Barnwyr 4:1-24

  • Jabin brenin Canaan yn erlid Israel (1-3)

  • Y broffwydes Debora a’r Barnwr Barac (4-16)

  • Jael yn lladd Sisera, pennaeth y fyddin (17-24)

4  Ond ar ôl i Ehud farw, unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. 2  Felly gwerthodd Jehofa nhw i law Jabin brenin Canaan, a oedd yn rheoli yn Hasor. Pennaeth ei fyddin oedd Sisera, oedd yn byw yn Haroseth y cenhedloedd.* 3  Gwaeddodd yr Israeliaid ar Jehofa am help, oherwydd roedd gan Jabin 900 o gerbydau rhyfel â chleddyfau haearn ar yr olwynion,* ac roedd ef wedi erlid yr Israeliaid yn llym am 20 mlynedd. 4  Nawr roedd proffwydes o’r enw Debora, gwraig Lappidoth, yn barnu Israel ar y pryd. 5  Roedd hi’n arfer eistedd o dan goeden balmwydd Debora, rhwng Rama a Bethel yn ardal fynyddig Effraim, ac roedd yr Israeliaid yn mynd i fyny ati am farnedigaeth. 6  Anfonodd hi neges at Barac fab Abinoam, a oedd yn Cedes-nafftali, a dywedodd wrtho: “Mae Jehofa, Duw Israel, wedi rhoi’r gorchymyn hwn iti: ‘Dos a martsia* i fynydd Tabor, a chymera 10,000 o ddynion Nafftali a Sabulon gyda ti. 7  Bydda i’n dod â Sisera, pennaeth byddin Jabin, atat ti. Gwna i ddod ag ef ynghyd â’i gerbydau rhyfel a’i filwyr i nant* Cison, a’i roi yn dy ddwylo.’” 8  Gyda hynny dywedodd Barac wrthi: “Os wyt ti’n dod gyda mi, bydda i’n mynd, ond os nad wyt ti’n dod gyda mi, fydda i ddim yn mynd.” 9  I hynny, dywedodd hi: “Yn sicr, bydda i’n mynd gyda ti. Ond, fydd yr ymgyrch rwyt ti’n mynd arni ddim yn dod â gogoniant i ti, achos bydd Jehofa yn defnyddio dynes* i ladd Sisera.” Yna cododd Debora a mynd gyda Barac i Cedes. 10  Dyma Barac yn galw Sabulon a Nafftali i Cedes, a gwnaeth 10,000 o ddynion ei ddilyn. Aeth Debora gydag ef hefyd. 11  Fel mae’n digwydd, roedd Heber y Cenead wedi gwahanu oddi wrth y Ceneaid, disgynyddion Hobab, tad-yng-nghyfraith Moses, ac roedd ei babell wedi ei gosod yn agos i’r goeden fawr yn Saanannim, sydd yn Cedes. 12  Dyma nhw’n sôn wrth Sisera fod Barac fab Abinoam wedi mynd i fyny i Fynydd Tabor. 13  Ar unwaith, casglodd Sisera ei holl gerbydau rhyfel—900 o gerbydau â chleddyfau haearn ar yr olwynion*—a’r holl filwyr oedd gydag ef er mwyn mynd o Haroseth y cenhedloedd i fyny i nant* Cison. 14  Yna dywedodd Debora wrth Barac: “Cod, oherwydd dyma’r diwrnod bydd Jehofa yn rhoi Sisera yn dy law. Onid ydy Jehofa yn mynd allan o dy flaen di?” Ac aeth Barac i lawr o Fynydd Tabor gyda 10,000 o ddynion yn ei ddilyn. 15  Wedyn, dyma Jehofa yn drysu Sisera, ei holl gerbydau rhyfel, a’r fyddin gyfan o flaen cleddyf Barac. Yn y pen draw, daeth Sisera i lawr o’i gerbyd a rhedeg i ffwrdd. 16  Aeth Barac ar ôl y cerbydau rhyfel a’r fyddin mor bell â Haroseth y cenhedloedd. Felly cafodd byddin gyfan Sisera ei lladd â’r cleddyf; doedd dim hyd yn oed un milwr ar ôl. 17  Ond roedd Sisera wedi ffoi i babell Jael, gwraig Heber y Cenead, oherwydd roedd ’na heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead. 18  Yna, daeth Jael allan i gyfarfod Sisera, a dywedodd wrtho: “Tyrd i mewn, fy arglwydd, tyrd i mewn i fan hyn. Paid ag ofni.” Felly aeth i mewn i’w phabell, a rhoddodd hi flanced drosto. 19  Yna dywedodd ef wrthi: “Plîs rho imi ychydig o ddŵr i’w yfed, oherwydd rydw i’n sychedig.” Felly agorodd hi botel groen o laeth a rhoi diod iddo. Yna, rhoddodd hi’r flanced drosto eto. 20  Dywedodd wrthi: “Saf wrth fynedfa’r babell, ac os ydy unrhyw un yn dod ac yn gofyn iti, ‘Oes ’na ddyn yma?’ dyweda, ‘Nac oes!’” 21  Ond cymerodd Jael, gwraig Heber, hoelen babell a morthwyl yn ei llaw. Yna, tra oedd ef wedi blino’n lân ac yn cysgu’n drwm, aeth hi ato’n ddistaw bach a gyrru’r hoelen drwy ochr ei ben a’i tharo i mewn i’r ddaear, a’i ladd. 22  Roedd Barac wedi bod yn dilyn Sisera, felly aeth yno a daeth Jael allan i’w gyfarfod a dywedodd hi: “Tyrd i mewn, a gwna i ddangos iti’r dyn rwyt ti’n edrych amdano.” Aeth i mewn gyda hi a gweld Sisera yn gorwedd yno yn farw, gyda’r hoelen babell drwy ei ben. 23  Felly ar y diwrnod hwnnw, rhoddodd Duw fuddugoliaeth i’r Israeliaid dros Jabin brenin Canaan. 24  Daeth llaw yr Israeliaid yn fwy ac yn fwy pwerus yn erbyn Jabin brenin Canaan, nes iddyn nhw ei ddinistrio.

Troednodiadau

Neu “Haroseth-hagoïm.”
Llyth., “cerbydau haearn.”
Neu “gorymdeithia.”
Neu “wadi.”
Neu “menyw.”
Llyth., “cerbydau haearn.”
Neu “wadi.”