Yr Ail at y Corinthiaid 2:1-17

  • Bwriad Paul i ddod â llawenydd (1-4)

  • Pechadur yn cael ei faddau a’i adfer (5-11)

  • Paul yn Troas a Macedonia (12, 13)

  • Y weinidogaeth, prosesiwn o fuddugoliaeth (14-17)

    • Nid pedleriaid gair Duw (17)

2  Penderfynais beidio â dod atoch chi unwaith eto mewn tristwch. 2  Oherwydd os ydw i’n eich gwneud chi’n drist, pwy fydd yno i godi fy nghalon heblaw am y sawl a gafodd ei wneud yn drist gen i? 3  Ysgrifennais yr hyn a wnes i fel na fyddwn i, pan fydda i’n dod atoch chi, yn cael fy ngwneud yn drist gan y rhai y dylwn i lawenhau ynddyn nhw, oherwydd fy mod i’n hyderus y bydd yr hyn sy’n dod â llawenydd i mi yn dod â’r un llawenydd i chi i gyd. 4  Oherwydd ysgrifennais atoch chi o ganol llawer o dreialon a gofid calon ac mewn dagrau lawer, nid er mwyn eich gwneud chi’n drist, ond er mwyn rhoi gwybod ichi pa mor ddwfn ydy’r cariad sydd gen i tuag atoch chi. 5  Nawr os oes unrhyw un wedi achosi tristwch, mae ef wedi achosi tristwch, nid i mi, ond i bob un ohonoch chi i raddau—nid i fod yn rhy galed yn yr hyn rydw i’n ei ddweud. 6  Mae’r cerydd hwn a roddwyd gan y mwyafrif yn ddigon i ddyn o’r fath; 7  nawr fe ddylech chi yn hytrach faddau iddo’n garedig a’i gysuro, rhag ofn iddo gael ei lethu gan ormod o dristwch. 8  Rydw i, felly, yn eich cymell chi i gadarnhau eich cariad tuag ato. 9  Oherwydd er mwyn hyn hefyd y gwnes i ysgrifennu atoch chi: i weld a fyddech chi’n dangos eich bod chi’n ufudd ym mhob peth. 10  Os ydych chi’n maddau i unrhyw un am unrhyw beth, rydw innau hefyd. Yn wir, mae beth bynnag rydw i wedi ei faddau (os ydw i wedi maddau unrhyw beth) wedi bod er eich mwyn chi yng ngolwg Crist, 11  er mwyn inni beidio â chael ein twyllo gan Satan, gan ein bod ni’n gwybod yn iawn am ei gynllwynion.* 12  Nawr pan gyrhaeddais Troas er mwyn cyhoeddi’r newyddion da am y Crist ac fe gafodd drws ei agor imi yn yr Arglwydd, 13  doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl* oherwydd doeddwn i ddim wedi dod o hyd i Titus fy mrawd. Felly dywedais hwyl fawr wrthyn nhw a chychwyn am Facedonia. 14  Ond diolch i Dduw, sydd bob amser yn ein harwain ni mewn prosesiwn o fuddugoliaeth yng nghwmni’r Crist ac sydd, trwyddon ni, yn taenu persawr y wybodaeth amdano ym mhob man! 15  Oherwydd persawr Crist ydyn ni i Dduw ymhlith y rhai sy’n cael eu hachub ac ymhlith y rhai sydd ar y ffordd i ddistryw; 16  i’r rhai olaf hynny rydyn ni’n arogl* marwolaeth sy’n arwain i farwolaeth, i’r rhai blaenorol rydyn ni’n bersawr bywyd sy’n arwain i fywyd. A phwy sy’n ddigon cymwys ar gyfer y pethau hyn? 17  Y ni sydd, oherwydd nid pedleriaid gair Duw ydyn ni,* fel y mae llawer o ddynion, ond rydyn ni’n siarad yn gwbl ddidwyll fel rhai sydd wedi eu hanfon gan Dduw, ie, yng ngolwg Duw ac yng nghwmni Crist.

Troednodiadau

Neu “ei fwriadau.”
Neu “ni chefais lonydd yn fy ysbryd.”
Neu “yn bersawr.”
Neu “dydyn ni ddim yn masnacheiddio gair Duw; dydyn ni ddim yn gwneud elw o air Duw.”