At y Rhufeiniaid 4:1-25
4 Beth gallwn ni ei ddweud am ein cyndad Abraham?
2 Petai Abraham wedi cael ei alw’n gyfiawn trwy’r hyn a wnaeth, fe fyddai wedi cael rhywbeth i frolio amdano, ond nid o flaen Duw.
3 Beth mae’r ysgrythur yn ei ddweud? “Rhoddodd Abraham ffydd yn Jehofa,* ac roedd yn cael ei ystyried yn gyfiawn.”
4 Nawr, pan fydd dyn yn gweithio i ennill bywoliaeth, dydy ei gyflog ddim yn cael ei gyfri fel rhodd,* ond fel rhywbeth sy’n ddyledus iddo.
5 Ar y llaw arall, dychmyga ddyn sydd ddim yn gweithio ond sy’n rhoi ffydd yn Nuw. Mae Duw, sy’n galw’r dyn drwg yn gyfiawn, yn ystyried ffydd y dyn hwn yn gyfiawn.
6 Dyma beth mae Dafydd yn ei ddweud wrth iddo siarad am hapusrwydd y dyn mae Duw yn ei ystyried yn gyfiawn, er nad ydy’r dyn wedi gweithio amdano:
7 “Hapus ydy’r rhai y mae eu drwgweithredu wedi cael ei faddau iddyn nhw a’u pechodau wedi cael eu hanghofio.*
8 Hapus ydy’r dyn nad ydy Jehofa yn cyfri ei bechod yn ei erbyn.”
9 Ydy’r hapusrwydd hwn ar gyfer pobl sydd wedi cael eu henwaedu yn unig, neu hefyd ar gyfer pobl sydd heb eu henwaedu? Oherwydd dweud ydyn ni: “Roedd ffydd Abraham yn cael ei ystyried yn gyfiawn.”
10 O dan ba amgylchiadau roedd ei ffydd yn cael ei ystyried yn gyfiawn? Pan gafodd ei enwaedu neu cyn iddo gael ei enwaedu? Cyn iddo gael ei enwaedu oedd hynny.
11 Yn nes ymlaen fe dderbyniodd arwydd—hynny yw, enwaediad—fel gwarant* ei fod wedi cael ei ystyried yn gyfiawn oherwydd y ffydd a ddangosodd cyn iddo gael ei enwaedu. Roedd hyn er mwyn iddo fod yn dad i bawb sydd â ffydd er nad ydyn nhw wedi cael eu henwaedu. Yna, roedden nhw’n gallu cael eu hystyried yn gyfiawn.
12 Daeth hefyd yn dad i ddisgynyddion sydd wedi cael eu henwaedu. Fodd bynnag, nid yn unig i’r rhai sy’n cael eu henwaedu ond hefyd i’r rhai sy’n dilyn* ôl traed ffydd ein tad Abraham tra oedd ef heb ei enwaedu.
13 Oherwydd nid trwy unrhyw gyfraith y gwnaeth Abraham neu ei ddisgynyddion* dderbyn yr addewid y byddai’n etifeddu’r holl fyd. Roedd hynny oherwydd ei gyfiawnder drwy ffydd.
14 Os mai trwy’r Gyfraith y byddai pobl yn etifeddu’r addewidion, yna mae ffydd yn dda i ddim a byddai’r addewid i Abraham yn golygu dim byd.
15 Mewn gwirionedd, mae torri’r Gyfraith yn arwain i gosb,* ond lle nad oes cyfraith, ni all y gyfraith gael ei thorri.*
16 Dyna pam rydyn ni’n cael yr addewidion drwy ffydd, oherwydd mae Duw yn rhoi hyn i ni am ddim.* Gall holl ddisgynyddion* Abraham gael yr addewid—nid yn unig y rhai sy’n ufudd i’r Gyfraith ond hefyd y rhai sydd â’r un ffydd ag Abraham, sy’n dad i ni i gyd.
17 (Mae hyn yn union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Rydw i wedi dy benodi di yn dad i lawer o genhedloedd.”) Dangosodd Abraham y ffydd hon o flaen Duw, sy’n gwneud i’r meirw fyw ac sy’n siarad am bethau sydd ddim yn bodoli eto fel petasen nhw yn bodoli.
18 Roedd y gobaith o gael plant y tu hwnt i Abraham. Ar sail gobaith, roedd ganddo ffydd y byddai’n dod yn dad i lawer o genhedloedd yn ôl yr hyn roedd Duw wedi ei ddweud: “Fel hyn y bydd dy ddisgynyddion di.”
19 Er nad oedd yn wan yn ei ffydd, roedd yn meddwl am ei gorff ei hun, a oedd cystal â bod yn farw (gan ei fod tua 100 mlwydd oed). Roedd hefyd yn gwybod bod Sara yn llawer rhy hen i gael plant.
20 Ond oherwydd addewid Duw, ni wnaeth byth amau na dangos diffyg ffydd. Yn hytrach, ei ffydd a wnaeth ef yn rymus, ac fe roddodd ogoniant i Dduw.
21 Roedd yn llawn hyder fod Duw yn gallu gwneud yr hyn roedd Ef wedi ei addo.
22 Felly oherwydd ei ffydd, “roedd yn cael ei ystyried yn gyfiawn.”
23 Fodd bynnag, ni chafodd y geiriau “roedd yn cael ei ystyried yn” eu hysgrifennu amdano ef yn unig.
24 Fe gawson nhw eu hysgrifennu hefyd ar ein cyfer ni. Fe fyddwn ninnau hefyd yn cael ein hystyried yn gyfiawn oherwydd ein bod ni’n credu yn yr Hwn a wnaeth godi Iesu ein Harglwydd o’r meirw.
25 Fe gafodd ei roi yn nwylo dynion i farw dros ein pechodau. Ac fe gafodd ei atgyfodi i’n cyhoeddi ni’n gyfiawn.
Troednodiadau
^ Neu “caredigrwydd rhyfeddol.”
^ Neu “gorchuddio.”
^ Neu “sêl.”
^ Neu “cerdded mewn ffordd drefnus yn.”
^ Neu “had.”
^ Neu “at ddicter.”
^ Neu “does dim yn anghyfreithlon.”
^ Neu “er mwyn i hyn fod yn ôl caredigrwydd rhyfeddol.”
^ Neu “had.”