Yn Ôl Mathew 26:1-75
-
Offeiriaid yn cynllwynio i ladd Iesu (1-5)
-
Tywallt olew persawrus ar Iesu (6-13)
-
Y Pasg olaf a’r bradychu (14-25)
-
Sefydlu Swper yr Arglwydd (26-30)
-
Rhagfynegi Pedr yn gwadu (31-35)
-
Iesu’n gweddïo yn Gethsemane (36-46)
-
Arestio Iesu (47-56)
-
Treial o flaen y Sanhedrin (57-68)
-
Pedr yn gwadu Iesu (69-75)
26 Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud yr holl bethau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion:
2 “Rydych chi’n gwybod bod y Pasg yn digwydd mewn dau ddiwrnod, a bydd Mab y dyn yn cael ei roi yn nwylo ei elynion i gael ei ddienyddio ar y stanc.”
3 Yna dyma’r prif offeiriaid a henuriaid y bobl yn dod at ei gilydd yng nghwrt yr archoffeiriad, sef Caiaffas,
4 a chynllwynio gyda’i gilydd i ddal* Iesu mewn ffordd gyfrwys ac i’w ladd.
5 Ond roedden nhw’n dweud: “Nid yn ystod yr ŵyl, er mwyn peidio ag achosi cynnwrf ymhlith y bobl.”
6 Tra oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglaf,
7 daeth dynes* ato gyda jar alabastr o olew persawrus drud, a dechreuodd hi ei dywallt* ar ei ben tra oedd yn bwyta.
8 Wrth weld hyn, aeth y disgyblion yn ddig a dweud: “Am wastraff!
9 Oherwydd gallai’r olew fod wedi cael ei werthu am lawer iawn o arian a’i roi i’r tlawd.”
10 Yn ymwybodol o hyn, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n poeni’r ddynes?* Mae hi wedi gwneud rhywbeth da imi.
11 Oherwydd mae’r tlawd gyda chi drwy’r amser, ond fydda innau ddim gyda chi drwy’r amser.
12 Pan roddodd hi’r olew persawrus hwn ar fy nghorff, roedd hi’n fy mharatoi ar gyfer fy nghladdu.
13 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, le bynnag y mae’r newyddion da hyn yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd, bydd yr hyn a wnaeth y ddynes* hon hefyd yn cael ei adrodd er cof amdani.”
14 Yna aeth un o’r Deuddeg, sef Jwdas Iscariot, at y prif offeiriaid
15 a dweud: “Beth rowch chi imi er mwyn ei fradychu ef i chi?” Dyma nhw’n cynnig 30 darn o arian iddo.
16 Felly o hynny ymlaen, roedd yn wastad yn edrych am gyfle da i’w fradychu.
17 Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, daeth y disgyblion at Iesu, gan ddweud: “Ble rwyt ti eisiau inni baratoi iti fwyta swper y Pasg?”
18 Dywedodd ef: “Ewch i mewn i’r ddinas at Hwn-a-hwn a dywedwch wrtho, ‘Mae’r Athro yn dweud: “Mae fy amser penodedig yn agos; bydda i’n dathlu’r Pasg gyda fy nisgyblion yn dy gartref.”’”
19 Felly dilynodd y disgyblion gyfarwyddyd Iesu a pharatoi ar gyfer y Pasg.
20 Ar ôl iddi nosi, roedd ef yn eistedd wrth y bwrdd gyda’r 12 disgybl.
21 Tra oedden nhw’n bwyta, dywedodd ef: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd un ohonoch chi’n fy mradychu i.”
22 Roedden nhw’n ofnadwy o drist oherwydd hyn, a dechreuodd pob un ohonyn nhw ddweud wrtho: “Arglwydd, nid fi yw’r un, nage?”
23 Atebodd yntau drwy ddweud: “Yr un sy’n dipio ei law gyda mi yn y bowlen ydy’r un a fydd yn fy mradychu.
24 Yn wir, mae Mab y dyn yn mynd i ffwrdd, yn union fel y mae’n ysgrifenedig amdano, ond gwae’r dyn hwnnw sy’n bradychu Mab y dyn! Byddai wedi bod yn well i’r dyn hwnnw petai heb gael ei eni.”
25 Dyma Jwdas, a oedd ar fin ei fradychu, yn ateb: “Nid fi yw’r un, nage, Rabbi?” Dywedodd Iesu wrtho: “Ti ddywedodd hynny.”
26 Wrth iddyn nhw barhau i fwyta, cymerodd Iesu dorth, ac ar ôl dweud bendith, torrodd y bara a’i roi i’w ddisgyblion gan ddweud: “Cymerwch, bwytewch. Mae hwn yn cynrychioli fy nghorff.”*
27 Ac yn cymryd cwpan, dyma’n diolch i Dduw ac yn ei roi iddyn nhw, gan ddweud: “Yfwch ohono, bob un ohonoch chi,
28 oherwydd mae hwn yn cynrychioli fy ngwaed, sef ‘gwaed y cyfamod,’ sydd am gael ei dywallt* er lles llawer o bobl er mwyn iddyn nhw gael maddeuant am eu pechodau.
