Yn Ôl Mathew 8:1-34
8 Ar ôl iddo ddod i lawr o’r mynydd, gwnaeth tyrfaoedd mawr ei ddilyn ef.
2 Ac edrycha! daeth dyn gwahanglwyfus ato ac ymgrymu* o’i flaen, a dweud: “Arglwydd, os wyt ti eisiau, gelli di fy ngwneud i’n lân.”
3 Felly, gan estyn ei law, dyma’n cyffwrdd â’r dyn, a dweud: “Rydw i eisiau! Bydda’n lân.” Ar unwaith cafodd ei wahanglwyf ei lanhau.
4 Yna dywedodd Iesu wrtho: “Gwna’n siŵr nad wyt ti’n dweud wrth neb, ond dos, dangosa dy hun i’r offeiriad, a chyflwyno’r offrwm a benodwyd gan Moses, yn dystiolaeth iddyn nhw.”
5 Pan aeth i mewn i Gapernaum, dyma swyddog o’r fyddin yn dod ato, yn ymbil arno
6 ac yn dweud: “Syr, mae fy ngwas yn gorwedd yn y tŷ wedi ei barlysu, ac mae’n dioddef yn ofnadwy.”
7 Dywedodd ef wrtho: “Pan fydda i’n cyrraedd yno, fe wna i ei iacháu.”
8 Atebodd y swyddog o’r fyddin: “Syr, dydw i ddim yn deilwng i ti ddod o dan fy nho i, ond dyweda’r gair yn unig ac fe fydd fy ngwas yn cael ei iacháu.
9 Oherwydd rydw innau hefyd yn ddyn o dan awdurdod, sydd â milwyr odana i, ac rydw i’n dweud wrth hwn, ‘Dos!’ ac mae’n mynd, ac wrth un arall, ‘Tyrd!’ ac mae’n dod, ac wrth fy nghaethwas, ‘Gwna hyn!’ ac mae’n ei wneud.”
10 Pan glywodd Iesu hynny, roedd wedi synnu a dywedodd wrth y rhai a oedd yn ei ddilyn: “Rydw i’n dweud y gwir wrthoch chi, dydw i ddim wedi dod o hyd i neb yn Israel sydd â ffydd mor fawr.
11 Ond rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd llawer o’r dwyrain ac o’r gorllewin yn dod ac yn cymryd eu lle wrth y bwrdd gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn Nheyrnas y nefoedd;
12 ond bydd meibion y Deyrnas yn cael eu taflu i’r tywyllwch y tu allan. Yno y byddan nhw’n wylo ac yn crensian eu dannedd.”
13 Yna dywedodd Iesu wrth y swyddog o’r fyddin: “Dos. Yn union fel rwyt ti wedi dangos ffydd, bydd yr hyn rwyt ti’n gobeithio amdano yn cael ei wneud.” Ac fe gafodd y gwas ei iacháu yn yr awr honno.
14 A phan ddaeth Iesu i dŷ Pedr, fe welodd ei fam yng nghyfraith yn gorwedd i lawr ac yn sâl oherwydd twymyn.
15 Felly dyma’n cyffwrdd â’i llaw, a diflannodd y dwymyn, a dyma hi’n codi ac yn dechrau gweini arno.
16 Ond ar ôl iddi ddechrau nosi, daeth pobl â llawer o’r rhai a oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid ato; a gwnaeth fwrw allan yr ysbrydion ag un gair, ac iacháu pawb a oedd yn dioddef,
17 er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedwyd drwy Eseia’r proffwyd: “Cymerodd ef ei hun ein salwch a chario ein hafiechydon.”
18 Pan welodd Iesu dyrfa o’i gwmpas, rhoddodd y gorchymyn i groesi i’r lan arall.
19 A daeth ysgrifennydd ato a dweud wrtho: “Athro, fe wna i dy ddilyn di le bynnag yr ei di.”
20 Ond dywedodd Iesu wrtho: “Mae gan lwynogod* ffeuau ac mae gan adar y nef nythod, ond does gan Mab y dyn unman i roi ei ben i lawr.”
21 Ac yna dywedodd un arall o’i ddisgyblion wrtho: “Arglwydd, gad imi fynd a chladdu fy nhad yn gyntaf.”
22 Dywedodd Iesu wrtho: “Dal ati i fy nilyn i, a gad i’r meirw gladdu eu meirw.”
23 A phan aeth ef i mewn i gwch, dilynodd ei ddisgyblion ef.
24 Nawr edrycha! cododd storm fawr ar y môr, nes bod y cwch yn cael ei orchuddio gan y tonnau; ond roedd ef yn cysgu.
25 A daethon nhw ato a’i ddeffro, a dweud: “Arglwydd, achuba ni, rydyn ni ar fin marw!”
26 Ond dywedodd wrthyn nhw: “Pam rydych chi mor ofnus, chi o ychydig ffydd?” Yna cododd a cheryddu’r gwyntoedd a’r môr, ac roedd ’na dawelwch mawr.
27 Felly roedd y dynion wedi synnu a dywedon nhw: “Pa fath o berson yw hwn? Mae hyd yn oed y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo.”
28 Pan ddaeth ef i’r lan arall, i mewn i ardal y Gadareniaid, daeth dau ddyn a oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid allan o blith y beddrodau* i’w gyfarfod. Roedden nhw’n eithriadol o ffyrnig, felly doedd neb yn ddigon dewr i basio heibio ar y ffordd honno.
29 Ac edrycha! dyma nhw’n sgrechian, ac yn dweud: “Beth rwyt ti eisiau gynnon ni, Fab Duw? Wyt ti wedi dod yma i’n poenydio ni cyn yr amser penodedig?”
30 Yn bell i ffwrdd oddi wrthyn nhw, roedd cenfaint fawr o foch yn pori.
31 Felly dyma’r cythreuliaid yn dechrau ymbil arno, a dweud: “Os wyt ti’n ein bwrw ni allan, anfona ni i mewn i’r genfaint o foch.”
32 A dywedodd wrthyn nhw: “Ewch!” Ac fe ddaethon nhw allan a mynd i mewn i’r moch, ac edrycha! dyma’r genfaint gyfan yn rhuthro dros y dibyn i mewn i’r môr a marw yn y dyfroedd.
33 Ond gwnaeth y bugeiliaid ffoi, ac ar ôl iddyn nhw fynd i mewn i’r ddinas, dyma nhw’n sôn am y cwbl, gan gynnwys yr hanes am y dynion a oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid.
34 Ac edrycha! daeth yr holl ddinas allan i gyfarfod â Iesu, a phan welson nhw ef, gwnaethon nhw erfyn arno i adael eu hardal.