Yn Ôl Mathew 21:1-46

  • Iesu’n dod i mewn i Jerwsalem (1-11)

  • Iesu’n glanhau’r deml (12-17)

  • Melltithio coeden ffigys (18-22)

  • Herio awdurdod Iesu (23-27)

  • Dameg y ddau fab (28-32)

  • Dameg y ffermwyr llofruddiol (33-46)

    • Gwrthod y brif garreg gornel (42)

21  Pan ddaethon nhw’n agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage ar Fynydd yr Olewydd, yna anfonodd Iesu ddau ddisgybl, 2  gan ddweud wrthyn nhw: “Ewch i’r pentref sydd o fewn golwg, a byddwch ar unwaith yn dod o hyd i asen wedi ei rhwymo ac ebol gyda hi. Gollyngwch nhw a dewch â nhw ata i. 3  Os bydd rhywun yn dweud unrhyw beth wrthoch chi, dywedwch, ‘Yr Arglwydd sydd eu hangen nhw.’ Ar hynny bydd ef yn eu hanfon nhw ar unwaith.” 4  Yn wir, fe ddigwyddodd hyn er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedwyd drwy’r proffwyd, a ddywedodd: 5  “Dywedwch wrth ferch Seion: ‘Edrycha! Mae dy frenin yn dod atat ti, yn addfwyn ac yn eistedd ar asyn, ie, ebol asen.’”* 6  Felly aeth y disgyblion a gwneud yn union fel y gorchmynnodd Iesu iddyn nhw. 7  Daethon nhw â’r asen a’i hebol, a rhoddon nhw eu cotiau arnyn nhw, ac eisteddodd ef arnyn nhw.* 8  Gwnaeth y rhan fwyaf o’r dyrfa daenu eu cotiau ar y ffordd, tra oedd eraill yn torri canghennau o’r coed ac yn eu taenu ar y ffordd. 9  Yn ogystal, roedd y tyrfaoedd a oedd yn mynd o’i flaen a’r rhai a oedd yn ei ddilyn yn dal i weiddi: “Plîs, achuba* Fab Dafydd! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw Jehofa! Plîs achuba ef, ti sydd yn y nefoedd!” 10  A phan aeth ef i mewn i Jerwsalem, roedd y ddinas gyfan yn gynnwrf i gyd, gan ddweud: “Pwy ydy hwn?” 11  Roedd y tyrfaoedd yn dweud o hyd ac o hyd: “Hwn yw’r proffwyd Iesu, o Nasareth yng Ngalilea!” 12  Aeth Iesu i mewn i’r deml a thaflu pawb allan a oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, a throi drosodd fyrddau’r rhai a oedd yn cyfnewid arian a meinciau’r rhai a oedd yn gwerthu colomennod. 13  A dywedodd wrthyn nhw: “Mae’n ysgrifenedig, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw’n dŷ gweddi,’ ond rydych chi’n ei wneud yn ogof lladron.” 14  Hefyd, daeth pobl ddall a chloff ato yn y deml, a gwnaeth ef eu hiacháu nhw. 15  Pan welodd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion y pethau rhyfeddol a wnaeth ef, a’r bechgyn a oedd yn gweiddi yn y deml, “Plîs, achuba Fab Dafydd!” aethon nhw’n ddig 16  a dweud wrtho: “Wyt ti’n clywed beth mae’r rhain yn ei ddweud?” Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Ydw. Onid ydych chi erioed wedi darllen hyn, ‘O gegau plant a babanod, rwyt ti wedi ennyn clod’?” 17  Yna gadawodd Iesu nhw, mynd allan o’r ddinas i Fethania a threulio’r nos yno. 18  Wrth iddo ddod yn ôl i’r ddinas yn gynnar yn y bore, roedd wedi llwgu. 19  Fe welodd goeden ffigys ar ochr y ffordd a mynd draw ati, ond ni wnaeth ddod o hyd i ddim byd arni heblaw dail, a dywedodd wrthi: “Ni fydd ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto.” A dyma’r goeden ffigys yn gwywo ar unwaith. 20  Pan welodd y disgyblion hyn, roedden nhw wedi synnu a dywedon nhw: “Sut gwnaeth y goeden ffigys wywo ar unwaith?” 21  Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os bydd gynnoch chi ffydd heb amau, nid yn unig y byddwch chi’n gwneud yr hyn a wnes i i’r goeden ffigys, ond hyd yn oed os byddwch chi’n dweud wrth y mynydd hwn, ‘Cod a thafla dy hun i’r môr,’ fe fydd hynny’n digwydd. 22  A’r holl bethau rydych chi’n gofyn amdanyn nhw mewn gweddi, os oes gynnoch chi ffydd, fe fyddwch chi’n eu derbyn.” 