Actau’r Apostolion 15:1-41
-
Dadl yn Antiochia ynglŷn ag enwaedu (1, 2)
-
Dod â chwestiynau i Jerwsalem (3-5)
-
Henuriaid ac apostolion yn cyfarfod gyda’i gilydd (6-21)
-
Llythyr oddi wrth y corff llywodraethol (22-29)
-
Gwrthod gwaed (28, 29)
-
-
Cynulleidfaoedd yn cael eu hannog gan y llythyr (30-35)
-
Paul a Barnabas yn mynd i’w ffyrdd eu hunain (36-41)
15 Nawr daeth rhai dynion i lawr o Jwdea a dechreuon nhw ddysgu’r brodyr: “Os dydych chi ddim yn cael eich enwaedu yn ôl Cyfraith Moses, allwch chi ddim cael eich achub.”
2 Ond ar ôl cryn dipyn o anghydfod a dadlau rhyngddyn nhw a Paul a Barnabas, dyma’r brodyr yn trefnu i Paul, Barnabas, a rhai o’r lleill fynd i fyny at yr apostolion a henuriaid yn Jerwsalem ynglŷn â’r ddadl hon.
3 Felly ar ôl i’r gynulleidfa fynd gyda nhw ran o’r ffordd, gwnaeth y dynion hyn fynd ymlaen trwy Phoenicia a Samaria, yn adrodd pob manylyn o’r hanes am sut roedd pobl y cenhedloedd yn troi at Dduw, ac wrth glywed hyn gwnaeth y brodyr i gyd lawenhau yn fawr.
4 Pan gyrhaeddon nhw Jerwsalem, cawson nhw eu croesawu’n garedig gan y gynulleidfa a’r apostolion a’r henuriaid, a dyma nhw’n adrodd yr holl bethau roedd Duw wedi eu gwneud trwyddyn nhw.
5 Ond gwnaeth rhai o sect y Phariseaid a oedd wedi dod yn gredinwyr godi o’u seddi a dweud: “Mae’n angenrheidiol iddyn nhw gael eu henwaedu ac i ni orchymyn iddyn nhw gadw Cyfraith Moses.”
6 Felly daeth yr apostolion a’r henuriaid at ei gilydd i ystyried y mater hwn.
7 Ar ôl trafod y mater yn fanwl,* cododd Pedr a dywedodd wrthyn nhw: “Ddynion, frodyr, rydych chi’n gwybod yn iawn fod Duw wedi fy newis i i fod yr un cyntaf ohonon ni i gyd i gyhoeddi’r gair am y newyddion da i bobl y cenhedloedd er mwyn iddyn nhw gredu.
8 A gwnaeth Duw, sy’n adnabod y galon, roi tystiolaeth ei fod wedi eu cymeradwyo nhw drwy roi’r ysbryd glân iddyn nhw, yn union fel y gwnaeth i ninnau hefyd.
9 Ac ni wnaeth ef wahaniaethu o gwbl rhyngddon ni a nhwthau, ond fe wnaeth buro eu calonnau drwy ffydd.
10 Felly pam rydych chi nawr yn rhoi prawf ar Dduw drwy fynnu gosod iau ar y disgyblion, iau nad oedd ein cyndadau na ninnau’n gallu ei chario?
11 I’r gwrthwyneb, mae gynnon ni ffydd ein bod ni wedi cael ein hachub drwy garedigrwydd rhyfeddol yr Arglwydd Iesu yn yr un ffordd ag y maen nhw.”
12 Ar hynny aeth y grŵp cyfan yn ddistaw, a dechreuon nhw wrando ar Barnabas a Paul wrth iddyn nhw sôn am yr holl arwyddion a rhyfeddodau roedd Duw wedi eu gwneud trwyddyn nhw ymhlith y cenhedloedd.
13 Ar ôl iddyn nhw orffen siarad, atebodd Iago: “Ddynion, frodyr, gwrandewch arna i.
14 Mae Symeon* wedi sôn yn fanwl am sut gwnaeth Duw droi ei sylw at y cenhedloedd am y tro cyntaf i gymryd allan ohonyn nhw bobl i ddwyn ei enw.
15 Ac mae geiriau’r Proffwydi yn cytuno â hyn, yn union fel mae’n ysgrifenedig:
16 ‘Ar ôl y pethau hyn bydda i’n dod yn ôl ac yn codi pabell* Dafydd unwaith eto sydd wedi disgyn i lawr; bydda i’n ailadeiladu ei hadfeilion ac yn ei hadfer hi,
17 er mwyn i’r dynion sydd ar ôl geisio Jehofa o ddifri, ynghyd â phobl yr holl genhedloedd, pobl sy’n cael eu galw wrth fy enw i, meddai Jehofa, sy’n gwneud y pethau hyn,
18 pethau hysbys ers amser maith.’