29 Ond rydw i’n dweud wrthoch chi: Fydda i ddim ar unrhyw gyfri yn yfed y gwin hwn eto hyd y dydd hwnnw pan fydda i’n yfed gwin newydd gyda chi yn Nheyrnas fy Nhad.”
30 Wedyn, ar ôl canu mawl,* aethon nhw allan i Fynydd yr Olewydd.
31 Yna dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Byddwch chi i gyd yn cael eich baglu mewn cysylltiad â mi heno, oherwydd mae’n ysgrifenedig: ‘Bydda i’n taro’r bugail, a bydd defaid y praidd yn cael eu gwasgaru.’
32 Ond ar ôl imi gael fy nghodi, bydda i’n mynd o’ch blaen chi i mewn i Galilea.”
33 Ond atebodd Pedr drwy ddweud wrtho: “Er i’r lleill i gyd gael eu baglu mewn cysylltiad â ti, fydda i byth yn cael fy maglu!”
34 Dywedodd Iesu wrtho: “Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti, ar y noson hon, cyn i geiliog ganu, byddi di’n fy ngwadu i dair gwaith.”
35 Dywedodd Pedr wrtho: “Hyd yn oed os bydd rhaid imi farw gyda ti, fydda i ddim yn dy wadu di ar unrhyw gyfri.” Dywedodd y disgyblion eraill i gyd yr un peth hefyd.
36 Yna daeth Iesu gyda nhw i’r lle o’r enw Gethsemane, a dywedodd wrth y disgyblion: “Eisteddwch yma tra bydda i’n mynd draw acw i weddïo.”
37 Cymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus, a dechreuodd deimlo’n drist iawn ac yn hynod o ofidus.
38 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Rydw i’n* ofnadwy o drist, hyd at farw. Arhoswch yma a chadwch yn effro gyda mi.”
39 Ac aeth ymlaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb, gan weddïo: “Fy Nhad, os yw’n bosib, gad i’r cwpan hwn fynd heibio oddi wrtho i. Fodd bynnag, paid â gadael i beth rydw i eisiau ddigwydd, ond beth rwyt ti eisiau.”
40 Daeth yn ôl at y disgyblion a’u gweld nhw’n cysgu, a dywedodd wrth Pedr: “Oni allech chi gadw’n effro am hyd yn oed un awr gyda mi?
41 Cadwch yn effro a gweddïwch yn barhaol, fel na fyddwch chi’n ildio i demtasiwn. Wrth gwrs, mae’r ysbryd yn awyddus,* ond mae’r cnawd yn wan.”
42 Aeth i ffwrdd am yr eildro a gweddïo: “Fy Nhad, os nad yw’n bosib i’r cwpan hwn fynd heibio oddi wrtho i heb imi yfed ohono, gad i dy ewyllys di ddigwydd.”
43 A daeth yn ôl eto a’u gweld nhw’n cysgu, oherwydd roedd eu llygaid yn drwm.
44 Felly gadawodd nhw, ac aeth i ffwrdd eto a gweddïo am y trydydd tro, gan ddweud yr un peth unwaith eto.
45 Yna daeth yn ôl at y disgyblion a dweud wrthyn nhw: “Ar adeg fel hon, rydych chi’n cysgu ac yn gorffwys! Edrychwch! Mae’r awr wedi dod i Fab y dyn gael ei fradychu a’i roi yn nwylo pechaduriaid.
46 Codwch, dewch inni fynd. Edrychwch! Mae’r un sy’n fy mradychu wedi agosáu.”
47 Tra oedd yn dal i siarad, edrycha! daeth Jwdas, un o’r Deuddeg, gyda thyrfa fawr yn cario cleddyfau a phastynau, a oedd wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl.
48 Roedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddyn nhw, gan ddweud: “Pwy bynnag rydw i’n ei gusanu, hwnnw ydy’r un; arestiwch ef a’i gymryd i ffwrdd.”
49 Ac aeth yn syth at Iesu, a dweud: “Cyfarchion, Rabbi!” a’i gusanu’n dyner.
50 Ond dywedodd Iesu wrtho: “Pam rwyt ti yma?” Yna daethon nhw ymlaen a gafael yn Iesu a’i arestio.
51 Ond edrycha! dyma un o’r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law a thynnu ei gleddyf a tharo caethwas yr archoffeiriad, gan dorri ei glust i ffwrdd.
52 Yna dywedodd Iesu wrtho: “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy’n defnyddio’r cleddyf yn marw trwy’r cleddyf.
