Genesis 6:1-22

  • Meibion Duw yn cymryd gwragedd ar y ddaear (1-3)

  • Neffilim yn cael eu geni (4)

  • Drygioni dynolryw yn digalonni Jehofa (5-8)

  • Comisiynu Noa i adeiladu arch (9-16)

  • Duw yn datgan bod y Dilyw yn dod (17-22)

6  Nawr pan oedd nifer y dynion ar y ddaear yn dechrau cynyddu a merched yn cael eu geni iddyn nhw, 2  dechreuodd meibion y gwir Dduw* sylwi bod y merched* yn hardd. Felly dechreuon nhw gymryd yn wragedd unrhyw ferched* roedden nhw eisiau. 3  Yna dywedodd Jehofa: “Fydd fy ysbryd ddim yn goddef dyn am byth, oherwydd dim ond cnawd ydy ef.* Felly, bydd ef ond yn byw am 120 o flynyddoedd.” 4  Roedd y Neffilim* ar y ddaear yn y dyddiau hynny ac ar ôl hynny. Yn ystod yr adeg honno roedd meibion y gwir Dduw yn parhau i gael cyfathrach rywiol â’r merched,* a dyma nhw’n geni meibion iddyn nhw. Nhw oedd dynion cryf yr hen ddyddiau, y dynion enwog. 5  O ganlyniad, gwelodd Jehofa fod y ddaear yn llawn o ddrygioni dynion a bod pob tueddiad eu meddyliau a’u calonnau yn ddrwg drwy’r amser. 6  Roedd Jehofa’n difaru* ei fod wedi creu dynion ar y ddaear, ac roedd ei galon yn brifo.* 7  Felly dywedodd Jehofa: “Rydw i’n mynd i ddinistrio’r dynion rydw i wedi eu creu oddi ar wyneb y ddaear, dynion ynghyd ag anifeiliaid domestig, anifeiliaid sy’n ymlusgo, a chreaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd, oherwydd rydw i’n difaru fy mod i wedi eu creu nhw.” 8  Ond roedd Jehofa’n edrych yn ffafriol ar Noa. 9  Dyma hanes Noa. Dyn cyfiawn oedd Noa. Profodd ei hun yn ddi-fai* ymhlith ei gyfoedion.* Roedd Noa’n cerdded gyda’r gwir Dduw. 10  Mewn amser daeth Noa’n dad i dri mab, Sem, Ham, a Jaffeth. 11  Ond roedd y ddaear wedi cael ei difetha yng ngolwg y gwir Dduw, ac roedd y ddaear yn llawn trais. 12  Yn wir, edrychodd Duw ar y ddaear, ac roedd wedi cael ei difetha; roedd yr holl bobl yn byw bywyd llwgr ar y ddaear. 13  Ar ôl hynny dywedodd Duw wrth Noa: “Rydw i wedi penderfynu cael gwared ar yr holl bobl, oherwydd mae’r ddaear yn llawn trais o’u hachos nhw, felly rydw i am eu dinistrio nhw a phopeth arall ar y ddaear. 14  Gwna i ti dy hun arch* o bren resinaidd. Byddi di’n gwneud ystafelloedd yn yr arch a defnyddio tar* i’w gorchuddio ar y tu mewn a’r tu allan. 15  Dyma sut dylet ti ei hadeiladu: Dylai’r arch fod yn 300 cufydd* o hyd, 50 cufydd o led, a 30 cufydd o uchder. 16  Gwna ffenest ar gyfer goleuni* i’r arch, un cufydd o’r top. Dylet ti roi drws yr arch yn ei hochr a’i gwneud hi’n dri llawr, yr isaf, y canol, a’r uchaf. 17  “Rydw i’n mynd i ddod â dyfroedd y dilyw ar y ddaear i ddinistrio pob peth sy’n anadlu* o dan y nefoedd. Bydd pob creadur byw ar y ddaear yn marw. 18  Ac rydw i’n sefydlu fy nghyfamod gyda ti, ac mae’n rhaid iti fynd i mewn i’r arch, ti, dy feibion, dy wraig, a gwragedd dy feibion gyda ti. 19  A dylet ti ddod â dau o bob math o anifail, sef gwryw a benyw, i mewn i’r arch er mwyn eu cadw nhw’n fyw gyda ti; 20  o’r creaduriaid sy’n hedfan yn ôl eu mathau, o’r anifeiliaid domestig yn ôl eu mathau, ac o’r holl anifeiliaid sy’n ymlusgo ar y ddaear yn ôl eu mathau, bydd dau o bob math yn mynd i mewn yno er mwyn iti eu cadw nhw’n fyw. 21  Mae’n rhaid iti fynd i gasglu pob math o fwyd, a’i gymryd i ti ac i’r anifeiliaid ei fwyta.” 22  Ac fe wnaeth Noa bopeth roedd Duw wedi ei orchymyn iddo. Fe wnaeth yn union felly.

Troednodiadau

Idiom Hebraeg sy’n cyfeirio at feibion angylaidd Duw.
Llyth., “merched dynion.”
Neu “unrhyw fenywod.”
Neu “oherwydd ei fod yn ymddwyn yn ôl y cnawd.”
Efallai’n golygu “Y Cwympwyr,” hynny yw, y rhai sy’n achosi i eraill gwympo.
Llyth., “merched dynion.”
Neu “drist iawn.”
Neu “ac aeth yn ddigalon.”
Neu “yn ddi-nam.”
Llyth., “ei genedlaethau.”
Llyth., “gist”; llong fawr.
Neu “pyg.”
Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod).
Hebraeg, tsohar. Barn arall yw bod tsohar yn cyfeirio at do yn hytrach nag agoriad ar gyfer goleuni.
Neu “sydd ag anadl bywyd ynddyn nhw; sydd ag ysbryd bywyd ynddyn nhw.”