Genesis 25:1-34

  • Abraham yn ailbriodi (1-6)

  • Marwolaeth Abraham (7-11)

  • Meibion Ismael (12-18)

  • Jacob ac Esau yn cael eu geni (19-26)

  • Esau yn gwerthu ei hawliau fel cyntaf-anedig (27-34)

25  Nawr cymerodd Abraham wraig unwaith eto, a’i henw hi oedd Cetura. 2  Ymhen amser gwnaeth hi eni iddo Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac, a Sua. 3  Daeth Jocsan yn dad i Seba a Dedan. Meibion Dedan oedd Assurim, Letusim, a Lewmmim. 4  Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida, ac Eldaa. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Cetura. 5  Yn ddiweddarach rhoddodd Abraham bopeth oedd ganddo i Isaac, 6  ond rhoddodd Abraham anrhegion i feibion ei wragedd eraill.* Yna, tra oedd yn dal yn fyw, fe anfonodd nhw tua’r dwyrain, i ffwrdd oddi wrth Isaac ei fab, i wlad y Dwyrain. 7  Blynyddoedd bywyd Abraham oedd 175 o flynyddoedd. 8  Yna cymerodd Abraham ei anadl olaf a bu farw ar ôl mwynhau bywyd hir, yn hen ac yn fodlon, ac fe wnaethon nhw ei gladdu yn union fel gwnaethon nhw gladdu gweddill ei bobl. 9  Gwnaeth ei feibion Isaac ac Ismael ei gladdu yn ogof Machpela, yng nghae Effron fab Sohar yr Hethiad, sydd o flaen Mamre, 10  y cae roedd Abraham wedi ei brynu gan feibion Heth. Yno cafodd Abraham ei gladdu gyda’i wraig Sara. 11  Ar ôl marwolaeth Abraham, roedd Duw yn parhau i fendithio ei fab Isaac, ac roedd Isaac yn byw wrth ymyl Beer-lahai-roi. 12  Dyma hanes Ismael, mab Abraham a gafodd ei eni iddo o Hagar yr Eifftes, morwyn Sara. 13  Nawr dyma enwau meibion Ismael, wedi eu rhestri yn ôl eu henwau a’u teuluoedd: Nebaioth, cyntaf-anedig Ismael, yna Cedar, Adbeel, Mibsam, 14  Misma, Duma, Massa, 15  Hadad, Tema, Jetur, Naffis, a Cedema. 16  Dyma feibion Ismael, a dyma eu henwau yn ôl eu pentrefi a’u gwersylloedd, 12 pennaeth yn ôl eu teuluoedd. 17  Gwnaeth Ismael fyw am 137 o flynyddoedd. Yna cymerodd ei anadl olaf a marw, a gwnaethon nhw ei gladdu yn union fel gwnaethon nhw gladdu ei bobl. 18  A dechreuon nhw fyw yn yr ardal o Hafila wrth ymyl Sur, sy’n agos at yr Aifft, hyd at Asyria. Fe setlodd wrth ymyl ei holl frodyr. 19  A dyma hanes Isaac fab Abraham. Daeth Abraham yn dad i Isaac. 20  Roedd Isaac yn 40 mlwydd oed pan briododd Rebeca, merch Bethuel yr Aramead o Padan-aram, chwaer Laban yr Aramead. 21  Ac roedd Isaac yn dal i erfyn ar Jehofa ynglŷn â’i wraig, oherwydd doedd hi ddim yn gallu cael plant; felly atebodd Jehofa ei weddi, ac fe ddaeth ei wraig Rebeca yn feichiog. 22  A dechreuodd y meibion yn ei chroth frwydro â’i gilydd, nes iddi ddweud: “Os ydw i’n gorfod dioddef fel hyn, dydy bywyd ddim yn werth ei fyw.” Felly aeth hi ati i ofyn i Jehofa. 23  A dywedodd Jehofa wrthi: “Mae ’na ddwy genedl yn dy groth, a bydd dau lwyth yn cael eu geni ohonot ti; a bydd un genedl yn gryfach na’r genedl arall, a bydd yr hynaf yn gwasanaethu’r ieuengaf.” 24  Pan ddaeth yr amser iddi roi genedigaeth, edrycha! roedd gefeilliaid yn ei chroth. 25  Yna, daeth y cyntaf allan yn goch drosto ac roedd fel dilledyn o flew, felly dyma nhw’n ei alw’n Esau.* 26  Ar ôl hynny daeth ei frawd allan ac roedd ei law yn gafael yn sawdl Esau, felly gwnaeth ef ei alw’n Jacob.* Roedd Isaac yn 60 mlwydd oed pan roddodd Rebeca enedigaeth iddyn nhw. 27  Wrth i’r bechgyn dyfu, daeth Esau’n heliwr medrus, yn ddyn a oedd yn hoffi bod allan yn yr awyr agored, ond roedd Jacob yn ddyn di-fai, yn byw mewn pebyll. 28  Ac roedd Isaac yn caru Esau oherwydd ei fod yn mwynhau bwyta cig yr anifeiliaid roedd Esau’n eu hel, ond roedd Rebeca’n caru Jacob. 29  Un tro roedd Jacob yn berwi cawl pan ddaeth Esau yn ôl o’r cae wedi blino’n lân. 30  Felly dywedodd Esau wrth Jacob: “Brysia, plîs, rho ychydig o’r cawl coch yna imi, oherwydd rydw i wedi ymlâdd!”* Dyna pam ei enw oedd Edom.* 31  Atebodd Jacob: “Yn gyntaf gwertha imi dy hawliau fel cyntaf-anedig!” 32  Aeth Esau ymlaen i ddweud: “Dyma fi ar fin marw! Dydy fy hawliau fel cyntaf-anedig yn werth dim imi.” 33  Ac ychwanegodd Jacob: “Yn gyntaf dos ar dy lw!” Felly fe aeth ar ei lw a gwerthu ei hawliau fel cyntaf-anedig i Jacob. 34  Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau, ac fe wnaeth fwyta ac yfed, a chodi a mynd i ffwrdd. Fel hyn y gwnaeth Esau ddiystyru ei hawliau fel y cyntaf-anedig.

Troednodiadau

Neu “ei wragedd gordderch.”
Sy’n golygu “Blewog.”
Sy’n golygu “Un Sy’n Gafael yn y Sawdl; Disodlwr.”
Neu “llwgu.”
Sy’n golygu “Coch.”