53 Neu wyt ti’n meddwl na alla i erfyn ar fy Nhad i roi imi ar y foment hon filoedd* o angylion?
54 Os felly, sut byddai’r Ysgrythurau yn cael eu cyflawni sy’n dweud bod rhaid iddi ddigwydd fel hyn?”
55 Yn yr awr honno dywedodd Iesu wrth y tyrfaoedd: “A ddaethoch chi allan i fy arestio gyda chleddyfau a phastynau fel yn erbyn lleidr? Ddydd ar ôl dydd roeddwn i’n arfer eistedd yn y deml yn dysgu, ond wnaethoch chi ddim fy arestio.
56 Ond mae hyn i gyd wedi digwydd er mwyn i ysgrythurau’r proffwydi gael eu cyflawni.” Yna gwnaeth y disgyblion i gyd ei adael a ffoi.
57 Gwnaeth y rhai a arestiodd Iesu ei gymryd i ffwrdd at Caiaffas yr archoffeiriad, lle roedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi dod at ei gilydd.
58 Ond gwnaeth Pedr barhau i’w ddilyn o bell, hyd at gwrt yr archoffeiriad, ac ar ôl mynd i mewn, eisteddodd gyda gweision y tŷ i weld beth fyddai’n digwydd.
59 Roedd y prif offeiriaid a’r holl Sanhedrin yn chwilio am gamdystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei roi i farwolaeth.
60 Ond chawson nhw ddim byd, er bod llawer o gau dystion wedi dod ymlaen. Yn ddiweddarach daeth dau ymlaen
61 a dweud: “Dywedodd y dyn hwn, ‘Rydw i’n gallu bwrw teml Duw i lawr a’i hadeiladu mewn tri diwrnod.’”
62 Ar hynny cododd yr archoffeiriad ar ei draed a dweud wrtho: “Onid wyt ti’n mynd i ateb? Beth am dystiolaeth y dynion hyn yn dy erbyn di?”
63 Ond arhosodd Iesu’n ddistaw. Felly dywedodd yr archoffeiriad wrtho: “Rydw i’n dy orchymyn di o dan lw i’r Duw byw i ddweud wrthon ni ai ti yw’r Crist, Mab Duw!”
64 Dywedodd Iesu wrtho: “Ti ddywedodd hynny. Ond rydw i’n dweud wrthot ti: O hyn ymlaen byddwch chi’n gweld Mab y dyn yn eistedd ar law dde yr Un Grymus* ac yn dod ar gymylau’r nef.”
65 Yna dyma’r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad, gan ddweud: “Mae wedi cablu! Pam mae angen mwy o dystion arnon ni? Edrychwch! Rydych chi newydd glywed ei gabledd.
66 Beth yw eich barn?” Atebon nhw: “Mae’n haeddu marw.”
67 Yna gwnaethon nhw boeri yn ei wyneb a’i ddyrnu. Gwnaeth eraill ei slapio yn ei wyneb,
68 gan ddweud: “Proffwyda inni, Grist. Pwy wnaeth dy daro di?”
69 Roedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cwrt, a daeth morwyn ato a dweud: “Roeddet tithau hefyd gyda Iesu’r Galilead!”
70 Ond dyma’n gwadu’r peth o flaen pawb, gan ddweud: “Dydw i ddim yn gwybod am beth rwyt ti’n sôn.”
71 Pan aeth ef allan i fynedfa’r cwrt, gwnaeth merch arall sylwi arno a dweud wrth y rhai oedd yno: “Roedd y dyn yma gyda Iesu’r Nasaread.”
72 Unwaith eto, dyma’n gwadu’r peth â llw: “Dydw i ddim yn adnabod y dyn!”
73 Ychydig wedyn, daeth y rhai a oedd yn sefyllian yno at Pedr a dweud wrtho: “Yn bendant, rwyt tithau hefyd yn un ohonyn nhw, oherwydd mae dy acen* yn dy fradychu di.”
74 Yna dechreuodd felltithio a mynd ar ei lw: “Dydw i ddim yn adnabod y dyn!” Ac ar unwaith dyma geiliog yn canu.
75 A chofiodd Pedr yr hyn a ddywedodd Iesu, sef: “Cyn i geiliog ganu, byddi di’n fy ngwadu i dair gwaith.” Ac fe aeth allan a chrio’n chwerw.
Troednodiadau
^ Neu “arestio.”
^ Neu “menyw.”
^ Neu “arllwys.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Llyth., “Hwn yw fy nghorff.”
^ Neu “arllwys.”
^ Neu “emynau; salmau.”
^ Neu “Mae fy enaid yn.”
^ Neu “yn barod.”
^ Llyth., “12 lleng.”
^ Llyth., “ar law dde grym.”
^ Neu “dy dafodiaeth.”