23  Ar ôl iddo fynd i mewn i’r deml, daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato tra oedd ef yn dysgu, a dweud: “Drwy ba awdurdod rwyt ti’n gwneud y pethau hyn? A phwy roddodd yr awdurdod hwn i ti?” 24  Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Fe wna innau hefyd ofyn un peth i chi. Os gwnewch chi ateb, yna fe wna i hefyd ddweud wrthoch chi drwy ba awdurdod rydw i’n gwneud y pethau hyn: 25  O ble roedd awdurdod Ioan i fedyddio yn dod? O’r nef neu o ddynion?”* Ond dechreuon nhw resymu ymhlith ei gilydd, gan ddweud: “Os ydyn ni’n dweud, ‘O’r nef,’ bydd ef yn dweud wrthon ni, ‘Pam, felly, wnaethoch chi ddim ei gredu?’ 26  Ond os gwnawn ni ddweud, ‘O ddynion,’ mae gynnon ni’r dyrfa i’w hofni, oherwydd eu bod nhw i gyd yn meddwl bod Ioan yn broffwyd.” 27  Felly atebon nhw Iesu: “Dydyn ni ddim yn gwybod.” Felly, dywedodd yntau wrthyn nhw: “Dydw innau chwaith ddim yn mynd i ddweud wrthoch chi drwy ba awdurdod rydw i’n gwneud y pethau hyn. 28  “Beth rwyt ti’n ei feddwl? Roedd gan ddyn ddau o feibion. Gan fynd at y cyntaf, dywedodd, ‘Fy mab, dos i weithio heddiw yn y winllan.’ 29  Atebodd yntau, ‘Na, dydw i ddim yn mynd,’ ond yn nes ymlaen, dyma’n difaru a mynd. 30  Gan fynd at yr ail, dywedodd yr un peth. Atebodd hwnnw, ‘Fe wna i fynd, Syr,’ ond ni wnaeth fynd. 31  Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys ei dad?” Dywedon nhw: “Y cyntaf.” Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi fod y casglwyr trethi a’r puteiniaid yn mynd o’ch blaenau chi i mewn i Deyrnas Dduw. 32  Oherwydd fe ddaeth Ioan atoch chi yn dangos ffordd cyfiawnder, ond ni wnaethoch chi ei gredu. Fodd bynnag, gwnaeth y casglwyr trethi a’r puteiniaid ei gredu, a hyd yn oed pan welsoch chi hyn, wnaethoch chi ddim difaru na’i gredu. 33  “Gwrandewch ar ddameg arall: Roedd ’na ddyn, tirfeddiannwr, a oedd wedi plannu gwinllan, codi ffens o’i hamgylch, cloddio cafn ynddi i wasgu grawnwin,* ac adeiladu tŵr; yna gwnaeth ei gosod hi allan ar rent i ffermwyr a theithio dramor. 34  Pan ddaeth tymor y ffrwythau, anfonodd ei gaethweision at y ffermwyr i nôl ei ffrwythau. 35  Fodd bynnag, gafaelodd y ffermwyr yn ei gaethweision, curo un ohonyn nhw, lladd un arall, a llabyddio un arall. 36  Unwaith eto fe anfonodd gaethweision eraill, mwy ohonyn nhw na’r grŵp cyntaf, ond gwnaethon nhw’r un peth i’r rhai hyn. 37  Yn y diwedd fe anfonodd ei fab atyn nhw, gan ddweud, ‘Byddan nhw’n parchu fy mab.’ 38  Pan welson nhw’r mab, dywedodd y ffermwyr wrth ei gilydd, ‘Hwn ydy’r etifedd. Dewch, gadewch inni ei ladd a chael ei etifeddiaeth!’ 39  Felly gwnaethon nhw afael ynddo a’i daflu allan o’r winllan a’i ladd. 40  Felly, pan fydd perchennog y winllan yn dod, beth fydd yn ei wneud i’r ffermwyr hynny?” 41  Dywedon nhw wrtho: “Oherwydd eu bod nhw’n ddrwg, bydd yn dod â dinistr ofnadwy arnyn nhw ac yn gosod y winllan i ffermwyr eraill a fydd yn rhoi’r ffrwythau iddo yn eu tymhorau.” 42  Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Onid ydych chi erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau, ‘Y garreg a gafodd ei gwrthod gan yr adeiladwyr, hon sydd wedi dod yn brif garreg gornel.* Mae hon wedi dod o Jehofa, ac mae hi’n rhyfeddol yn ein golwg ni’? 43  Dyma pam rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd Teyrnas Dduw yn cael ei chymryd oddi wrthoch chi a’i rhoi i genedl sy’n dwyn ei ffrwythau. 44  Hefyd, bydd y person sy’n syrthio ar y garreg hon yn cael ei falu’n deilchion. A phwy bynnag mae’r garreg yn syrthio arno, bydd yn ei fathru ef.” 45  Pan glywodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion, roedden nhw’n gwybod ei fod yn siarad amdanyn nhw. 46  Er eu bod nhw eisiau ei arestio,* roedden nhw’n ofni’r tyrfaoedd, oherwydd bod y rhain yn ei ystyried yn broffwyd.

Troednodiadau

Neu “epil anifail gwaith.”
Mae’r gair “nhw” yn cyfeirio at y cotiau.
Llyth., “Hosanna.”
Neu “o darddiad dynol?”
Neu “gwinwryf.”
Llyth., “pen y gornel.”
Neu “ei ddal.”