu unrhyw sylw i chwedlau Iddewig a gorchmynion dynion sydd wedi cefnu ar y gwir. 15  Mae pob peth yn lân i bobl lân; ond i’r rhai llygredig a di-ffydd, does dim byd yn lân, oherwydd bod eu meddyliau a’u cydwybod wedi cael eu llygru. 16  Maen nhw’n datgan yn gyhoeddus eu bod nhw’n adnabod Duw, ond maen nhw’n ei wadu â’u gweithredoedd, oherwydd eu bod nhw’n ffiaidd ac yn anufudd a heb gael eu cymeradwyo i unrhyw waith da.

Troednodiadau

Neu “a oedd yn ddiffygiol.”
Neu “yn graff ei farn; yn synhwyrol.”
Neu “y neges ddibynadwy.”
Neu “cymell.”
Neu “sy’n fuddiol.”