19 Felly, fy mhenderfyniad* ydy peidio â chreu trafferth i’r rhai o’r cenhedloedd sy’n troi at Dduw,
20 ond i ysgrifennu atyn nhw i wrthod pethau sydd wedi cael eu llygru gan eilunod, anfoesoldeb rhywiol,* anifeiliaid sydd wedi cael eu tagu,* a gwaed.
21 Oherwydd ers yr oesoedd a fu, yn ninas ar ôl dinas, mae pobl wedi bod yn pregethu o lyfrau Moses, oherwydd maen nhw’n darllen yn uchel o’r llyfrau hyn yn y synagogau bob saboth.”
22 Yna penderfynodd yr apostolion a’r henuriaid, ynghyd â’r holl gynulleidfa, anfon dynion wedi eu dewis o’u plith i Antiochia, gyda Paul a Barnabas; anfonon nhw Jwdas a oedd yn cael ei alw’n Barsabas a Silas, dynion a oedd yn arwain ymhlith y brodyr.
23 Ysgrifennon nhw hyn a’i anfon trwyddyn nhw:
“Yr apostolion a’r henuriaid, eich brodyr, at y brodyr hynny yn Antiochia, Syria, a Cilicia sydd o’r cenhedloedd: Cyfarchion!
24 Gan ein bod ni wedi clywed bod rhai wedi mynd allan o’n plith ac wedi creu stŵr ichi â’r hyn maen nhw wedi ei ddweud, yn ceisio eich tanseilio,* er nad oedden ni wedi rhoi unrhyw gyfarwyddiadau iddyn nhw,
25 rydyn ni wedi penderfynu’n unfrydol ddewis dynion a’u hanfon nhw atoch chi gyda’n ffrindiau annwyl Barnabas a Paul,
26 dynion sydd wedi risgio eu bywydau* dros enw ein Harglwydd Iesu Grist.
27 Rydyn ni felly yn anfon Jwdas a Silas, fel y gallan nhw adrodd yr un pethau ar lafar.
28 Oherwydd mae’r ysbryd glân a ninnau wedi penderfynu peidio â gosod dim mwy o faich arnoch chi na’r pethau angenrheidiol hyn:
29 gwrthod pethau sydd wedi cael eu haberthu i eilunod, gwaed, yr hyn sydd wedi cael ei dagu,* ac anfoesoldeb rhywiol.* Os ydych chi’n ofalus i’ch cadw eich hunain rhag y pethau hyn, bydd pethau’n mynd yn dda ichi. Iechyd da ichi!”*
30 Felly pan gafodd y dynion hyn eu hanfon i ffwrdd, aethon nhw i lawr i Antiochia, a galwon nhw’r holl grŵp at ei gilydd a rhoi’r llythyr iddyn nhw.
31 Ar ôl ei ddarllen, roedden nhw’n llawenhau o achos yr anogaeth.
32 Gan fod Jwdas a Silas hefyd yn broffwydi, gwnaethon nhw annog y brodyr drwy gyfrwng llawer o anerchiadau a’u cryfhau nhw.
33 Ar ôl iddyn nhw dreulio ychydig o amser yno, fe gawson nhw eu hanfon i ffwrdd mewn heddwch gan y brodyr at y rhai a oedd wedi eu hanfon nhw.
34 ——
35 Ond arhosodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a chyhoeddi, ynghyd â llawer eraill, y newyddion da am air Jehofa.
36 Ar ôl rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas: “Gad inni fynd yn ôl nawr ac ymweld â’r brodyr ym mhob un o’r dinasoedd lle roedden ni’n cyhoeddi gair Jehofa, i weld sut maen nhw.”
37 Roedd Barnabas yn benderfynol o gymryd Ioan, a oedd yn cael ei alw’n Marc.
38 Ond doedd Paul ddim o blaid ei gymryd ef gyda nhw, gan ei fod wedi eu gadael nhw tra oedden nhw yn Pamffylia ac nid oedd wedi mynd gyda nhw i’r gwaith pregethu.
39 Ar hynny taniodd ffrae ddifrifol rhyngddyn nhw, nes iddyn nhw wahanu oddi wrth ei gilydd; a chymerodd Barnabas Marc gydag ef a hwylio i Gyprus.
40 Dewisodd Paul Silas ac aeth i ffwrdd ar ôl iddo gael ei roi gan y brodyr yng ngofal caredigrwydd rhyfeddol Jehofa.
41 Aeth ef trwy Syria a Cilicia, yn cryfhau’r cynulleidfaoedd.
Troednodiadau
^ Neu “Ar ôl llawer o ddadlau.”
^ Ffurf arall ar yr enw Simon (Pedr).
^ Neu “tŷ.”
^ Neu “fy marn.”
^ Neu “yr hyn sydd wedi cael ei ladd heb ddraenio ei waed.”
^ Neu “yn ceisio tanseilio eich eneidiau.”
^ Neu “eneidiau.”
^ Neu “yr hyn sydd wedi cael ei ladd heb ddraenio ei waed.”
^ Neu “Ffarwel.”